Yn darparu cyfleoedd strwythuredig i holl staff GIG Cymru ar gyfer datblygu sgiliau a gwybodaeth yn y gweithle. Cyflawnir Dysgu Seiliedig ar Waith trwy ddysgu achrededig a dysgu heb ei achredu a chaiff ei oruchwylio yn y gweithle.
Bydd y dysgu achrededig yn rhoi tystysgrif a gydnabyddir yn genedlaethol i'r dysgwr. Mae dysgu anachrededig yn cael ei ddatblygu gan gwmni heb gymeradwyaeth yn erbyn safonau rheoleiddiedig.
Mae prentisiaethau yn ffordd o ennill cyflog a gweithio gyda staff profiadol i ennill sgiliau a gwybodaeth sy’n benodol i’r rôl.
Yn dibynnu ar faint a lefel y cymhwyster bydd y prentisiaeth yn cymryd rhwng 1 a 3 blynedd i gwblhau; Mae’n cyfuno hyfforddiant ymarferol seiliedig ar waith gydag astudio i gweithio tuag at Fframwaith Prentisiaeth Cymraeg. Bydd prentisiaid ar y cyd â’u rheolwr llinell yn dewis Fframwaith Prentisiaeth priodol a fydd yn cynnwys Cymhwysedd, Gwybodaeth, a chymwysterau Sgiliau Hanfodol perthnasol.
Mae tua 190 o swyddi ar gael mewn ystod eang o sectorau o Lefel 2 i Lefel 5. Ceir manylion llawn yr holl fframweithiau cyfredol ar y Frameworks Library | ACW - Website (acwcerts.co.uk)
Mae'r llawlyfr rheolwyr yn rhoi arweiniad i reolwyr sydd â diddordeb mewn darparu Prentisiaeth yn eu maes. Gallwch ddod o hyd i hwn yma: Apprenticeship Handbook - Apprenticeship Managers' Handbook Cymraeg version 3 (pagetiger.com)
Pentref rhithwir yw hwn i helpu i ddeall y cyfleoedd sydd ar gael o fewn Iechyd a Gofal i alluogi defnyddwyr i wneud dewisiadau cyflogaeth gwybodus. Gyda dros 350 o rolau ar wahanol lefelau ar gael, mae'r adnodd rhyngweithiol hwn yn darparu gwybodaeth a manylion am y digwyddiadau sydd i ddod. Croeso i Dregyrfa | Tregyrfa (heiw.cymru)
Dolenni at Gymwysterau Iechyd y GIG:
Dolenni at Gymwysterau Iechyd a Chymdeithasol
Dolenni at Gymwysterau Gofal Plant
Dolenni at Gymwysterau Gwyddor Gofal Iechyd
Mae'r rhain yn gyrsiau amrywiol, a gellir dod o hyd i ragor o fanylion trwy gysylltu â'r adran Addysg a Hyfforddiant o fewn pob Bwrdd Iechyd.