Mae'r Rhaglen Lleoliadau Fferyllol Israddedig wedi’u Hariannu (FPUPP) yn darparu profiadau clinigol i fyfyrwyr fferylliaeth israddedig sy'n astudio yng Nghymru.
Golwg Gyffredinol o'r FPUPP
Mae’r broses datganiad o ddiddordeb (EOI) flynyddol bellach ar agor ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.
I gyflwyno EOI ar gyfer y FPUPP,cliciwch yma os gwelwch yn dda.
Amlinellir y broses EOI ddiwygiedig isod:
Byddwn yn cysylltu â phob fferyllfa gymunedol, practis meddyg teulu a Bwrdd Iechyd yn y Gwanwyn i gychwyn y broses EOI ar gyfer 2024/25. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y rhaglen FPUPP a’ch bod yn gweithio i sefydliad fferylliaeth gymunedol luosog, rydym yn eich cynghori i gysylltu â’ch tîm rheoli canolog cyn cyflwyno EOI.
Bydd yr SAUau yn ceisio dyrannu myfyrwyr i safleoedd â sicrwydd ansawdd ledled Cymru. Fodd bynnag, ni all SAUau warantu y bydd pob safle yn derbyn myfyrwyr.
Nac oes.
Bydd unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig sydd â sgiliau clinigol perthnasol a gwybodaeth am y gofynion hyfforddi ar gyfer fferyllwyr yn cael ei ystyried ar gyfer y rôl.
Darperir hyfforddiant blynyddol i bob goruchwyliwr lleoliad, gan gynnwys llawlyfr goruchwyliwr lleoliad. Bydd myfyrwyr yn derbyn llawlyfr myfyrwyr i weithio drwyddo yn ystod eu lleoliadau.
Mae'r safonau IETP yn cynnwys 55 o ddeilliannau dysgu, y mae'n rhaid i bob un ohonynt gael eu cyflawni erbyn diwedd hyfforddiant sylfaen fferyllwyr dan hyfforddiant. Fodd bynnag, rhaid dangos 16 o'r deilliannau dysgu hyn ar lefel 'Cyflawni' triongl Miller erbyn diwedd gradd MPharm myfyriwr. Mae'r FPUPP yn cynorthwyo myfyrwyr i gyflawni'r 16 ddeilliannau dysgu hyn trwy leoliadau dysgu drwy brofiad.
Caiff sefydliadau cynnal eu talu'n uniongyrchol gan yr SAUau a rhaid iddynt anfonebu'r SAU yn uniongyrchol am dâl, gan ddilyn canllawiau CThEM.
Ar gyfer sylwadau neu gwestiynau, cysylltwch â HEIW.FPUPP@wales.nhs.uk