E-ddysgu’r GIG ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes deintyddiaeth yng Nghymru
Mae'n bleser gan Ddeoniaeth Ddeintyddol Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) rannu gyda chi borth pwrpasol ar gyfer Timau Gofal Sylfaenol Deintyddol yng Nghymru. Bydd y rhain yn fodd i gael mynediad at feysydd dysgu ar-lein o bwys i ategu eu Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).
Mae platfform e-ddysgu'r GIG wedi hen sefydlu ac mae'n cynnal ystod o fodiwlau ar gyfer staff y GIG ledled Cymru. Mae Deoniaeth Ddeintyddol AaGIC wedi gweithio gyda chydweithwyr ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NHSWSSP) i greu mannau pwrpasol i dimau Deintyddol Gofal Sylfaenol gael mynediad at bynciau penodol. Ychwanegir at y rhain wrth i fodiwlau priodol pellach gael eu nodi a dod ar gael.
Gellir mynd at y porth drwy glicio ar y ddolen hon: E-ddysgu'r GIG ar gyfer timau deintyddol gofal sylfaenol
Mae canllaw i ddefnyddwyr ar gael i roi arweiniad cam wrth gam i gael mynediad at y system a’i defnyddio.
Mae llwyfan e-Ddysgu'r GIG wedi hen ennill ei blwyf ac mae'n cynnal amrywiaeth o fodiwlau ar gyfer staff y GIG ledled Cymru. Mae adran Ddeintyddol AaGIC wedi gweithio gyda chydweithwyr ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NHSWSSPS) i greu ardaloedd pwrpasol i dimau Deintyddol Gofal Sylfaenol gael gafael ar bynciau penodol. Ychwanegir at y rhain wrth i ragor o fodiwlau priodol gael eu pennu a dod ar gael.
Dyma restr o’r modiwlau sydd ar gael ar hyn o bryd:
| Diogelu |
|
|---|---|
| Iechyd a diogelwch |
|
| Diheintio a dadhalogi |
|
| Cyfreithiol a moesegol |
|
| Gwella ansawdd |
|
Yn unol â gofynion DPP y cyngor deintyddol cyffredinol, eich cyfrifoldeb chi yw dewis DPP sy'n bodloni'r gofynion ar gyfer gweithgarwch gwiriadwy.
Chi hefyd sy’n gyfrifol am gael hyd i’r dystiolaeth ddogfennol (e.e. tystysgrifau) sy’n ofynnol ar gyfer eich cofnod DPP a chadw’r dystiolaeth honno.
Dylech ddefnyddio eich crebwyll proffesiynol i benderfynu a ydych chi’n credu bod y gweithgarwch DPP rydych chi wedi’i gwblhau yn bodloni’r gofynion ar gyfer DPP y mae modd ei ddilysu. Efallai y bydd angen datblygiad proffesiynol parhaus ychwanegol arnoch i ategu'r modiwlau e-ddysgu os gwelwch nad ydynt yn ddigonol i ddiwallu eich anghenion.
Gobeithio y bydd y modiwlau a’r llwyfan e-ddysgu yn ddefnyddiol ac yn hwylus i chi ac y byddant o fudd i’ch dysgu a’ch datblygiad proffesiynol.
Yr Adran ddeintyddol, AaGIC