Neidio i'r prif gynnwy

Unwaith i Gymru 2020

Collage of nurses
Safonau ar gyfer addysg nyrsio a bydwreigiaeth

Mae nyrsys cofrestredig yn gwneud cyfraniad pwysig i hybu iechyd, diogelu iechyd ac atal iechyd gwael gyda chofrestryddion y dyfodol yn arwain mentrau gofal a gyrru i wella canlyniadau gofal cleifion.

Cyhoeddwyd Safonau Hyfedredd Nyrsys y Dyfodol ar gyfer Nyrsys Cofrestredig, gan Gyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth y DU ym 2018, gan ddod i rym yng Nghymru o Fedi 2020. Mae'r safonau'n nodi'r wybodaeth, sgiliau, agweddau, gwerthoedd a'r ymddygiadau y mae'n rhaid i nyrsys cofrestredig eu dangos er mwyn darparu gofal diogel, tosturiol ac effeithiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn nawr ac yn y dyfodol.

Yn ogystal, mae Safonau ar gyfer goruchwylio ac asesu myfyrwyr yn nodi disgwyliadau o ran dysgu, cefnogi a goruchwylio myfyrwyr yn yr amgylchedd ymarfer. Mae'n hanfodol bod myfyrwyr yn cael cyfleoedd i ddysgu oddi wrth amrywiaeth o bobl gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol cofrestredig a’r rhai nad ydynt wedi cofrestru, a chyfoedion sy'n fyfyrwyr.

Gwnaeth Grŵp Nyrsio a Bydwreigiaeth Cyn-gofrestru Cymru Gyfan, a gynorthwyir gan y Rheolwr Rhaglen Addysg Cymru, arwain ar ddull cenedlaethol 'Unwaith i Gymru 2020'. Roedd y grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, Sefydliadau Addysg Cymeradwy, Byrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd, Prif Swyddfa Nyrsio, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill.

Cychwynnodd y garfan gyntaf o fyfyrwyr ar y rhaglenni medrusrwydd nyrsio cyn-cofrestru ac ôl-gofrestru newydd yr NMC yng Nghymru ym Medi 2020. Mae’r holl raglenni nyrsio prifysgolion bellach wedi’u cymeradwyo yn dilyn digwyddiadau cymeradwyo’r NMC a gynhaliwyd yn ystod 2019/20. Cyhoeddwyd hyfedredd bydwreigiaeth yn Hydref 2019 a chymeradwywyd y rhaglenni ledled Cymru yn 2021.


Gweithredu Safonau newydd yr NMC ar gyfer Addysg Bydwreigiaeth - Digwyddiadau Rhanddeiliaid


Rheolwr Rhaglen Addysg Cymru AaGIC yn sôn am safonau newydd yr NMC ar gyfer addysg:

Gwyliwch drafodaeth ar drefniadau goruchwylio ac asesu myfyrwyr a throsolwg o ddogfen nyrsio y dyfodol ar Asesu Ymarfer Cymru Gyfan:

Cewch fynediad at ddogfennau Cymru gyfan yma: (*Mae'r dogfennau canlynol wedi'u cyd-gynhyrchu gan amrywiaeth o randdeiliaid allweddol a byddant yn cael eu defnyddio yng Nghymru yn amodol ar gymeradwyo rhaglenni gan yr NMC)

Dolenni defnyddiol
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: