Enw: Jane Imperato
Proffesiwn: Ymwelydd Iechyd
Cefndir: Mae gan Jane gefndir mewn Nyrsio, Bydwreigiaeth ac mewn Ymweliadau Iechyd, mae ganddi 12 mlynedd o brofiad fel Rheolwr Gweithredol yn Dechrau'n Deg Caerdydd. Mae gan Jane hefyd brofiad addysgu diweddar fel Arweinydd Datblygu Ymarfer y Timau Ymwelwyr Iechyd yng Nghaerdydd, gan hyfforddi pob aelod o staff, myfyrwyr nyrsio a myfyrwyr meddygol.
Barn Jane ar ICDM: Teimlaf y byddaf, drwy ICDM, yn gallu dylanwadu ar y genhedlaeth nesaf o dimau'r GIG er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'w cleifion/cleientiaid a chael y boddhad mwyaf posibl o'u rolau. Rwy'n gyffrous iawn i fod yn ymuno â'r tîm newydd hwn.
Diddordebau: Tan y pandemig Covid roedd Jane yn canu yn y côr "Lleisiau'r Ddinas", mae hi hefyd yn mwynhau ysgrifennu barddoniaeth ac yn arfer ysgrifennu pantomeim Nadolig yn rheolaidd ar gyfer cyfranogiad a mwynhad staff yn ei gweithle blaenorol.