Mae gan Bractisau Deintyddol Ymarfer Cyffredinol gyda chontract GIG nawr yr hawl am hyfforddiant cynnal bywyd sylfaenol ac argyfwng meddygol sydd wedi ei drefnu gan AaGIC.
Mae�r Adran Ddeintyddol wedi cyflwyno dull cymysg ar gyfer hyfforddiant cynnal bywyd sylfaenol ac argyfwng meddygol deintyddol. Ar â´l cwblhau modiwl dysgu ar-lein (DPP 1 awr), gall Timau Deintyddol o fewn Practisau Deintyddol Cyffredinol ategu'r hyfforddiant hwn â sesiwn ymarferol yn eu practis (DPP 1 awr), a gynhelir gan ein Darparwyr Hyfforddiant a gomisiynwyd gennym.
Mae cwblhau'r ddau gwrs yn bodloni meini prawf DPP uwch y GDC ac yn cynrychioli 2 awr o DPP gwiriadwy.
I gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar sut i archebu'r hyfforddiant hwn, lawrlwythwch a darllenwch y Cwestiynau Cyffredin a'r Siart Llif.
Modiwl Dysgu Ar-lein - Gall Gweithwyr Deintyddol Proffesiynol gwblhau'r modiwl dysgu ar-lein trwy ein System Rheoli Dysgu newydd, Y Ty Dysgu. Cofrestrwch yma os nad ydych wedi cofrestru am gyfrif eto - Sign up - Ytydysgu Heiw (DS - dim ond un cyfrif sydd ei angen arnoch. PEIDIWCH â chreu cyfrif arall os ydych wedi cofrestru o'r blaen ar y system hon). Darllenwch y Cwestiynau Cyffredin i gael gwybodaeth fanwl am sut i gael mynediad at y modiwl. Mae cwblhau'r modiwl hwn yn cyfateb i 1 awr o DPP gwiriadwy.
Sesiwn o Fewn Practis - Bydd angen i bob Deintyddfa sy'n dymuno cwblhau'r sesiwn ymarferol yn ei bractis, gwblhau'r ffurflen gofrestru ar-lein er mwyn i ni allu coladu manylion gofynnol y practis - Hyfforddiant Argyfwng Meddygol Ymarferoll. Unwaith y bydd y ffurflen hon wedi'i chwblhau, cysylltwch ac darparwr hyfforddiant Resus ar gyfer ardal eich Bwrdd Iechyd yn unig , i drefnu dyddiad ar gyfer eich sesiwn practis. Mae cwblhau'r hyfforddiant mewn-ymarfer hwn yn cyfateb i DPP 1 awr y gellir ei wirio.
Mae Darparwyr Hyfforddiant yn cael eu pennu gan Fyrddau Iechyd |
|
---|---|
Deintyddfeydd sydd wedi'u lleoli yn
|
Lubas Medical Limited |
Deintyddfeydd sydd wedi'u lleoli yn
|
Adran Ddadebru, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg |
Deintyddfeydd sydd wedi'u lleoli yn
|
Training for Life Limited |
Deintyddfeydd sydd wedi'u lleoli yn
|
Adran Ddadebru, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
Cyswllt yn y Gogledd Ddwyrain: Clair Partington, Cyswllt Canol Gogledd Cymru: Hannah Taylor & Leeanne Oliver Cyswllt y Gogledd Orllewin: Angela Davies |
Mae gwybodaeth ategol a'r' siartiau llif argyfwng meddygol, y gallwch eu llwytho i lawr ar gyfer eich sesiwn ymarfer, ar gael isod hefyd.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Jan Prosser-Davies.