Neidio i'r prif gynnwy

Rhwydwaith ac Adnoddau

Meddyg yn edrych ar blât pelydr x
Rhwydwaith Gwyddonwyr Gofal Iechyd

Grŵp o Wyddonwyr Gofal Iechyd a ffurfiwyd gyntaf yng nghamau cynnar datblygu'r fenter Moderneiddio Gyrfaoedd Gwyddonol yng Nghymru yw hwn. Mae’r grŵp yn parhau i ddatblygu, gan arfer ei ddylanwad nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU. Mae'r Rhwydwaith Gwyddor Gofal Iechyd yn allweddol i'r cydweithio hwnnw ledled Cymru. Caiff ei ddisgrifio yn y fframwaith Edrych tuag at y Dyfodol fel y grŵp proffesiynol sydd wrth wraidd y Rhaglen Gwyddor Gofal Iechyd.

Cefnogir y gwaith llywodraethu a llunio penderfyniadau sy'n gysylltiedig â chyflawni’r Rhaglen gan Fwrdd Rhaglen Gwyddor Gofal Iechyd. Mae rhagor o fanylion, gan gynnwys y cylch gorchwyl a phapurau cyfarfodydd, ar gael yma: Rhwydwaith a Bwrdd Rhaglen Gwyddor Gofal Iechyd.

 

Pecyn Cyfathreb

Mae pecyn cyfathrebu'r Rhaglen Gwyddor Gofal Iechyd wedi'i datblygu er mwyn helpu adeiladu 'dull unedig cyfundrefnol' gan arddangos gwir ehangder gwyddor gofal iechyd yng Nghymru.

Nod y pecyn cymorth yw tynnu sylw at y cyfleoedd cyffrous sydd ym maes gwyddor gofal iechyd yng Nghymru.

 

 

Sesiwn Sbotolau

Ers ein cylchlythyr diwethaf rydym wedi cynnal sesiwn sbotolau gwych ar ‘Arweinyddiaeth yn ei Holl Agweddau yn GIG Cymru’.

Rhoddodd Helen Thomas, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Arwain ac Olyniaeth yn AaGIC drosolwg ar y cynnig o arweinyddiaeth amlbroffesiynol ar draws GIG Cymru, a rhannodd cydweithwyr gwyddor gofal iechyd eu profiadau o ymgymryd â Sgiliau Ymarferol ar gyfer Addysg ac Arweinyddiaeth ar gyfer Gwyddonwyr Gofal Iechyd (y cyfeirir ato fel PSEL).

Cadwch olwg ar y man hwn am wybodaeth am sesiynau sbotolau ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 
Gwyddonwyr Clinigol Ymgynghorol GIG Cymru

Cynhyrchwyd argymhellion i Gwyddonwyr Clinigol Ymgynghorol gan y Rhwydwaith Gwyddor Gofal Iechyd ac maent yn darparu gwybodaeth ac arweiniad ynghylch y rôl, recriwtio, ac addysg, hyfforddiant a chyrhaeddiad gwyddonwyr clinigol ymgynghorol ar draws GIG Cymru.

Nod y ddogfen yw hwyluso'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau gwyddor gofal iechyd lle gall Gwyddonwyr Clinigol Ymgynghorol chwarae rôl arweiniol allweddol wrth ddarparu a thrawsnewid gwasanaethau amlbroffesiynol. Mae hyn yn cyfrannu at yr uchelgais o fewn Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i gael gweithlu sydd â'r gallu, y cymhwysedd a'r hyder i ddiwallu anghenion pobl Cymru.

 
Cysylltwch â Ni:

Rydym yn awyddus i gyrraedd cymaint o aelodau â phosibl o’r 50+ o broffesiynau sy’n rhan o’n cymuned gwyddor gofal iechyd yng Nghymru.

Anogwch gydweithwyr i gymryd rhan drwy: 

  • ymweld â'n wefan
  • ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol: @HCS_Cymru / #HCS_Cymru
  • ymuno â’r rhestr bostio

Gellir cysylltu â'n tîm yn uniongyrchol hefyd yn: HEIW.HCS@wales.nhs.uk