Cymorth a Help Proffesiynol
Fel hyfforddai deintyddol arbenigol, efallai y byddwch yn cael anawsterau sy'n effeithio ar eich gwaith a/neu eich hyfforddiant. Os oes gennych chi broblemau iechyd, anawsterau teuluol, problemau yn y gweithle, amheuon ynghylch yr yrfa rydych chi wedi'i dewis neu os nad ydych chi wedi cael llwyddiant yn eich arholiadau, cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun. Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau fel y rhain, gall AaGIC roi cymorth, arweiniad a chefnogaeth i chi. Mae nifer o opsiynau i chi eu hystyried os oes angen cymorth arnoch. Yn gyntaf oll, trafodwch unrhyw bryderon gyda’ch Goruchwyliwr Addysgol neu Gyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi. Byddant yn gallu eich cynghori a rhoi cymorth uniongyrchol i chi yn eich man hyfforddi; a gallant eich cyfeirio at unigolion yn AaGIC neu eich Bwrdd Iechyd os oes angen.
Uned Cymorth Proffesiynol
Mae gan AaGIC Uned Cymorth Proffesiynol sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth i bob deintydd a meddyg dan hyfforddiant er mwyn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd hyfforddi. Gellir atgyfeirio drwy'r Deon Deintyddol Ôl-raddedig, y Deon Cyswllt (Hyfforddiant Deintyddol Arbenigol a Hyfforddiant Deintyddol Craidd), Cyfarwyddwyr Rhaglenni Hyfforddi neu drwy hunangyfeirio.
Mae'r Uned Cymorth Proffesiynol yn darparu amrywiaeth o weithdai i helpu i gefnogi hyfforddeion a Goruchwylwyr Addysgol yn eu rolau. Gallwch ddod o hyd i’r digwyddiadau hyfforddi hyn yma: Hyfforddiant sydd ar gael – AaGIC (gig.cymru)
Manylion cyswllt yr Uned Cymorth Proffesiynol:
Ffôn: 0330 0584 211
E-bost: HEIW.ProfessionalSupport@wales.nhs.uk
Gwefan: https://heiw.nhs.wales/support/professional-support-unit-psu/
Uned Gyrfaoedd
Mae gan AaGIC Uned Gyrfaoedd sy'n gallu darparu cymorth, gwybodaeth ac arweiniad ar bryderon fel: amheuon yn ystod misoedd cyntaf rhaglen hyfforddi newydd, ansicrwydd ynghylch llwybr a ddewiswyd neu beidio â symud ymlaen yn y llwybr a ddewiswyd.
Manylion cyswllt yr Uned Gyrfaoedd:
Ffôn: 0330 0585 002
E-bost: HEIW.MedicalCareers@wales.nhs.uk