Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Cyffredin

A yw'r hyfforddiant clinigol yn cael ei gwblhau yn agos at y brifysgol gysylltiedig, ynteu a yw'r hyfforddiant clinigol ar draws Cymru?

Bydd eich lleoliadau hyfforddiant clinigol yn dibynnu ar eich arbenigedd hyfforddi ond bydd wedi'i gynllunio o amgylch eich Prifysgol gysylltiedig.

 

O ran cyllid, beth sy'n cael ei ddarparu yn y rhaglen mewn gwirionedd?

Mae'r cyflog yn cael ei dalu gan y Brifysgol ac mae'r holl gostau bandio ac ar alwad yn cael eu talu gan y bwrdd iechyd lle mae hyfforddiant clinigol yn digwydd ac mae yn ôl disgresiwn y BI lleol. Cyflog sy'n cael ei ariannu am 3 blynedd yw'r PhD, ond nid yw hyn yn cynnwys defnyddiau traul.

 

Prifysgolion Cysylltiedig

Mae rhaglen WCAT yn gweithredu ar y cyd â 3 phrifysgol ledled Cymru: Bangor, Caerdydd ac Abertawe. Gellir alinio eich rhaglen hyfforddiant arbenigol â'r brifysgol o'ch dewis.

 

A oes rhaid penderfynu ar y PhD cyn dechrau WCAT? 

Mae angen i chi fod wedi trafod gyda'ch TPD a'r brifysgol rydych chi'n bwriadu gwneud eich ymchwil ynddo.  Byddem yn disgwyl i chi fod wedi trafod eich cais gyda'ch TPD fel bod gennych eu cefnogaeth o'r cychwyn cyntaf ac mae gennych syniad hefyd o'r gwaith ymchwil yr hoffech chi symud ymlaen.

 

Sut mae agwedd academaidd/ ymchwil y gymrodoriaeth yn gweithio os oedd gen i ddiddordeb mewn gwneud ymchwil Addysg Feddygol yn hytrach nag ymchwil glinigol?

Mae'r swydd yn rhoi 20% o'ch amser ar gyfer gweithgareddau academaidd i ddechrau ac yna'n arwain at PhD llawn amser. Mae gennym ddiddordeb yn hanes yr ymgeisydd, ansawdd a dichonoldeb eu cynlluniau ymchwil arfaethedig a'u potensial i fod yn academyddion clinigol llwyddiannus, yn hytrach na'r maes ymchwil penodol y maent am ganolbwyntio arno.

 

Pryd mae angen i mi feddwl am fy OOP/PhD?  Oes amser penodol mae'n rhaid gwneud hyn (ee yn IMT2, ar ôl ST4 ac ati)?

Mae modd gwneud yr OOP/ PhD unrhyw bryd yn ystod y rhaglen, AC EITHRIO'r flwyddyn olaf. Dylid gwneud hyn gyda thrafodaethau gyda'ch TPD i ddod o hyd i'r amser gorau posibl yn ystod eich hyfforddiant ac yn unol â'ch dilyniant.

 

Alla i fynd 'OOP' wrth gofrestru ar y rhaglen?

Mae holl gymrodyr WCAT yn cymryd tair blynedd o'r rhaglen (OOP) ar gyfer PhD a gyllidir, cyn mynd allan o'r rhaglen rhaid i bob cymrawd gwblhau ffurflen gais OOP. Gall cymrodyr WCAT hefyd wneud cais am amser ychwanegol allan o hyfforddiant clinigol ar gyfer cymrodoriaethau, rhaid i'r amser allan gael ei gymeradwyo'n ddarpar drwy gwblhau ffurflen gais OOP. 

 

Sut a phryd fydd fy nghymhwysedd yn cael ei adolygu yn ystod y rhaglen?

Bydd gennych ARCP ar gyfer eich hyfforddiant clinigol (pan yn y rhaglen) AC ARCP Academaidd i asesu eich cynnydd academaidd yn flynyddol. Er eich bod yn OOP, byddwch yn cyflwyno eich adroddiad cynnydd academaidd i'r TPD yn lle ARCP.

 

Alla i weithio llai na llawn amser (LTFT)?

Gallwch

 

A fyddaf yn gwneud unrhyw waith clinigol/ar alwadau yn ystod fy PhD tair blynedd?

O bosib - mater i chi ydy o.  Gallwch benderfynu a ydych am wneud y newid achlysurol ai peidio, ond dylai'r pwyslais yn ystod y cyfnod hwn fod ar eich ymchwil mewn gwirionedd, felly byddem yn eich annog i beidio â chymryd gormod o waith clinigol.

 

Mae gen i PhD eisoes - ydw i'n gymwys?

Ydy, mae hyfforddeion sydd eisoes wedi cwblhau cyfnod ymchwil amser llawn sy'n arwain at radd doethuriaeth yn gymwys i wneud cais i raglen WCAT. 

 

Rydw i'n hyfforddai deintyddol - ydw i'n gymwys?

Ydych- gallwch wneud cais nawr I raglan WCAT. Cliciwch yma am fwy of wybodaeth.