Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg Hyfforddwyr Cenedlaethol GMC

Mae arolwg y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) ar agor rhwng 24 Mawrth a 6 Mai 2026.

Mae'r arolwg GMC yn gyfle i hyfforddwyr roi adborth ar lwyth gwaith, amser ac anghenion datblygiadol. Yn ogystal, gellir defnyddio'r cyfeirnod cwblhau fel tystiolaeth o gymryd rhan mewn systemau sicrhau a gwella ansawdd mewn arfarniad.

Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i ddylanwadu ar hyfforddiant ac adnoddau drwy rannu eich barn gyda'r GMC ar safonau addysg a hyfforddiant meddygol yng Nghymru. Byddwch yn sicr bod yr holl ymatebion yn gyfrinachol ac yn cael eu hadrodd yn ddienw.

Gwyliwch y fideo gan Dr Malcolm Gajraj, Cyfarwyddwr Rheoli Ansawdd, Deoniaeth Feddygol AaGIC i ddysgu mwy.

 

Sut fydd cysylltu gyda’r Hyfforddwyr?

Bydd y GMC yn e-bostio gwahoddiad atoch i gwblhau'r arolwg. Gallwch ei lenwi trwy fewngofnodi i'ch Cyfrif Ar-lein GMC

Os nad ydych wedi defnyddio GMC Ar-lein o'r blaen, gallwch gweithredu eich cyfrif trwy ateb ychydig o gwestiynau cyflym pan fyddwch chi'n mewngofnodi am y tro cyntaf.

Gallwch gweithredu eich cyfrif drwy GMC - rheoli eich cofrestriad.

 

Pwy y gofynnir iddo gwblhau'r arolwg?
  1. Goruchwylwyr Addysgol
    Mewn gofal eilaidd mae hyn yn cyfeirio at y rhai sydd wedi llofnodi'r Cytundeb Goruchwylio Addysgol ac sydd wedi bod neu sydd ar hyn o bryd yn goruchwylio meddygon preswyl yn y flwyddyn ddiwethaf. Mewn gofal sylfaenol mae hyn yn cyfeirio at Hyfforddwyr Meddygon Teulu sydd â hyfforddeion presennol.

Cysylltwch â ni AaGIC os ydych chi'n hyfforddwr sy ddim wedi bod yn goruchwylio'n weithredol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Pan fyddwn yn clywed gennych, byddwn yn eich gwahardd o'r arolwg a bydd y rhybuddion e-bost yn cael eu stopio. Bydd hyn hefyd yn ein helpu i ddeall pa mor gynrychioliadol yw ein cyfradd ymateb.

  1. Goruchwylwyr Clinigol a Enwir
    Goruchwylwyr clinigol sy'n goruchwylio gwaith hyfforddeion trwy gydol y swydd ac sy'n ymwneud â phenderfyniadau cynnydd ac sydd â hyfforddai cyfredol.

 

Pryd fydd y canlyniadau ar gael?

Mae'r GMC wedi cynghori y bydd y canlyniadau ar gael i'r cyhoedd yn Haf 2026 (dyddiad terfynol i'w gadarnhau). Bydd AaGIC yn dosbarthu rhagor o wybodaeth am y canlyniadau wrth iddynt ddod ar gael.

 

Beth ydyn ni'n ei wneud gyda'r canlyniadau?

Bydd AaGIC yn adolygu'r holl ganlyniadau yng ngoleuni'r wybodaeth bresennol am amgylcheddau dysgu ledled Cymru. Gall hyn sbarduno'r angen am adolygiad pellach gan Dîm y Gyfadran neu efallai y byddwn yn ymgymryd ag ymweliad wedi'i dargedu er mwyn cefnogi gwelliannau. Rydym hefyd yn cymharu canlyniadau â blynyddoedd blaenorol i'n helpu i ddeall tueddiadau. Rydym yn edrych ar adborth hyfforddwyr a hyfforddeion gyda'n gilydd i ddod o hyd i themâu cyffredin, yr ydym yn eu rhannu gyda thimau gweithredol. Mae canlyniadau arolwg hyfforddwyr hefyd yn helpu i lunio ein hymweliadau o ansawdd, a gwahoddir hyfforddwyr i gymryd rhan yn safonol. Mae timau cyfadran yn adolygu unrhyw bryderon a godwyd yn yr arolwg hyfforddwyr.

Cysylltwch â'r Tîm Ansawdd AaGIC am wybodaeth fanylach am sut rydym yn rheoli addysg a hyfforddiant meddygol. Gellir dod o hyd i fanylion llawn am yr arolwg eleni a chanlyniadau arolygon blaenorol ar y Gwefan GMC.

 

Mwy o wybodaeth:

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr arolwg sydd i ddod, cysylltwch â: