Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Cyffredin Arolwg Staff GIG Cymru

1.Beth yw Arolwg Staff GIG Cymru?
Mae Arolwg Staff GIG Cymru yn holiadur sy'n nodi profiadau staff GIG Cymru.

2.Beth yw pwrpas Arolwg Staff GIG Cymru?
Pwrpas yr arolwg staff yw casglu adborth gan weithwyr sy’n gweithio yn GIG Cymru. Ei nod yw deall eu profiadau, eu safbwyntiau a'u mewnwelediadau sy'n ymwneud â'u hamgylchedd gwaith, boddhad swydd a lles cyffredinol.   

Bydd y data a gesglir o’r arolygon yn rhoi darlun cenedlaethol i helpu i siapio trawsnewid sefydliadol yn GIG Cymru fel bod staff yn cael cymorth a gofal tosturiol o ansawdd uchel, sy’n gwella’n barhaus ac ac yn effeithiol ar gyfer y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu ledled Cymru.

3.Pwy sydd wedi comisiynu'r arolwg?
Mae Llywodraeth Cymru a Fforwm Partneriaeth Cymru wedi comisiynu Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar ran GIG Cymru i ddylunio, darparu a rheoli Arolwg Staff GIG Cymru.

4.Pwy all gymryd rhan yn yr arolwg?
Mae'r Arolwg Staff ar gyfer staff ar gontract a staff banc. Bydd Llywodraeth Cymru yn asesu ac yn adolygu cwmpas yr arolwg yn barhaus.

5.Pryd mae'r arolwg yn cael ei lansio bob blwyddyn?
Bydd yr arolwg yn cael ei gynnal yn ystod yr Hydref yn flynyddol. Cyhoeddir y canlyniadau yn y Gwanwyn, y flwyddyn ganlynol. Mae hyn yn sicrhau bod y canlyniadau'n dal yn gymaradwy ac yn osgoi cyfnodau prysur yr haf a'r gaeaf.

Bydd yr arolwg yn cael ei lansio ar yr un pryd i holl sefydliadau GIG Cymru. Bydd Arolwg Staff GIG Cymru yn helpu sefydliadau’r GIG i nodi themâu allweddol a meysydd posibl i’w gwella, y gallant eu harchwilio ymhellach drwy arolwg pwls mewnol, y gellir ei gynnal ar yr un platfform.

6.Pryd mae'r Arolwg Staff yn mynd yn fyw?
Bydd yr Arolwg Staff yn fyw ddydd Llun 6 Hydref, 9.00am. Pan fyddant yn fyw, bydd y dolenni i'r arolwg ar gael ar ein tudalen Arolwg Staff GIG Cymru, y gellir ei gweld yn https://heiw.nhs.wales/our-work/nhs-wales-staff-survey/. Bydd yr arolwg ar agor tan ddydd Llun, 1af o Ragfyr. 11:59pm.

7.Pwy fydd yn cynnal Arolwg Staff GIG Cymru eleni?
Mae IQVIA wedi derbyn y contract i gynnal Arolwg Staff GIG Cymru am y ddwy flynedd nesaf. Mae IQVIA yn gyflenwr cydnabyddedig ac mae ganddynt brofiad o weithio gyda sefydliadau GIG cymhleth. Bydd IQVIA yn trin atebion eich holiaduron yn gwbl gyfrinachol, yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018. Gallwch weld eu polisi preifatrwydd yn https://www.iqvia.com/about-us/privacy/privacy-policy .

8.Sut ydw i'n siŵr bod y cwblhad yn ddienw?
Gellir cyrchu arolwg staff GIG Cymru ar-lein, o unrhyw ddyfais sydd â mynediad i’r rhyngrwyd, ac nid yw’n gofyn i unrhyw un fewngofnodi. Gan nad yw'n gofyn am unrhyw ddata adnabyddadwy ac nad yw'n gysylltiedig â data ESR, mae'n ddienw. Yn y meysydd testun rhydd, caiff enwau a lleoliadau eu golygu gan IQVIA i sicrhau bod ymatebion yn aros yn ddienw i sefydliadau GIG Cymru.

Mae adborth o Arolygon Staff blaenorol GIG Cymru wedi amlygu diffyg anhysbysrwydd fel y rheswm sylfaenol dros gyfraddau cwblhau isel. Am y rheswm hwn, nid ydym yn gofyn i staff fewngofnodi wrth gwblhau'r arolwg. Yn ogystal â gallu cwblhau'r arolwg ar-lein, gallwch ffonio tîm cymorth IQVIA, os dymunwch gwblhau'r arolwg dros y ffôn. Ni fyddant yn gofyn i chi am eich enw na'ch e-bost. Mae gennym hefyd gopïau papur ffisegol (mae lleoliadau yn amrywio fesul sefydliad GIG), gydag amlenni rhagdaledig fel y gellir dychwelyd ymatebion yn uniongyrchol i IQVIA.

9. Ble gallaf ddod o hyd i'r holiadur a dogfennau eraill yr Arolwg?
Bydd yr Arolwg Staff yn fyw Dydd Llun 6 Hydref, 9am. Pan fydd yn fyw, bydd y dolenni i’r arolwg ar gael ar ein tudalen Arolwg Staff GIG Cymru, sydd i’w gweld yn https://heiw.nhs.wales/our-work/nhs-wales-staff-survey/. Mae'r holl ddogfennau sy'n ymwneud â'r arolwg i'w gweld ar y dudalen hon.

10.A ellir cwblhau Arolwg Staff GIG Cymru ar-lein?
Gellir cwblhau’r arolwg staff ar-lein trwy glicio ar y ddolen yn https://heiw.nhs.wales/nhs-wales-staff-survey/ , neu drwy sganio’r cod QR a geir ar Arolwg Staff GIG Cymru sydd i’w weld o amgylch eich amgylchedd gwaith .

11.Pa grwpiau staff sy'n gymwys i gwblhau'r Arolwg?

Grŵp Staff

Ie

Na

Staff parhaol

x

 

Cytundeb cyfnod penodol tan 31/03/2023

x

 

Staff ar secondiad rhwng sefydliadau GIG Cymru

x

 

Staff Gofal Sylfaenol (a gyflogir gan sefydliadau GIG Cymru)

x

 

Staff Gofal Sylfaenol (staff heb gontract)

 

x

 

 

 

Absenoldeb

 

 

Absenoldeb rhiant

x

 

Absenoldeb mamolaeth

x

 

Absenoldeb salwch (ar gyfer staff sy’n absennol am lai na 12 mis)

x

 

 

 

 

Gweithwyr banc yn unig

 

 

Wedi’i dalu yn y 6 mis diwethaf (hyd at 1af Medi) am waith neu hyfforddiant gan sefydliad GIG yn uniongyrchol ac nid oes ganddynt gontract sylweddol gyda’r un sefydliad

x

 

Telir gan gwmni allanol ee gweithwyr proffesiynol y GIG, partneriaid banc neu asiantaeth

 

x

 

12.Os yw unigolyn â chontract sylweddol wedi newid yn ddiweddar i swydd wahanol o fewn y sefydliad, a ddylai'r atebion fod mewn perthynas â'u rôl bresennol neu hen rôl?
Dylai staff ateb y cwestiynau mewn perthynas â'r swydd y maent yn gweithio ynddi ar hyn o bryd.

13.Os yw unigolyn wedi ymuno â'r sefydliad yn ddiweddar, a ddylai lenwi'r holiadur?
Dylai staff newydd ateb y cwestiynau orau y gallant mewn perthynas â'u swydd bresennol gyda'r sefydliad hwn.

14.Beth yw cyfradd ymateb 'dda'
Yn flaenorol yn 2023, roedd gan Arolwg Staff GIG Cymru gyfradd gwblhau o 20%. Eleni, rydym yn gobeithio clywed gan fwy o’n cydweithwyr yn GIG Cymru. Mae codi ymwybyddiaeth o ddiben yr arolwg yn hollbwysig, tra’n dangos yr hyn rydym yn ei wneud yn lleol, o ganlyniad i ganlyniadau’r arolwg.

15.Beth yw gwerth cymryd rhan yn Arolwg Staff y GIG?
Bydd y data o'r arolwg staff yn cefnogi ac yn sicrhau gwelliannau sylweddol a pharhaus mewn amgylcheddau gwaith a phrofiadau fel bod staff yn ffynnu ac yn gallu darparu gofal tosturiol o ansawdd uchel sy'n gwella'n barhaus.

Bydd ymyriadau gwella effeithiol yn cael eu rhannu, eu lledaenu a'u gweithredu (gydag addasiadau lleol priodol) i sicrhau gwelliannau parhaus ar bob dimensiwn o brofiad staff a asesir yn yr arolygon.

Po fwyaf y mae ein pobl GIG yn gwybod bod eu sefydliadau yn gwrando arnynt ac yn gweithredu ar eu hadborth, y gorau fydd y canlyniadau i ni a'n cleifion.

16.Pam cymryd rhan yn Arolwg Staff y GIG pan fydd offer gwrando eraill ar gael hefyd (ee arolygon mewnol/pwls)?
Mae Arolwg Staff GIG Cymru yn rhoi darlun blynyddol manwl o brofiad staff ledled Cymru a bydd yn cefnogi camau gweithredu hirdymor ar gyfer y gwasanaeth. Mae’n ystadegyn swyddogol, gyda chyfres o gwestiynau cadarn sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd yr arolwg cenedlaethol yn caniatáu i arolygon mewnol pwls gael eu targedu’n well at rai o’r materion allweddol o fewn GIG Cymru, gan roi lle i unigolion siarad a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.

17.A oes unrhyw wybodaeth i gefnogi cyfathrebu lleol?

Mae gan bob sefydliad arweinydd Arolwg Staff GIG Cymru lleol, ac nhw sy'n gyfrifol am trefniadau lleol gydag Arolwg Staff GIG Cymru. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'ch arweinydd gan ddefnyddio'r ddolen hon https://heiw.nhs.wales/nhs-wales-staff-survey/

18. A all Staff Banc Cwblhau'r arolwg?
Gall staff banc gwblhau'r arolwg.

19.A ellir llenwi holiadur yr Arolwg Staff yn y gweithle yn ystod amser gwaith?
Rydym yn argymell bod sefydliadau neu reolwyr yn caniatáu amser penodedig i staff gwblhau Arolwg Staff GIG Cymru, fodd bynnag, cyfrifoldeb y sefydliad yw gwneud y penderfyniad hwn.

20.A yw Arolwg Staff GIG Cymru yn ddwyieithog?
Mae Arolwg Staff GIG Cymru ar gael yn Gymraeg a Saesneg yn ogystal â fformatau eraill.

21.Oes rhaid i staff gwblhau'r Arolwg?
Nid yw cymryd rhan yn orfodol, ond fe'i hanogir yn gryf i roi eu barn a'u safbwyntiau am y sefydliad y maent yn gweithio ynddo trwy gwblhau'r holiadur. Mae hyn yn rhoi cyfle cyfartal i bob aelod o staff leisio'u barn Mae'n bwysig bod cymaint o bobl â phosibl yn llenwi'r holiadur er mwyn uchafu llais y staff.

22.A oes ap y gellir ei ddefnyddio i gwblhau Arolwg Staff GIG Cymru?
Mae Arolwg Staff y GIG yn gyfeillgar i ffonau symudol; fodd bynnag, nid yw ar gael fel ap.

23.Sut mae Arolwg Staff GIG Cymru yn wahanol i arolygon pwls?
Mae Arolwg Staff GIG Cymru yn rhoi darlun manwl o brofiad staff, gydag ymrwymiad i gynnal arolygon yn flynyddol i ddarparu dadansoddiad hydredol. Mae’n ystadegyn swyddogol, wedi’i ategu gan ddata cadarn sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd yn darparu data i sianelu arolygon pwls mewnol ar gyfer sefydliadau’r GIG ledled Cymru.

24.Sut mae cwestiynau'r Arolwg yn cael eu dewis a'u datblygu?
Mae’r cwestiynau yn Arolwg Staff GIG Cymru wedi’u datblygu drwy ymchwil a mynegeion cadarn a dilys. Mae hyn er mwyn sicrhau dealltwriaeth gadarn o brofiad gwaith ein staff.

25.Beth yw'r newidiadau allweddol yn Arolwg Staff GIG Cymru eleni?

Ymhlith eraill, y newidiadau allweddol yw:

  • Set cwestiynau: yn cynnal parhad, gydag un is-gwestiwn newydd ar addasiadau ar gyfer staff ag anableddau.
  • Un dolen mynediad: wedi'i gyflwyno i'r holl staff, gan symleiddio cyfranogiad a lleihau rhwystrau.



26.Rydw i eisiau cwblhau'r arolwg dros y ffôn, sut ydw i'n ei wneud?
Ar gyfer y llinell gymorth (0808 169 9961), bydd y galwr yn ffonio ac yn gofyn am gymorth iaith yn eu dewis iaith. Bydd y gweithredwr yn eu ffonio'n ôl ar amser y cytunwyd arno (yn syth o bosibl) gyda'r cyfieithydd ar y llinell ac yn hwyluso sgwrs tair ffordd ac yn y pen draw yn llenwi holiadur dros y ffôn os oes angen.

Gallant hefyd anfon e-bost at y tîm yn helpline-QH@IQVIA.com a threfnu galwad yn ôl.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am hygyrchedd, gallwch gysylltu â thîm cymorth IQVIA

- E-bostiwch helpline-QH@IQVIA.com neu

- Ffoniwch 0808 169 9961 (llinellau ar agor 9am-5pm, dydd Llun i ddydd Gwener).

27.Pryd fydd y canlyniadau ar gael?
Bydd canlyniadau Arolwg Staff GIG Cymru ar gael yn y Gwanwyn. Oherwydd ein hymrwymiadau i sicrhau bod y data’n parhau’n gyfrinachol ar gyfer ein staff, bydd y data’n cael ei olygu a’i atal gyda’n cyflenwr cyn derbyn a chyhoeddi’r data o’r arolwg.   

28.Beth sy'n digwydd i'r wybodaeth a gesglir?
Ar ôl eu cyflwyno ar-lein, bydd IQVIA yn casglu ac yn gwirio ymatebion, bydd copïau papur yn cael eu hanfon i IQVIA gan ddefnyddio amlenni rhagdaledig.

29.A all pobl lenwi'r arolwg sawl gwaith?
Er nad yw’r arolwg yn atal llenwi’r arolwg mwy nag  unwaith, dylai cydweithwyr ond cwblhau’r arolwg unwaith oni bai eu bod yn gweithio i fwy nag un sefydliad.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach cysylltwch â'r tîm yn NHSWalesStaffSurvey@wales.nhs.uk