Neidio i'r prif gynnwy

Gweithio yn GIG Cymru

Ymunwch â Thîm GIG Cymru

Y GIG yw'r cyflogwr mwyaf yng Nghymru gyda dros 90,000 o staff. Mae yna dros 350 o gyfleoedd gyrfa gan gynnwys popeth o fferyllwyr i barafeddygon, gynaecolegwyr i beirianwyr clinigol, radiograffwyr i fydwragedd ac mewn gwasanaethau cymorth hanfodol fel gweinyddol a chlerigol, ystadau, rheolaeth gyffredinol / ariannol, arlwyo, domestig neu hybu iechyd.

Efallai nad ydych wedi meddwl am y GIG fel opsiwn gyrfa o'r blaen, ond mae llawer o'r sgiliau a llawer o'r profiad rydych chi wedi'i ennill yn yr ysgol a swyddi eraill yn allweddol yn rolau'r GIG.

Gall pa bynnag sgiliau, profiad a chymwysterau sydd gennych y GIG gynnig gyrfa gyffrous a gwerth chweil i chi.

Cefnogi meddygon sy'n ffoaduriaid - os ydych yn feddyg â statws ffoaduriaid ac yn dymuno ymarfer yng Nghymru (y DU) mae cyngor ac arweiniad ynglŷn â sut i wneud hyn ar gael yn ein hadran 'Cyngor i Feddygon Ffoaduriaid'.

Gellir gweld swyddi gwag cyfredol gan gynnwys rhan-amser, amser llawn, parhaol a thymor penodol ar wefan swyddi’r GIG neu ar wefannau'r Bwrdd Iechyd a'r Ymddiriedolaeth isod:

Gogledd Cymru

Canolbarth Cymru

De Cymru

Gorllewin Cymru

Yn aml mae gan sefydliadau Cymru Gyfan rolau wedi'u lleoli mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru yn hytrach nag mewn un ardal.

Os ydych chi'n dechrau ar eich taith gyrfa neu'n chwilio am wybodaeth newid gyrfa ar yr holl rolau gwahanol o fewn GIG Cymru, mae e ar y wefan hon. Ewch i dudalen ymgyrch NHS75 yma i archwilio ystod eang o yrfaoedd. Darllenwch straeon gan staff ar draws GIG Cymru a dysgwch am ddisgwyliadau pob swydd yn ei olygu.

Os hoffech gael gwybod am swyddi yn AaGIC ewch i dudalen swyddi AaGIC.

Neu ewch i’n platfform ar-lein sy’n arddangos cyfleoedd gyrfa ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.