Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad Blynyddol o Ddilyniant Cymhwysedd (ARCP)

Mae’r ARCP yn darparu proses ffurfiol sy’n adolygu’r dystiolaeth a gyflwynwyd gan yr hyfforddai a’i oruchwyliwr addysgol ynghylch cynnydd yr hyfforddai yn y rhaglen hyfforddi. Mae'n galluogi'r hyfforddai, y Deon Deintyddol Ôl-raddedig a chyflogwyr i gofnodi bod y cymwyseddau angenrheidiol yn cael eu hennill ar gyfradd briodol a drwy brofiad priodol.

Ar gyfer hyfforddeion deintyddol arbenigol, dylid cynnal ARCP bob blwyddyn o leiaf fel arfer, heb fwy na 15 mis o fwlch rhyngddynt. Argymhellir bod ARCP yn cael ei gynnal o fewn 6 mis i'r dyddiad dechrau yn y swydd. Gellir cynnal y broses yn amlach os oes angen delio â materion yn ymwneud â pherfformiad a chynnydd neu, lle bo hynny'n briodol, hwyluso cyflymu hyfforddiant y tu allan i'r adolygiad blynyddol. Gallant fod yn arbennig o berthnasol i hyfforddeion ar raglenni hyfforddiant deintyddol arbenigol sy'n para tair blynedd.

Mae canllawiau ar yr hyn sy'n ofynnol gan hyfforddai cyn ac yn ystod yr ARCP ar gael yn Dental Gold Guide 2025 – COPDEND

 

Deilliannau’r ARCP

Deilliannau 1 a 6: adlewyrchu cynnydd boddhaol wrth gyflawni'r cymwyseddau/galluoedd gofynnol ac felly cyfeirir atynt fel deilliannau dilyniant

Deilliannau 2 a 3: adlewyrchu bod angen datblygu cymwyseddau/galluoedd penodol ac felly cyfeirir atynt fel deilliannau datblygiadol

  • Defnyddir deilliant 2 pan fydd angen datblygu heb amser hyfforddi ychwanegol
  • Defnyddir deilliant 3 pan fydd angen amser datblygu ac amser hyfforddi ychwanegol
  • Mae angen amser ychwanegol ar gyfer Deilliant 3 felly gellid ei ystyried yn ddeilliant ymestyn datblygiadol

Deilliant 4: defnyddir pan fydd diffyg cynnydd annigonol a pharhaus (fel arfer yn dilyn deilliant datblygiadol cynharach rhif 3) a bod yr hyfforddai'n cael ei ryddhau o'r rhaglen hyfforddi; felly, gellid ystyried Deilliant 4 fel deilliant cynnydd anfoddhaol

Deilliant 5: defnyddir fel “canlyniad dros dro” lle nad oes digon o dystiolaeth, ac na ellir asesu cynnydd ar yr adeg honno. Felly, gellid ei ystyried yn ddeilliant gweinyddol i roi amser i gyflwyno'r wybodaeth ategol (a allai fod yn rhywbeth fel canlyniad arholiad sydd heb gyrraedd eto).

Deilliannau 7 ac 8: defnyddir ar gyfer hyfforddeion mewn swydd hyfforddiant cyfnod penodol (Deilliant 7) ac OOP (Deilliant 8) sy'n cynnwys cyfnodau y tu allan i'r rhaglen (OOP), absenoldeb mamolaeth/salwch statudol.