Mae amryw o ffactorau yn dylanwadu ar ddatblygiad a chynnydd drwy hyfforddiant: yr amgylchedd gwaith, arweinyddiaeth a rheolaeth, dyluniad gwaith, digwyddiadau bywyd arwyddocaol, gorbryder, straen ac iselder...ymysg eraill.
Drwy gymorth 1:1 cyfrinachol a phwrpasol, gall yr Uned Cymorth Proffesiynol helpu i adnabod rhwystrau a datrysiadau, cydweithio i roi cynllun gweithredu ar waith a chynnal cyswllt cefnogol er mwyn helpu gyda'r cynllun. Gall hyfforddeion ddefnyddio’r Uned Cymorth Proffesiynol gymaint ag y mae ei hangen arnynt yn ystod eu hyfforddiant – rydyn ni yma i wrando’n ddiduedd a chefnogi’n wrthrychol.
Rheoli perfformiad hyfforddeion
Beth dylid ac na ddylid ei wneud
- Bod yn barod i gymryd camau gweithredu ar unwaith pan ydych chi’n dod i wybod am bryderon.
- Gofyn am dystiolaeth wedi'i dogfennu gan gydweithwyr perthnasol ac aelodau o'r tîm.
- Siarad â'r hyfforddai a chofnodi'r cyfarfod.
- Ystyried asesiadau priodol i gael gwybodaeth, ee, Adborth Aml-Ffynhonnell (MSF).
- Mae adborth yn bwysig; rhaid i'r hyfforddai fod yn ymwybodol bod pryderon wedi cael eu codi.
- Peidio â delio â sefyllfaoedd anodd ar eich pen eich hun; gofynnwch i gydweithiwr ddod i’r cyfarfod gyda chi.
- Mae adroddiad goruchwyliwr addysg yn hanfodol er mwyn rhoi sail i gynnydd yr hyfforddai.
- Peidio ag aros tan yr adolygiad blynyddol nesaf i godi pryderon - dim byd annisgwyl yn yr adolygiad blynyddol (ARCP / ARCP).
Arwyddion ac achosion
A yw’ch hyfforddai yn dangos unrhyw rai o’r nodweddion canlynol?
- dicter
- bod yn anhyblyg / obsesiynol
- bod yn emosiynol
- bod yn absennol
- ddim yn ymateb i blipiau
- gwael am drefnu amser neu ddiffyg trefn bersonol
- gwael am gadw cofnodion
- diffyg dealltwriaeth
- diffyg crebwyll
- ddim yn ymwybodol o gyfyngiadau
- camgymeriadau clinigol
- methu arholiadau
- trafod newid gyrfa
- problemau cyfathrebu gyda chleifion, perthnasau, cydweithwyr neu staff.
A yw cleifion neu staff wedi cwyno am unrhyw rai o'r canlynol?
- bwlio
- ymddygiad trahaus
- ymddygiad digywilydd
- diffyg gwaith tîm (ee, teimlo’n ynysig; anfodlon gweithio shifftiau yn lle cydweithwyr)
- tanseilio cydweithwyr (ee, beirniadu neu ffraeo yn gyhoeddus / o flaen cleifion)
- methu blaenoriaethu
- ymateb yn amddiffynnol i adborth
- ymddwyn yn ymosodol ar lafar neu’n gorfforol
- ymddygiad eratig neu oriog
- problemau ag agwedd.
A oes problemau wedi bod o ran unrhyw rai o'r canlynol?
- absennol oherwydd salwch yn aml (ar ddyddiau Llun a Gwener yn enwedig)
- gormod neu ddim digon o gymhelliant
- newid edrychiad corfforol.