Mae'r Uned Cymorth Proffesiynol (PSU) yn cyflwyno'r gweithdai canlynol mewn modd wyneb-yn-wyneb neu'n rhithwir i hyfforddwyr a hyfforddeion. Rydyn ni hefyd yn gallu cynnig amrywiaeth o hyfforddiant penodol ar gyfer arbenigeddau. Os oes gennych ddiddordeb i archebu gweithdy neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, cysylltwch â HEIW.Workshops.PSU@wales.nhs.uk
Cymorth i Hyfforddeion Trwy Hyfforddiant 3 awr – Wyneb-yn-Wyneb (sesiwn ryngweithiol fanwl gyda thrafodaethau yn seiliedig ar achosion lle nad yw unigolion yn cael eu henwi) 1 awr — Rhithwir (sesiwn yn canolbwyntio ar wybodaeth, adnoddau ac enghreifftiau o ymarfer da) Cynulleidfa: Hyfforddwyr Disgrifiad: Gweithdy rhyngweithiol sy'n addas ar gyfer holl aelodau'r gyfadran ac uwch hyfforddeion sy'n ymwneud â goruchwylio hyfforddeion meddygol neu ddeintyddol. Mae'r gweithdy'n canolbwyntio ar gydnabod a rheoli materion a allai effeithio ar gynnydd hyfforddeion. Mae cyfranogwyr yn archwilio arwyddion a sbardunau i faterion yn ymwneud â chymorth. Maen nhw hefyd yn dysgu am lwybrau cyfeirio ac yn trafod technegau goruchwylio hyfforddeion sydd ag anghenion cymorth amrywiol. Nodau ac Amcanion
Gwybodaeth Archebu: Bydd y PSU hefyd yn cyflwyno'r gweithdy hwn drwy gais gan Ganolfannau neu Arbenigeddau Ôl-raddedig. Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu gweithdy neu os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch, cysylltwch â: |
Hyfforddiant i Fentoriaid a Mentoreion 2 awr – Wyneb-yn-Wyneb (sesiwn ryngweithiol fanwl gydag ymarfer) 1 awr – Rhithwir (sesiwn yn canolbwyntio ar wybodaeth, adnoddau ac enghreifftiau o ymarfer da) Cynulleidfa: Hyfforddwyr a/neu Hyfforddeion Disgrifiad: Mae'r gweithdy hwn yn addas ar gyfer hyfforddwyr a/neu hyfforddeion ac mae'n ymdrin â chysyniadau mentora ac ymarfer mentora. Bydd y cyfranogwyr yn ennill sgiliau mentora creiddiol y dylai’r mentoriaid a’r mentoreion fod yn gyfarwydd â nhw ac adnoddau i'w defnyddio mewn sesiynau mentora Nodau ac Amcanion:
Gwybodaeth Archebu: Bydd y PSU hefyd yn cyflwyno'r gweithdy hwn drwy gais gan Ganolfannau neu Arbenigeddau Ôl-raddedig. Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu gweithdy neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â: |
Adnabod a Rheoli Emosiynau, Cyfathrebu Pendant a Datrys Problemau 2.5 awr – Wyneb-yn-Wyneb (sesiwn ryngweithiol fanwl gydag ymarfer) Cynulleidfa: Hyfforddwyr a/neu Hyfforddeion Disgrifiad: Wedi'i gynllunio i roi sgiliau cyfathrebu pendant a datrys problemau effeithiol sy’n hanfodol i gyfranogwyr. Trwy fynd i'r afael â ffurfiau gwybyddol amrywiol, rhwystrau diwylliannol, a ffurfiau cyfathrebu, nod y rhaglen hon yw meithrin amgylchedd o ryngweithio cadarnhaol a thechnegau ymarferol i ddatrys problemau. Nodau ac Amcanion
Gwybodaeth Archebu: Bydd y PSU hefyd yn cyflwyno'r gweithdy hwn drwy gais gan Ganolfannau neu Arbenigeddau Ôl-raddedig. Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu gweithdy neu os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch, cysylltwch â: |
Creu Amgylcheddau Gwaith Diogel a Chynhwysol 2.5 awr - Rhithwir neu Wyneb-yn-Wyneb (sesiwn ryngweithiol fanwl gydag ymarfer) Cynulleidfa: Hyfforddwyr a/neu Hyfforddeion Disgrifiad: Mae'r gweithdy hwn wedi'i gynllunio i feithrin amgylcheddau gwaith mwy diogel, mwy cynhwysol a pharchus. Trwy archwilio cysyniadau allweddol fel niwroamrywiaeth, rhagfarn ddiarwybod, a chyflawniad gwahanol, bydd cyfranogwyr yn cael yr adnoddau i ddod yn gynghreiriaid effeithiol yn eu gweithleoedd. Nodau ac Amcanion
Gwybodaeth Archebu: Bydd y PSU hefyd yn cyflwyno'r gweithdy hwn drwy gais gan Ganolfannau neu Arbenigeddau Ôl-raddedig . Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu gweithdy neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â: |
Deall Niwroamrywiaeth a Grymuso Hyfforddeion Niwrowahanol 1 awr - Rhithwir neu Wyneb-yn-Wyneb (sesiwn yn canolbwyntio ar wybodaeth, adnoddau ac enghreifftiau o ymarfer da) Cynulleidfa: Hyfforddwyr a/neu Hyfforddeion Disgrifiad: Bydd y gweithdy hwn yn amlinellu'r mathau o niwroamrywiaeth a adroddir amdanynt yn aml mewn hyfforddiant. Byddwn yn archwilio cryfderau pob cyflwyniad a'r meysydd a nodwyd fel anghenion am gymorth. Trwy drafodaeth yn seiliedig ar achos bydd y cyfranogwyr yn dysgu sut i ddefnyddio priodoleddau o niwroamrywiaeth. Byddan nhw hefyd yn nodi addasiadau rhesymol y gellir eu defnyddio yn yr amgylchedd clinigol a hyfforddi i gynorthwyo hyfforddeion, sy'n cael eu hadnabod fel niwrowahanol, i ffynnu. Nodau ac Amcanion: Ar ddiwedd y sesiwn hon bydd mynychwyr yn gallu:
Gwybodaeth Archebu: Bydd y PSU hefyd yn cyflwyno'r gweithdy hwn drwy gais gan Ganolfannau neu Arbenigeddau Ôl-raddedig. Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu gweithdy neu os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch, cysylltwch â: |
Hyfforddi’r Gwyliwr Gweithredol 2 awr — Wyneb-yn-Wyneb (sesiwn ryngweithiol fanwl gydag ymarfer) 1 awr — Rhithwir (sesiwn yn canolbwyntio ar wybodaeth, adnoddau ac enghreifftiau o ymarfer da) Cynulleidfa: Hyfforddwyr a/neu Hyfforddeion Disgrifiad: Gweminar neu addysgu wyneb-yn-wyneb sy'n ystyried pam ein bod angen pobl sy'n wylwyr gweithredol, pwy ydyn nhw a beth maen nhw'n ei wneud. Byddwch yn gynghreiriad — dysgwch sut y gallwch chi ddod yn rhywun sy'n wyliwr gweithredol. Nodau ac Amcanion
Gwybodaeth Archebu: Bydd y PSU hefyd yn cyflwyno'r gweithdy hwn drwy gais gan Ganolfannau neu Arbenigeddau Ôl-raddedig. Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu gweithdy neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â: |
Goresgyn Syndrom Twyllwr Gweminar awr o hyd Cynulleidfa: Hyfforddeion Disgrifiad: Syndrom Twyllwr yw’r teimlad eich bod yn dwyllwr er gwaetha tystiolaeth i’r gwrthwyneb. Mae’r weminar hon ar gyfer unrhyw un sy’n dioddef o’r syndrom, neu’r bobl hynny a hoffai ddeall rhagor er mwyn bod yn gefn i eraill. Nodau ac amcanion:
Gwybodaeth Archebu: Bydd y PSU hefyd yn cyflwyno'r gweithdy hwn drwy gais gan Ganolfannau neu Arbenigeddau Ôl-raddedig. Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu gweithdy neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â: |
Gwasanaeth PSU - Cyflwyniad 10 — 30 munud (wedi'i deilwra yn ôl yr angen) Cynulleidfa: Hyfforddeion Disgrifiad: Rhithwir neu Wyneb-yn-Wyneb Nodau ac Amcanion
Gwybodaeth Archebu: Bydd y PSU hefyd yn cyflwyno'r gweithdy hwn drwy gais gan Ganolfannau neu Arbenigeddau Ôl-raddedig. Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu gweithdy neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch: |
Cynnal eich Cryfder a’ch Llesiant 1.5 awr — Wyneb-yn-Wyneb neu Rithwir (sesiwn yn canolbwyntio ar wybodaeth, adnoddau ac enghreifftiau o ymarfer da) Cynulleidfa: Hyfforddeion Disgrifiad: Golwg gyffredinol o'r tîm a'r gwasanaeth PSU, arsylwadau ar Sicrwydd yn erbyn Ansicrwydd a'r dull tri cham o ddelio â Heriau. Nodau ac Amcanion: Canolbwyntio ar Ddulliau ac Adnoddau i gynnal a gwella llesiant gan gynnwys: 'Newid Agwedd Meddwl' i gydnabod a gwerthfawrogi agweddau cadarnhaol sefyllfaoedd, sylwi ar lefelau egni drwy ddefnyddio 'Cofnod Egni'/cadw 'balans credyd' egni ac ymarfer anadlu ystyriol i greu cyfleoedd i dawelu. Gwybodaeth Archebu: Bydd y PSU hefyd yn cyflwyno'r gweithdy hwn drwy gais gan Ganolfannau neu Arbenigeddau Ôl-raddedig. Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu gweithdy neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â: |
Gweminarau i Gynorthwyo Arholiadau 3 awr - Rhithwir (yn canolbwyntio ar wybodaeth, adnoddau ac enghreifftiau o ymarfer da) Cynulleidfa: Hyfforddeion Disgrifiad: Gweminar sy'n darparu awgrymiadau ac adnoddau ymarferol ar gyfer dull strwythuredig o adolygu. Ceir awgrymiadau ar gyfer gwneud y mwyaf o amser paratoi ac adnoddau i frwydro yn erbyn pryder er mwyn sicrhau llwyddiant mewn arholiadau. Nodau ac Amcanion:
Dydd Mercher 10/07/2024 10am tan 1pm Dydd Mawrth 08/10/2024 o 10am i 1pm Dydd Mercher 12/02/2025 1pm tan 4pm Dydd Mercher 10/07/2025 10am tan 1pm Mae cofrestru ar gyfer y sesiynau trwy Eventbrite gan ddefnyddio'r URL: ar gyfer https://www.eventbrite.co.uk/o/professional-support-unit-psu-heiw-27033957245 Gellir hefyd cyrchu’r sesiynau o'r gweithdai Cynorthwyo Arholiadau a gofnodwyd ymlaen llaw drwy Y Tŷ Dysgu: https://ytydysgu.heiw.wales/courses/3ef30254-ca22-4060-8c91-2eb8fce53d64 |
Sgiliau a Strategaethau Cyfathrebu 1 awr — Rhithwir (sesiwn yn canolbwyntio ar wybodaeth, adnoddau ac enghreifftiau o ymarfer da) Cynulleidfa: Hyfforddeion Disgrifiad:
Nodau ac Amcanion:
PSU: Dydd Mercher 25/09/2024 o 12-1pm Mae cofrestru ar gyfer y sesiwn hon trwy Eventbrite gan ddefnyddio'r URL: https://www.eventbrite.co.uk/o/professional-support-unit-psu-heiw-27033957245 Mae'r PSU hefyd yn gallu darparu cyrchiad PREMIWM AM DDIM i'r ap Comms4Docs Mae'r Ap COMMS 4 DOCS yn darparu llyfrgell ddeinamig o ymadroddion i wella eich rhyngweithio â chleifion, perthnasau, cydweithwyr a thimau. Cam 1 Lawrlwythwch yr Ap COMMS4DOCS yn eich hoff Siop Ap. |
Cymorth Gyrfaol i Hyfforddeion 1.5 awr i 2 awr – Wyneb-yn-Wyneb (sesiwn ryngweithiol fanwl gyda thrafodaethau yn seiliedig ar achosion lle nad yw unigolion yn cael eu henwi) 1 awr - 1.5 awr Rithwir (sesiwn yn canolbwyntio ar wybodaeth, adnoddau ac enghreifftiau o ymarfer da) Cynulleidfa: Hyfforddwyr a/neu Hyfforddeion Disgrifiad: Mae'r gweithdy hwn yn ymdrin â modelau a dulliau o gynllunio gyrfa feddygol ac yn darparu awgrymiadau a dewis o adnoddau i lywio heriau gyrfaol wrth hyfforddi. Nodau ac Amcanion: Bydd y sesiwn yn amlinellu camau allweddol mewn cynllunio gyrfa gan ddefnyddio damcaniaeth a modelau gyrfa sefydledig. Erbyn diwedd y sesiwn bydd cyfranogwyr yn deall mwy am:
Gwybodaeth Archebu: Bydd y PSU hefyd yn cyflwyno'r gweithdy hwn drwy gais gan Ganolfannau neu Arbenigeddau Ôl-raddedig. Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu gweithdy neu os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch, cysylltwch â: |