Mae'r Fframwaith Proffesiynol ar gyfer Ymarfer Clinigol Estynedig, Uwch ac Ymgynghorol yng Nghymru yn disodli Fframwaith NILIAH (2010) ar gyfer ymarfer Nyrsio, Bydwreigiaeth ac Ymarfer Proffesiynol Iechyd Perthynol Uwch, gan gydnabod y newidiadau yn y gweithlu ledled Cymru. Mae'r fframwaith yn diffinio'r lefelau ymarfer, yr addysg sy'n sail iddynt, ac yn darparu cymorth ac arweiniad i gyflogwyr, Sefydliadau Addysg Uwch (SAU), ac ymarferwyr clinigol neu'r rhai sy'n dymuno ymarfer ar y lefelau hyn.
Mae'r Canllawiau Portffolio ar gyfer Ymarferwyr Estynedig, Uwch ac Ymgynghorol yng Nghymru yn galluogi ymarferwyr i ddangos tystiolaeth o lefel eu hymarfer. Mae'r ddogfen yn cynnwys canllawiau ar gynnwys, sut i gyrchu’r e-bortffolio ac offer defnyddiol i gasglu a myfyrio ar arfer.
Bydd y Canllaw i Godio ESR ar gyfer Ymarferwyr Uwch yng Nghymru yn cynorthwyo cyflogwyr i gofnodi teitl swydd, rôl, a phroffesiwn creiddiol ar ESR. Drwy wella’r data sydd ar gael ar ymarferwyr uwch yng Nghymru gallwn sefydlu niferoedd a thwf rolau a phroffesiynau. Bydd hyn yn helpu i ddeall sut mae proffesiynau a rolau yn datblygu a lle y gallai fod angen cymorth proffesiynol neu ddaearyddol.
Bydd y canllaw defnyddiwr hwn yn helpu ymarferwyr i ddefnyddio e-bortffolio MARS