Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn arwain ar ddigwyddiad ymgynghori i ganfod a oes rôl i brentisiaethau gradd ar gyfer Proffesiynau Gofal Iechyd o ran hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y dyfodol. Fel y gwyddoch efallai AaGIC yw Partner Datblygu Llywodraeth Cymru ar gyfer y gyfres o brentisiaethau Gofal Iechyd.
Sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad:
Er mwyn sicrhau eich bod yn deall y sefyllfa a'r cyfleoedd presennol mewn perthynas â phrentisiaethau gradd yng Nghymru, rydym wedi llunio rhai dogfennau i chi eu darllen (ar gael isod). Bydd y rhain yn rhoi dealltwriaeth i chi fel y gallwch roi atebion gwybodus i'r cwestiynau ymgynghori.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am rywfaint o ddarllen y dogfennau yr ydym wedi'u tynnu ynghyd er mwyn i chi ddeall y sefyllfa bresennol a'r cyfleoedd mewn perthynas â Phrentisiaethau Gradd yng Nghymru.
Mae tair ffordd o ddweud eich dweud yn yr ymgynghoriad:
I archebu gweithdy, cliciwch ar y dyddiad yr hoffech chi fynychu a chofrestru drwy Eventbrite.
Mae gennym gydweithwyr sy'n siarad Cymraeg ar gael dydd Gwener 15 Medi a dydd Mawrth 17 Hydref. Os ydych angen i unrhyw un o'r gweithdai a ddyrannwyd gael eu cyfieithu o'r Gymraeg ar y pryd, rhowch wybod i ni o leiaf 5 diwrnod gwaith ymlaen llaw drwy'r cwestiynau cofrestru a byddwn yn sicrhau bod hyn ar gael ar y diwrnod.
Gofynnir am farn unrhyw grwpiau staff o'r GIG, Gofal Cymdeithasol, cymunedol, a chontractwyr annibynnol.