Neidio i'r prif gynnwy

Dyletswydd Gonestrwydd

Rhaid i sefydliadau’r GIG yng Nghymru fod yn agored ac yn onest am y gofal a’r driniaeth a gaiff cleifion. Mae hon yn gyfraith sy’n rhan o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2020.

Mae'r Dyletswydd Gonestrwydd yn golygu bod yn rhaid i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ddweud wrth gleifion, neu rywun sy'n gweithredu ar eu rhan, pan achosir niwed.

Ein nodau fel sefydliad yw:

  1. Adeiladu gweithlu y dyfodol
  2. Datblygu ein gweithlu presennol
  3. Ymgorffori diwylliant ac arweinyddiaeth yn GIG Cymru

Felly mae creu diwylliant o ymddiriedaeth   o fewn GIG Cymru, gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol presennol a newydd, o'r pwys mwyaf i ni.

 

Cefnogaeth pellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth ac arweiniad, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Gallwch hefyd gyrchu fersiwn hawdd ei darllen o’r Dyletswydd Gonestrwydd.