Neidio i'r prif gynnwy

Gweithredu Safonau newydd yr NMC ar gyfer Addysg Bydwreigiaeth - Digwyddiadau Rhanddeiliaid

Mae'r digwyddiadau hyn yn agored i'r HOLL randdeiliaid allweddol sy'n ymwneud â gweithredu Safonau NMC ar gyfer addysg bydwreigiaeth gan gynnwys pobl sy'n defnyddio gwasanaethau mamolaeth, myfyrwyr, personél practis a phrifysgolion, comisiynwyr a llunwyr polisi.

Digwyddiadau Rhithwir fydd rhain, mae 3 dyddiad gwahanol:

Digwyddiad

Dyddiad

AM*

PM**

Link

1

23/11/2020

10.00 i 12.30

13.30 i 16.00

Tachwedd

2

08/12/2020

10.00 i 12.30

13.30 i 16.00

Rhagfyr

3

11/01/2021

10.00 i 12.30

13.30 i 16.00

Ionawr

Sesiynau bore*: Gweithredu'r Safonau ar gyfer goruchwylio ac asesu myfyrwyr (SSSA) a'r ddogfen asesu ymarfer bydwreigiaeth (MPAD)

Sesiynau prynhawn**: ystyried y pum egwyddor ar gyfer gofal mamolaeth, o weledigaeth mamolaeth Llywodraeth Cymru, a sut y gellir eu hymgorffori mewn rhaglenni bydwreigiaeth yn y dyfodol

Nodwch fod rhywfaint o hyblygrwydd, er enghraifft, gallwch archebu lle i fynychu'r bore ar un dyddiad, a'r prynhawn ar ddyddiad arall.

Cadarnhewch archebion gyda: Bydd gwahoddiadau Microsoft Teams yn cael eu hanfon atoch drwy e-bost ar gyfer digwyddiadau bore a phrynhawn.