Gan weithio mewn partneriaeth â'r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol rydym yn datblygu Cynllun Gweithlu Deintyddol Strategol.
Bydd y cynllun yn gosod y cyfeiriad ar gyfer datblygu a siapio gweithlu deintyddol mewn niferoedd digonol gyda'r cymysgedd sgiliau cywir i ymateb i anghenion iechyd a gofal cymdeithasol poblogaeth Cymru.
Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar yr ymateb i'r camau a amlinellir yn "Ymateb Cymru Iachach: y Gwasanaeth Genol a Deintyddol" a bydd yn cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â'r proffesiwn deintyddol cyfan a rhanddeiliaid allweddol.
Fel rhan o'r gwaith o ddatblygu'r cynllun ac i roi gwybod i bawb am ein cynnydd, rydym wedi creu adnodd digidol sy'n nodi sut y byddwn yn cyflawni hyn, yr hyn yr ydym wedi'i wneud hyd yma, a'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae hefyd yn manylu ar sut rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i sicrhau ein bod yn ymgynghori mor eang â phosibl yn gynnar.
Gallwch gymryd rhan yn y sgyrsiau sydd eu hangen i lunio'r cynllun drwy e-bostio heiw.dentalworkforceplan@wales.nhs.uk