Neidio i'r prif gynnwy

Cyfryngau cymdeithasol

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cyfryngau cymdeithasol wedi gwreiddio eu hunain yn gyflym yn ein bywydau bob dydd. Mae’n gyfle gwych i sefydliadau ac unigolion wrando a chael sgyrsiau proffesiynol a phersonol, ond mae’n werth ystyried y pwyntiau pwysig isod.

  • Mae cyfryngau cymdeithasol yn gallu cymylu’r ffin rhwng bywyd cyhoeddus a bywyd proffesiynol unigolyn.
  • Dylai deintyddion gael gosodiadau preifatrwydd ceidwadol – cofiwch na ellir diogelu pob darn o wybodaeth ar y we.
  • Mae’r ddyletswydd foesegol a chyfreithiol i ddiogelu cyfrinachedd cleifion yr un mor berthnasol ar y rhyngrwyd ag i gyfryngau eraill.
  • Byddai’n amhriodol postio sylwadau anffurfiol, personol neu ddifrïol am gleifion neu gydweithwyr.
  • Ni ddylai deintyddion dderbyn ceisiadau ‘ffrind’ gan gleifion presennol na chyn gleifion.
  • Gall y gyfraith difrïo fod yn berthnasol i unrhyw sylwadau a wneir ar y we naill ai’n bersonol neu’n broffesiynol.
  • Dylai deintyddion fod yn ymwybodol o’u delwedd ar-lein a sut y gallai effeithio ar eu statws proffesiynol.

Mae’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol yn rhoi’r arweiniad canlynol:

Mae safleoedd rhwydweithio cymdeithasol a chyfryngau cymdeithasol eraill yn ffyrdd effeithiol o gyfathrebu ag eraill ar lefel bersonol a phroffesiynol.

Mae cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys nifer o adnoddau ar y rhyngrwyd, gan gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt: blogiau, fforymau 

rhyngrwyd, cymunedau cynnwys a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol, fel Twitter, YouTube, Facebook, LinkedIn, GDPUK, Instagram a Pinterest.

Mae gwefannau rhwydweithio cymdeithasol proffesiynol sydd wedi’u hanelu’n benodol at weithwyr proffesiynol ym maes deintyddiaeth hefyd yn fathau o gyfryngau cymdeithasol sy’n berthnasol i’r canllaw hwn.

Mae 4.2.3 y Safonau ar gyfer y Tîm Deintyddol yn nodi:

Ni ddylech bostio unrhyw wybodaeth na sylwadau am gleifion ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol na blogio. Os ydych chi’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol proffesiynol i drafod achosion dienw at ddibenion trafod arferion gorau, rhaid i chi fod yn ofalus nad oes modd adnabod y claf neu’r cleifion.

Wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • a) Cynnal a diogelu gwybodaeth cleifion drwy beidio â chyhoeddi unrhyw wybodaeth a allai ddatgelu pwy ydynt ar gyfryngau cymdeithasol heb eu caniatâd penodol.
  • b) Cadw ffiniau priodol yn y berthynas sydd gennych â chleifion ac aelodau eraill o’r tîm deintyddol.
  • c) Cydymffurfio ag unrhyw bolisi rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol a nodir gan eich cyflogwr.
  • Fel cofrestrai, mae gennych gyfrifoldeb i ymddwyn yn broffesiynol ac yn gyfrifol ar-lein ac all-lein.

Gall eich delwedd ar-lein effeithio ar eich bywyd proffesiynol ac ni ddylech bostio unrhyw wybodaeth, gan gynnwys ffotograffau a fideos, a allai ddwyn anfri ar y proffesiwn.

Mae’n bwysig cofio bod unrhyw beth rydych chi’n ei bostio ar gyfryngau cymdeithasol ar gael i’r cyhoedd a bod modd ei gopïo a’i ailddosbarthu’n hawdd heb i chi wybod. Dylech gymryd yn ganiataol y bydd popeth rydych chi’n ei rannu ar-lein yno yn barhaol. 

Meddyliwch yn ofalus cyn derbyn ceisiadau ffrind gan gleifion. 

Dylech adolygu eich gosodiadau preifatrwydd yn rheolaidd i sicrhau nad yw cynulleidfaoedd anfwriadol yn cael mynediad at wybodaeth, ond cofiwch nad yw hyd yn oed y gosodiadau preifatrwydd llymaf yn gwarantu y bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel, ac y gallai unrhyw wybodaeth rydych chi’n ei phostio gael ei gweld gan unrhyw un, gan gynnwys eich cleifion, eich cydweithwyr neu’ch cyflogwr. 

Cofiwch, hyd yn oed os nad ydych chi’n ystyried eich hun yn weithiwr proffesiynol ym maes deintyddiaeth, gallech ddal beryglu eich cofrestriad os ydych chi’n ymddwyn yn amhriodol wrth ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. 

Ni ddylech gael trafodaethau gyda’ch cleifion am eu triniaethau a’u gofal deintyddol ar gyfryngau cymdeithasol.

Er bod trafodaethau ar-lein am gleifion dienw ac arferion gorau yn gallu bod o fudd addysgol a phroffesiynol, dylech gofio nad yw postio gwybodaeth o dan enw defnyddiwr arall yn gwarantu eich cyfrinachedd. Ystyriwch sut mae eich sylwadau yn gwneud i chi edrych yn ogystal â sut y gallent effeithio ar ymddiriedaeth y cyhoedd yn y proffesiwn.