Neidio i'r prif gynnwy

Amdanom ni

Rydym yn Awdurdod Iechyd Arbennig, yn arbenigo mewn materion gweithlu strategol. Rydym yn helpu i wneud Cymru yn lle gwych i hyfforddi a gweithio i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, a gwella gwasanaethau gofal iechyd a gofal cleifion.

Rydym yn gwario’r gyfran fwyaf o’n cyllideb ar gomisiynu addysg a hyfforddiant ar gyfer GIG Cymru. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o’n gwaith yn canolbwyntio ar gynllunio’r gweithlu. Rydym hefyd yn gosod y cyfeiriad ar gyfer arweinyddiaeth yn GIG Cymru.

 

 

Nodau ac amcanion

Mae gennym dri nod i wneud hyn:

  • Adeiladu ein gweithlu ar gyfer y dyfodol
  • Datblygu ein gweithlu presennol
  • Gwreiddio diwylliant ac arweinyddiaeth yn GIG Cymru

Er mwyn cyflawni'r rhain, mae gennym 11 o amcanion strategol. Mae’r rhain i’w gweld ar dudalen 16 yn ein cynllun tair blynedd ar gyfer 2023 i 2026. Cyfeiriwn at hyn fel ein Cynllun Tymor Canolig Integredig (IMTP). Mae’r amcanion yn canolbwyntio ar fuddsoddi mewn addysg ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gwella recriwtio i GIG Cymru, a chefnogi datblygiad arweinyddiaeth.

 

Dyletswyddau cyfreithiol

Ategir ein gwaith strategol gan ein wyth swyddogaeth statudol. Mae’r rhain yn cynnwys:

Addysg a hyfforddiant: Rydym yn cynllunio, comisiynu, darparu a rheoli ansawdd addysg a hyfforddiant gofal iechyd israddedig ac ôl-raddedig. Rydym hefyd yn datblygu fframweithiau prentisiaeth gofal iechyd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Datblygu arweinyddiaeth: Rydym yn darparu arweiniad arweinyddiaeth sy'n canolbwyntio ar arweinyddiaeth dosturiol a chyfunol. Rydym hefyd yn nodi ac yn meithrin talent ymhlith y rhai sy'n dymuno bod yn Gyfarwyddwyr a Phrif Weithredwyr.

Strategaeth, cynllunio a gwybodaeth y gweithlu: Rydym yn helpu eraill yn GIG Cymru i ddatblygu cynlluniau gweithlu a darparu mewnwelediad dadansoddol. Mae hyn yn helpu i gefnogi gweithlu'r presennol a'r dyfodol.

Datblygu a thrawsnewid y gweithlu: Rydym yn cefnogi newid sy’n ymateb i heriau gwasanaeth sylweddol, gan gynnwys datblygu sgiliau, dylunio rolau, a gwella llwybrau gyrfa.

Cefnogaeth broffesiynol: Rydym yn cefnogi datblygiad sefydliadol a gweithlu yng Nghymru.

Ansawdd: Rydym yn gwella addysg a hyfforddiant trwy ddatblygu safonau ar gyfer arweiniad a strategaethau ar y cyd.

Gyrfaoedd ac ehangu mynediad: Rydym yn hyrwyddo gyrfaoedd mewn gofal iechyd ac yn sicrhau bod y cyfleoedd hyn ar gael i bawb. Rydym hefyd yn cefnogi pobl sydd â sgiliau a phrofiad gwerthfawr sy'n cael eu tangynrychioli yn ein gweithlu GIG i ddilyn gyrfa gofal iechyd.

Cadw: Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ymgorffori iechyd a lles yn GIG Cymru. Mae hyn yn helpu i annog gweithwyr proffesiynol i aros yn GIG Cymru.

 

Ein stori

Yn 2014, adolygodd Llywodraeth Cymru ei buddsoddiad mewn addysg gofal iechyd a datblygu’r gweithlu. Arweiniodd hyn at greu ein sefydliad, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ym mis Hydref 2018. Fe'i ffurfiwyd trwy uno tri sefydliad gofal iechyd allweddol: Deoniaeth Cymru, Gwasanaethau Addysg a Datblygu'r Gweithlu (WEDS) GIG Cymru, a Chanolfan Addysg Broffesiynol Fferylliaeth Cymru (WCPPE). Mae’r uno hwn yn darparu ymagwedd unedig at addysg a hyfforddiant, moderneiddio’r gweithlu, a chynllunio o fewn y GIG yng Nghymru.

 

Gwerthoedd ac ymddygiadau

Mae ein gwerthoedd yn ymwneud â pharch, gwaith tîm, ac ymrwymiad i welliant parhaus. Rydym yn gwrando'n astud, yn trin eraill yn deg, ac yn meithrin diwylliant o gynwysoldeb. Rydym yn annog creadigrwydd ac arloesedd wrth gynnal ymagwedd gadarnhaol ac adeiladol.

 

Cysylltwch â ni.

Cofrestrwch i gael diweddariadau e-bost a chylchlythyrau am ein gwaith.