Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun gweithlu amenedigol strategol

Mae Addysg ac Arloesi Iechyd Cymru (AaGIC) yn arwain y gwaith o ddatblygu’r Cynllun Gweithlu Amenedigol Strategol, i recriwtio, cadw, hyfforddi a thrawsnewid y gweithlu amenedigol presennol ac yn y dyfodol yn GIG Cymru.

Dyma wnaethon ni ei glywed ar ôl gwrando arnoch chi!

Yn dilyn Sgwrs Mamolaeth a Newyddenedigol Cymru mae AaGIC wedi dadansoddi’r sgwrs ac wedi crynhoi’r neges ganlynol:

 

Y Sgwrs yn 10
Themau

Disgrifiadau

Lefelau Staffio: Mae'r gweithlu amenedigol yn pwysleisiiado'r angen brys am lefelau staffio uwch. Mae hyn yn cynnwys pryderon am reoli llwyth gwaith, straen, gor-flinder, ac effaith y gofal a ddarperir i ddefnyddwyr gwasanaeth.
Trawsnewid Digidol: Mae’r gweithlu amenedigol yn cydnabod pwysigrwydd cofleidio datblygiadau digidol a thechnolegol er mwyn gwella effeithiolrwydd. Mae galw am gyflwyno systemau electronig, deallusrwydd artiffisial (AI), dadansoddeg data a systemau sy'n ategu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Hyfforddiant a Chymorth: Mae’r gweithlu amenedigol yn credu bod hyfforddiant a chymorth yn hollbwysig, gyda ffocws ar ddatblygiad proffesiynol parhaus. Mae hyn yn ymestyn i hyfforddiant arweinyddiaeth a rheolaeth. Mae hefyd yn ymestyn i bwysigrwydd cyfleoedd dysgu anghlinigol, a diwylliant sy'n blaenoriaethu addysg barhaus i addasu i anghenion gofal iechyd sy’n datblygu.
Lles y Gweithlu: Mae’r gweithlu amenedigol am weld strategaethau sy’n mynd i’r afael ag amgylcheddau gwaith sydd o dan bwysau mawr. Mae hefyd am weld strategaethau sy’n gwella amodau gwaith, a meithrin diwylliannau cadarnhaol yn y gweithle.
Cydweithio a Chyfathrebu: Mae’r gweithlu amenedigol am weld mwy o gydweithio ar sail Cymru gyfan, gyda rhwydweithio a gweithio rhanbarthol yn rhan annatod o wasanaethau ac ar draws sectorau.
Strategaethau Cadw a Denu: Mae'r gweithlu amenedigol yn pwysleisio gwell cyfraddau cadw a denu gyda ffocws ar amodau gwaith gwell, gwell tâl a buddion, llwybrau gyrfa glir, a chydbwysedd rhwng gwaith a bywyd personol.
Arweinyddiaeth Drawsnewidiol: Mae’r gweithlu amenedigol am weld egwyddorion arweinyddiaeth dosturiol yn cael eu harddangos ar draws y GIG, gyda thryloywder, cymorth, tegwch, gosod esiampl, amrywiaeth, a meithrin cydweithio yn cael eu hystyried yn rhannau hanfodol.
Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn: Mynegodd y gweithlu amenedigol ymrwymiad i ofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan bwysleisio’r angen am rolau arbenigol, cydnabyddiaeth o effaith gwasanaethau ar ganlyniadau cleifion, a chais am agwedd gyfannol at ofal iechyd a thrawsnewid.
Safoni ac Arloesi: Mae'r gweithlu amenedigol yn rhagweld cydbwysedd rhwng dulliau safonol ac atebion arloesol i fynd i'r afael â'r heriau ym maes gofal iechyd amenedigol.
Datblygu Gyrfa ac Amrywiaeth: Mae'r gweithlu amenedigol yn tynnu sylw at bwysigrwydd datblygu gyrfa, cynhwysiant ac amrywiaeth. Mae am weld buddsoddiad teg mewn rhaglenni hyfforddi, cyfleoedd am rolau amrywiol, a chydnabod gwerth gweithlu amrywiol.

 

Gellir cael dadansoddiad manylach yma: Sgwrs Mamolaeth a Newyddenedigol Cymru: Adroddiad Canfyddiadau a Dadansoddi

Rydym yn parhau i gynnal dadansoddiad manwl gan ddilyn dull tri philer o’r llenyddiaeth. Y rhain yw: ymchwil ac arfer da, data a dadansoddeg, a’r ymgysylltu diweddar â’r gweithlu er mwyn cynhyrchu set o gamau gweithredu drafft. Unwaith y bydd wedi'i chynhyrchu, bydd AaGIC yn ymgynghori â'r gweithlu trwy gyfres o weminarau a ffurflen adborth MS i sicrhau bod anghenion y Gwasanaethau Amenedigol yn cael eu diwallu orau.

Bydd ymgynghoriad ar y camau gweithredu drafft yn y Cynllun Gweithlu Amenedigol Strategol yn dechrau’n fuan. Rhagor o fanylion i ddilyn, gwyliwch y man hyn!

I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch HEIW.PerinatalWorkforcePlan@wales.nhs.uk