Mae AaGIC, fel Partner Datblygu ar gyfer y Prentisiaethau Gofal Iechyd, wedi bod yn arwain adolygiad o'r Llwybr Prentisiaeth Gwyddor Gofal Iechyd. Sefydlwyd Grŵp Llywio i oruchwylio'r gwaith hwn gydag aelodaeth o du AaGIC, GIG Cymru, Darparwyr Addysg a Hyfforddiant, Llywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru a'r Sector Annibynnol.
Mae’r Llwybr adolygedig hwn yn gwneud cynnig i gynnwys cymwysterau ar Lefelau 2 a 3 yn ogystal â'r cymhwyster Cydymaith Gwyddor Gofal Iechyd Lefel 4, sydd eisoes yn yr arlwy fel Prentisiaeth.
Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng dydd Llun 6 Chwefror a dydd Llun 13 Mawrth 2023. Byddai AaGIC yn gwerthfawrogi’ch barn ar y Llwybr adolygedig.
Gallwch gael mynediad i'r fframwaith drafft i'w adolygu yma.
Gallwch ymateb i'r ymgynghoriad trwy Microsoft Forms, yma.
Cysylltwch â HEIW.WBLApprenticeships@wales.nhs.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau.