Neidio i'r prif gynnwy

Gwneud Penderfyniadau Clinigol Gwell (ICDM)

Nod rolau yn y tîm Gwneud Penderfyniadau Clinigol Gwell yw gweithio gyda Byrddau Iechyd i nodi problemau lle bydd hyfforddiant a chymorth Nodau Gofal i dimau aml-ddisgyblaethol yn rhan o ddatrysiadau i’r broblem.

Mae’r Care Aims Intended Outcomes Framework yn defnyddio pileri’r Ddyletswydd Ofal (Egwyddorion Cyfreithiol a Moesegol) i gefnogi gwneud penderfyniadau proffesiynol.

Pwyslais y gwaith hwn yw gwella perthnasoedd ar bob lefel. Mae’n hyrwyddo trafodaethau medrus sy’n grymuso mewn timau ac ar eu traws, ac â theuluoedd, gofalwyr ac arweinwyr.

 

Adnoddau

 

Blogiau

Mae'r gyfres hon o 10 blog wedi'u hanelu at bobl sydd wedi cwblhau modiwl 1 neu fodiwlau 1 a 2 o Fframwaith Deilliannau Arfaethedig Care Aims.