Neidio i'r prif gynnwy

Rolau AHP a Gyrfa

Pwy yw Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd?

Darllenwch broffiliau'n uniongyrchol gan ein gweithlu am amrywiaeth y rolau ar draws yr AHPau. Mae'r proffiliau hyn yn disgrifio'r gwahanol lwybrau i addysg a hyfforddiant sy'n arwain at ddod yn Weithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a'r ystod o gyfleoedd dilyniant gyrfa i'n gweithwyr cymorth, a chofrestryddion. Os hoffech, gallwch ychwanegu eich swydd at y gofrestr portffolio drwy'r -  Arolwg Proffil Swyddi Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd.   

Lawrlwythwch Broffiliau Swyddi Proffesiynau Perthynol i Iechyd.

Sylwch: Mae AHPs a Gwyddor Gofal Iechyd wedi’u grwpio ychydig yn wahanol yng Nghymru a Lloegr. Os hoffech gael gwybodaeth am radiograffwyr neu ymarferwyr adrannau llawdriniaeth, gweler ein tudalennau gwyddor gofal iechyd.

 

Rolau Swyddi AHP

 

 

Gwybodaeth i fyfyrwyr

Ydych chi'n fyfyriwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd sy'n astudio yng Nghymru? Yna hoffem glywed gennych! Rhowch wybod i ni os ydych wedi bod yn rhan o unrhyw brosiectau neu arfer arloesol HEIW.AlliedHealthProfessions@wales.nhs.uk.

Cymerwch olwg ar yr hyn y mae myfyrwyr AHP eisoes wedi bod yn ei wneud:
Lleoliad arweinyddiaeth gofal iechyd newydd yn cyflwyno arloesedd i fyfyrwyr

 

 

Fforwm myfyrwyr

Ydych chi am rannu gwybodaeth, trafod profiadau, rhwydweithio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a llawer mwy? Yna beth am ymuno â Fforwm Myfyrwyr Iechyd Cymru?

 

Adnoddau HCPC

Mae gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) fanc o adnoddau ac offer sy'n rhoi arweiniad ar amrywiaeth o bynciau.

  • Canllawiau Cyfryngau Cymdeithasol
  • Adnoddau Goruchwylio