Neidio i'r prif gynnwy

Compendiwm Gofal Integredig

Atebion i'r Gweithlu i gefnogi gweithlu 'Darbodus mewn Ymarfer'

'Peidiwch ag aros i gael gwybod .......mae gennych ganiatâd i weithredu' (Fframwaith Clinigol y GIG, 2021)

Roedd y pandemig yn ysgogi unigolion a thimau mewn ymateb ar y cyd i achos cydfuddiannol gyda'r nod o achub bywydau a lleihau lledaeniad yr haint. O safbwynt y gweithlu, cafwyd newid diwylliannol sylweddol gan arwain at fwy o gydweithredu, dealltwriaeth a pharch at gyfraniad pobl eraill.

Mae'r pwysau ar y system yn sylweddol ac mae her y gweithlu yn gymhleth.  Er bod systemau a gwasanaethau wedi darparu ffocws ar gyfer newid, y staff sy'n gweithio ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a'r sector gwirfoddol sy'n cynrychioli'r ased mwyaf wrth ddarparu gofal integredig sy'n rhychwantu ffiniau. 

Er gwaethaf y ffaith fod sawl rhan o'r gweithlu yn dioddef o flinder, mae gwir ymdeimlad o gymhelliant i wneud pethau'n wahanol, i arloesi a gwella gwasanaethau i gleifion a chymunedau.

Gan ganolbwyntio sgyrsiau ar y cyfleoedd a'r atebion yn hytrach na'r heriau a'r problemau, mae arweinwyr proffesiynol yn fwy tebygol o sicrhau cefnogaeth gan staff rheng flaen gan arwain at y newid a'r gwelliannau trawsnewidiol cynaliadwy sydd eu hangen.   

Mae cyfraniad ein gweithlu talentog yn ganolog i gefnogi gweithio integredig.  Mae llawer o'r sgiliau sydd eu hangen eisoes yn bodoli o fewn y gweithlu; fodd bynnag, mae creu gweithlu gwirioneddol hyblyg, ystwyth a grymus yn gofyn am fwy o ystyriaeth o sut y defnyddir y sgiliau hynny.

Mae AaGIC wedi datblygu adnodd byw i gefnogi'r gwaith o fabwysiadu a gweithredu atebion i'r gweithlu ar draws y system ehangach.  Mae'r crynodeb hwn yn cynnwys adnoddau'r gweithlu cenedlaethol o bob rhan o Gymru, i gefnogi meddwl o'r newydd a rhannu mentrau wrth ddatblygu gweithlu hyblyg, ystwyth a chynaliadwy.