Neidio i'r prif gynnwy

Daryl Harris - Seicolegydd Clinigol

Enw: Daryl Harris

Proffesiwn: Seicolegydd Clinigol

Cefndir: Mae gan Daryl 27 mlynedd o brofiad yn gweithio fel ymarferydd ac arweinydd clinigol o fewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r rhan fwyaf o'r amser hwn wedi bod yn y GIG ond mae hefyd wedi gweithio gyda gwasanaethau cyfiawnder troseddol yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, Seland Newydd ac Awstralia. 

Barn Daryl ar ICDM: Yn y rôl hon rwy'n gyfrifol am weithio ochr yn ochr ag arweinwyr ac ymarferwyr byrddau iechyd i sefydlu'r amodau gorau ar gyfer gwneud penderfyniadau hyblyg, effeithiol a moesegol ar bob lefel o'r GIG. Credaf fod sefydlu'r amodau hyn yn dechrau drwy nodi canlyniadau a rennir. Mae hefyd yn cynnwys helpu i nodi a hwyluso perthnasoedd allweddol, darparu cymorth ar gyfer datblygu galluoedd y gweithlu, helpu i negodi mynediad at gymorth strategol a gweithredol, a gweithio gyda chydweithwyr mewn byrddau iechyd i greu ysbryd o ymholi parhaus ar y cyd.  

Diddordebau: Mae Daryl yn mwynhau rygbi, nofio, ysgrifennu, tenis bwrdd, teithio, gwersylla, syrffio, cerdded y ci, chwarae gyda'r plant, a chymdeithasu gyda ffrindiau a theulu.