Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau cyffredin - Rhaglen Staff Nyrsio

Four question marks

Oes gennych gwestiwn am y rhaglen staff nyrsio? Gwelwch ein cwestiynau cyffredin.

Rhaid i bob Bwrdd/Ymddiriedolaeth Iechyd yng Nghymru gyfrifo nifer y nyrsys – a’r staff sy’n cyflawni dyletswyddau nyrsio dan oruchwyliaeth neu gyfarwyddyd nyrs gofrestredig – sydd ei hangen er mwyn cynnig gofal sy’n canolbwyntio ar y claf ac i fodloni anghenion holistaidd cleifion, ym mhob ward meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion.

Defnyddir methodoleg driongli ar gyfer cyfrifo, gan ddefnyddio tair ffynhonnell wybodaeth i bennu’r lefel staff nyrsio gofynnol. Yn y sefyllfa hon, bydd y wybodaeth a drionglir yn ansoddol ac yn ddangosol. Dylai’r ymagwedd driongli gynnwys:

  • barn broffesiynol
  • aciwtedd y claf – defnyddio’r adnodd cynllunio’r gweithlu ar sail tystiolaeth (Lefelau Gofal Cymru) i bennu’r lefel staff nyrsio fydd yn bodloni’r gofynion gofal rhesymol
  • dangosyddion ansawdd – dylid ystyried i ba raddau y mae lles claf yn cael ei effeithio gan ddarpariaeth gofal gan nyrs (h.y. camgymeriadau o ran gweinyddu meddyginiaeth, y claf yn cwympo, wlserau pwysau, cwynion am ofal nyrsio). Yn ogystal â’r dangosyddion hyn, gall y person dynodedig ystyried unrhyw ddangosydd arall sy’n berthnasol i’r lefel staff nyrsio y mae’n credu sy’n briodol i’r ward y mae’r cyfrifiad yn berthnasol iddi.

                                                        

Bydd angen i’r person dynodedig ystyried tystiolaeth, gan ddefnyddio ymagwedd driongli, i bennu’r lefel staff nyrsio.

Daeth y Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 yn gyfraith yng Nghymru ym mis Mawrth 2016. Yn ôl y Ddeddf, mae angen i gyrff gwasanaethau iechyd ddarparu lefel staff nyrsio priodol lle bynnag y caiff gwasanaethau nyrsio eu darparu, ac i sicrhau bod ganddynt amser i ofalu am gleifion mewn modd sensitif. Mae’r gofyniad hwn yn berthnasol i unrhyw le y mae GIG Cymru yn darparu nyrsys, neu’n comisiynu trydydd parti i ddarparu nyrsys.

Mae’r Ddeddf yn cynnwys pum adran:

  • mae 25A yn cyfeirio at gyfrifoldeb hollgyffredinol Byrddau neu Ymddiriedolaethau Iechyd i ystyried darparu digon o nyrsys ym mhob  lleoliad
  • mae 25B yn gofyn i Fyrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd gyfrifo a chymryd pob cam rhesymol i gynnal y lefel staff nyrsio ym mhob ward meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion. Mae angen i Fyrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd hefyd roi gwybod i gleifion am y lefel staff nyrsio ar y wardiau hynny
  • mae 25C yn gofyn i Fyrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd ddefnyddio dull penodol i gyfrifo’r lefel staff nyrsio ym mhob ward meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion
  • mae 25D yn berthnasol i’r canllawiau statudol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru
  • mae 25E yn gofyn i Fyrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd adrodd eu cydymffurfiaeth o ran cynnal y lefel staff nyrsio ym mhob ward meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion.

Mae rhan o’r ymagwedd driongli’n cynnwys ystyried y dangosyddion ansawdd sy’n benodol ymwneud â gofal a roddir gan nyrs. I leihau’r baich mesur, dylid defnyddio dangosyddion ansawdd sydd â ffynhonnell ddata sefydledig, ac mae’r Ddeddf yn argymell bod y person dynodedig yn ystyried y dangosyddion ansawdd canlynol, gan fod y rhain wedi bod yn gysylltiedig â lefelau staff isel:

  • cwympiadau cleifion – unrhyw achos o gwympo a brofir gan glaf tra y bo ar y ward
  • wlserau pwysau – cyfanswm yr wlserau pwysau a gafwyd yn yr ysbyty, sydd wedi datblygu tra bod claf ar y ward
  • camgymeriadau meddyginiaeth - unrhyw gamgymeriadau o ran paratoi, gweinyddu neu esgeuluso meddyginiaeth gan staff nyrsio (mae hyn yn cynnwys digwyddiadau oedd bron â digwydd yn sgil meddyginiaeth)
  • cwynion – yn rhannol neu’n llwyr ynghylch gofal a ddarperir i gleifion gan nyrsys, yn unol â’r rheoliadau cwynion.

Yn ogystal â’r dangosyddion ansawdd a restrir uchod, mae’n bosibl y bydd dangosyddion ansawdd eraill sy’n berthnasol i lefel staff nyrsio yn cael eu hystyried yn briodol. Mae’r canllawiau statudol yn awgrymu bod: adborth cleifion; anghenion gofal sydd heb eu bodloni; methu ag ymateb i gyflwr claf yn gwaethygu; lles staff; gallu staff i gymryd gwyliau blynyddol; cydymffurfiaeth staff â hyfforddiant mandadol; a chydymffurfiaeth staff  ag adolygiadau datblygu perfformiad oll o bosibl yn berthnasol.

Dylai’r holl wybodaeth a gesglir gael ei hadolygu’n annibynnol, ac yna’i dehongli er mwyn dod i benderfyniad gwybodus am lefel staff nyrsio pob ward.

Yn gyntaf, sicrhewch fod y wybodaeth a nodir yn ystod triongli yn gwneud synnwyr.

  • Oes unrhyw gamgymeriadau amlwg, neu unrhyw beth sydd wedi’i adael allan?
  • A yw’n cyfleu darlun cywir o’r ward y mae’n berthnasol iddi?

Beth mae’r wybodaeth yn ei ddweud?

  • Edrychwch ar y wybodaeth ansoddol a dangosol a gofynnwch gwestiynau allweddol. Er enghraifft, beth mae’r data’n dweud wrthym am lwyth gwaith y ward a’r cymysgedd o sgiliau staff sydd ei angen?

Beth yw arwyddocâd y canlyniadau?

  • Ar ôl penderfynu os yw’r wybodaeth yn ddibynadwy ac edrych ar beth mae’n ei ddweud, bydd angen i ni benderfynu faint o arwyddocâd i’w roi i’r wybodaeth honno wrth benderfynu. Hynny yw, pa mor bwysig yw’r wybodaeth er mwyn helpu i bennu niferoedd staff? Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd ward gyda llawer o fynychwyr pob diwrnod yn fwy pwysig na nifer fechan o wlserau pwysau sydd wedi digwydd yn yr ysbyty.

Dylid pennu’r lefel staff nyrsio gan ddefnyddio tair ffynhonnell wybodaeth: barn broffesiynol; aciwtedd cleifion; a dangosyddion ansawdd.

Dylai’r nyrsys cofrestredig yn y ward fod ynghlwm wrth y cyfrifiad, yn ogystal â staff strwythur rheoli nyrsys y ward.

Rhaid rhoi gwybod i’r person dynodedig am y rhesymeg y tu ôl i’r cyfrifiad, cadarnhau’r cyfrifiad yn seiliedig ar y flaenoriaeth a roddwyd i’r wybodaeth, a chyflwyno argymhelliad i’r Bwrdd ynghylch y lefel staff nyrsio ar gyfer pob ward meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion.

O Ebrill 2018, mae adran 25B o’r Ddeddf yn berthnasol i wardiau cleifion mewnol meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion. Mae gan Lywodraeth Cymru'r pŵer i greu rheoliadau i ymestyn y ddyletswydd i gyfrifo lefelau staff nyrsio ymysg meysydd eraill yn y dyfodol.

Mae’r canllawiau statudol yn darparu diffiniadau eang o ward cleifion mewnol meddygol acíwt i oedolion a wardiau llawfeddygol acíwt i oedolion. Maent fel a ganlyn:

  • mae ward cleifion mewnol meddygol acíwt  i oedolion yn golygu ardal ble mae cleifion 18 oed neu hŷn yn derbyn triniaeth weithredol am anaf neu salwch acíwt sydd angen ymyrraeth a gynlluniwyd neu ar frys, gan feddyg ymgynghorol neu dan oruchwyliaeth meddyg ymgynghorol
  • mae ward cleifion mewnol llawfeddygol acíwt oedolion yn golygu ardal ble mae cleifion 18 oed neu hŷn yn derbyn triniaeth weithredol am anaf neu salwch acíwt sydd angen llawdriniaeth a gynlluniwyd neu ar frys, gan lawfeddyg ymgynghorol neu dan oruchwyliaeth llawfeddyg ymgynghorol.

Mae rhestr o’r wardiau nad ydynt wedi’u cynnwys ar gael yn y canllawiau statudol.

Mae angen i Fyrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd ddefnyddio’r canllawiau statudol a’u barn broffesiynol i bennu pa wardiau sy’n berthnasol i ddiffiniad wardiau adran 25B. Dylid cofnodi canlyniad a rhesymeg y broses benderfynu hon, a dylid cyflwyno’r penderfyniadau ynghylch pa wardiau fydd yn cael eu cynnwys i’r Bwrdd.

Mewn achos o ansicrwydd, bydd canolbwyntio ar ‘prif bwrpas’ y ward yn ffordd ddefnyddiol o bennu a yw ward yn bodloni’r meini prawf ar gyfer cael ei chynnwys ai peidio.

Bydd y person dynodedig yn cyfrifo’r lefel staff nyrsio pob chwe mis o leiaf, ac yn fwy aml os yw defnydd y ward yn newid mewn ffordd fydd yn effeithio’r lefel staff nyrsio, neu os yw’r person dynodedig yn ei ystyried yn angenrheidiol.

Rhaid cofnodi’r dystiolaeth a’r rhesymeg a ddefnyddir i bennu’r lefel staff nyrsio. Bydd lefel pob ward yn cael ei chyflwyno i’r Bwrdd yn flynyddol, yn ogystal ag adroddiad blynyddol yn amlinellu sefyllfa’r Bwrdd a’r camau gweithredu a gynlluniwyd mewn perthynas â’r Ddeddf.

Darperir adroddiadau ysgrifenedig os oes newid i’r defnydd/gwasanaeth sydd wedi arwain at newid yn lefel staff nyrsio’r ward.

Mae Rhaglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan yn gweithio dan gyfarwyddyd Cyfarwyddwyr Gweithredol Nyrsio a’r Prif Swyddog Nyrsio, fydd yn rhoi gwybod pryd fydd ffrydiau gwaith newydd yn cael eu hychwanegu at y rhaglen.

Mae GIG Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu adnoddau cynllunio’r gweithlu ar sail tystiolaeth ar gyfer meysydd arbenigedd eraill, ac mae gwaith ar y gweill i adnabod ffrydiau gwaith eraill i ymuno â’r rhaglen.

Cwestiwn llawn: Sut gall timau gweithregol, yn benodol staff newydd, dderbyn hyfforddiant a chymorth i'w galluogi i gymryd rhan mewn archwiliadau pob dwy flynedd, pan fyddent yn cael eu cynnal o fewn wardiau cleifion mewnol meddygol a llawfeddygol i oedolion?

Mae’r rhaglen wedi creu ystod o ddeunyddiau gwybodaeth ac addysg i addysgu a chefnogi staff i gymryd rhan yn yr archwiliad, gan gynnwys ‘canllaw sut i wneud’, canllawiau gweithredol a sesiynau hyfforddiant.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag arweinydd gweithredol eich sefydliad, neu’r Tîm Rhaglen Staff Nyrsio.

Dylai pob Bwrdd/Ymddiriedolaeth Iechyd roi systemau ar waith sy’n eu galluogi i adolygu a chofnodi pob tro y bydd nifer y staff nyrsio yn wahanol i’r hyn sydd ar y rota a gynlluniwyd. Dylai’r systemau hyn gynnwys y camau rhesymol a roddwyd ar waith i gynnal y lefel staff nyrsio a dull ar gyfer cofnodi’r defnydd o staff dros dro, gan gynnwys staff banc ac asiantaeth; a’r achlysuron pan fydd staff nyrsio’n cael eu symud o ardaloedd/dyletswyddau clinigol eraill yn y sefydliad er mwyn cefnogi’r lefel staff nyrsio ar ward arall.

Weithiau, gellid newid y rota a gynlluniwyd mewn modd priodol er mwyn ymateb i asesiad o aciwtedd cleifion ledled y system a barn broffesiynol prif nyrs y ward. Yn rhan o’r cofnod, bydd angen rhesymeg er mwyn pennu a yw’r newid hwn wedi cael effaith, naill ai’n bositif neu’n negyddol ar brofiad y claf er enghraifft, neu ddefnydd priodol o adnoddau.

Dylid defnyddio’r cofnod yn rhan o’r dystiolaeth i gefnogi’r ail-gyfrifiad arferol o’r lefel staff nyrsio pob chwe mis, a bydd hefyd yn darparu tystiolaeth er mwyn cefnogi’r angen i ail-gyfrifo’r lefel staff nyrsio ar adegau eraill os oes angen. Yn ogystal, bydd canfyddiadau’r cofnodion hyn yn llywio adroddiadau i’r Bwrdd a Llywodraeth Cymru.

Dylai Byrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd sicrhau bod pob cam rhesymol yn cael ei gymryd i gynnal y lefel staff nyrsio ar gyfer pob ward cleifion mewnol meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion ar sail shifft i shifft a hirdymor.

Dyma’r camau rhesymol ddylid eu cymryd ar lefelau cenedlaethol, corfforaethol strategol (Bwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth GIG) a gweithredol i gynnal y lefelau staff nyrsio:

Camau cenedlaethol:

  • rhannu a meincnodi data corfforaethol.

Camau corfforaethol strategol:

  • cynllunio’r gweithlu ar gyfer cyflenwad parhaus o staff angenrheidiol a asesir gan ddefnyddio System Gynllunio Cymru
  • recriwtio gweithredol mewn modd amserol ar lefel leol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol
  • strategaethau cadw sy’n cynnwys ystyried canlyniadau Arolwg Staff GIG Cymru
  • strategaethau lles yn y gwaith sy’n cefnogi nyrsys i gyflawni eu rolau
  • sicrhau bod gofynion strategol y Ddeddf yn cael eu hymgorffori yng Nghynllun Tymor Canolig Integredig (IMTP) y sefydliad/y broses gynllunio flynyddol
  • polisïau a gweithdrefnau’r gweithlu sy’n cefnogi rheolaeth staff effeithiol
  • fframwaith rheoli risgiau sefydliadol cadarn.

Camau gweithredol:

  • defnyddio staff dros dro o asiantaeth nyrsio sy’n briodol i’r cymysgedd sgiliau a nodir yn y rota a gynlluniwyd
  • ar sail dros dro, defnyddio staff o ardaloedd eraill o fewn y sefydliad
  • cau gwelyau dros dro
  • ystyried newidiadau i’r llwybr cleifion.

Weithiau, cydnabyddir newid y rota a gynlluniwyd mewn modd priodol yn bosib er mwyn ymateb i asesiad aciwtedd cleifion ledled y Bwrdd/Ymddiriedolaeth Iechyd. Mewn amgylchiadau o’r fath, dylai prif nyrs y ward a’r uwch nyrs asesu’r sefyllfa, a dylai pob Bwrdd/Ymddiriedolaeth Iechyd ddatblygu system er mwyn sicrhau bod y person dynodedig yn cael gwerthusiadau ffurfiol. Bydd hyn yn galluogi’r person dynodedig i ystyried a oes angen ail-gyfrifo’r lefel staff nyrsio. Yn y sefyllfa hon, dylid cadw cofnod ac adolygu’r amgylchiadau.

Dan adran 25A o’r Ddeddf, mae dyletswydd ar Fyrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd i ddarparu digon o nyrsys i ofalu am gleifion mewn modd sensitif, ble bynnag y bydd gwasanaethau nyrsio’n cael eu darparu neu gomisiynu. Felly, dylai’r cyfrifoldeb hollgyffredinol hwn lywio’r broses benderfynu ar ddyrannu staff nyrsio ledled holl wasanaethau nyrsio’r sefydliad.

Mae Adran 25A o’r Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) yn nodi:

  • mae’r Ddeddf yn berthnasol i wasanaethau a reolir yn fewnol a gwasanaethau a gomisiynir yn allanol lle bydd nyrsys yn cael eu lleoli
  • mae gan Fyrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd “gyfrifoldeb hollgyffredinol” i ystyried darparu digon o nyrsys ym mhob lleoliad
  • angen arddangos y broses a ddefnyddir i gyfrifo’r rota a gynlluniwyd, a’r sefydliad sydd ei angen ledled gwasanaethau a ddarperir a gwasanaethau wedi’u comisiynu
  • angen arddangos y prosesau a ddefnyddir i fonitro’r lefelau staff nyrsio mewn gwasanaethau a ddarperir a gwasanaethau wedi’u comisiynu tystiolaeth o gynlluniau’r gweithlu, strategaethau recriwtio a chadw staff, a lles staff.

Yn unol â gofynion y Ddeddf a’r canllawiau statudol, mae angen i bob Bwrdd/Ymddiriedolaeth Iechyd roi gwybod i gleifion o’r lefel staff nyrsio drwy arddangos lefelau staff nyrsio’r ward. Dylai hefyd roi gwybod i gleifion o’r dyddiad y cafodd y lefel ei gyflwyno i’r Bwrdd.

Mae gwaith cenedlaethol wedi mynd rhagddo i ddatblygu templed fyddai, os caiff ei ddefnyddio i arddangos y wybodaeth sy’n benodol i bob ward cleifion mewnol meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion, yn galluogi pob Bwrdd/Ymddiriedolaeth Iechyd i fodloni anghenion paragraffau 20-25 y canllawiau statudol. Mae disgwyl i bob Bwrdd/Ymddiriedolaeth Iechyd bennu sut bydd y wybodaeth ar y templed yn cael ei diweddaru’n lleol, a byddai’n briodol i’r broses gael ei chynnwys yn y fframwaith gweithredu. Yn ogystal, mae angen i bob Bwrdd/Ymddiriedolaeth Iechyd sicrhau bod y wybodaeth a roddir i gleifion ar gael yn Gymraeg, er mwyn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.

Mae gwaith cenedlaethol wedi’i wneud i gefnogi pob Bwrdd/Ymddiriedolaeth Iechyd i fabwysiadu ymagwedd Unwaith i Gymru, drwy greu taflen wybodaeth sy’n rhestru cwestiynau cyffredin i gynorthwyo staff i roi gwybodaeth gywir i gleifion am y Ddeddf.

Gall rhai wardiau cleifion mewnol meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion ddewis darparu gwybodaeth ychwanegol am y lefel staff nyrsio, y tu hwnt i’r gofynion gwybodaeth craidd a nodir yn y Ddeddf a’r canllawiau statudol. Gall hyn fod yn benodol briodol, er enghraifft, pan fydd yn helpu cleifion ac ymwelwyr i ddeall y natur aml-ddisgyblaethol ehangach.

Mae gan Raglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan strategaeth gyhoeddi a chyfathrebu gynhwysfawr y mae pob Bwrdd ac Ymddiriedolaeth Iechyd wedi cofrestru ar ei chyfer. Mae’r rhaglen wedi ymrwymo i sicrhau bod rhanddeiliaid yn cael eu cynnwys ac yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd y gwaith drwy ystod o ddulliau megis digwyddiadau lleol a chenedlaethol, cylchlythyron, gwefannau a chyfryngau cymdeithasol.

Mae’r Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) yn berthnasol i bob Bwrdd ac Ymddiriedolaeth Iechyd yng Nghymru. Prif ddiben y Rhaglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan yw sicrhau bod Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd yn dilyn yr ymagwedd Unwaith i Gymru i sicrhau cysondeb ac undod ymysg y sefydliadau hyn.

Pwrpas yr egwyddorion staff nyrsio dros dro yw rhoi canllawiau i Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd er mwyn eu helpu i gynllunio’r gweithlu. Mae’r egwyddorion hyn i’w defnyddio ar sail dros dro tra bod yr adnodd cynllunio’r gweithlu ar sail tystiolaeth yn cael ei greu. Prif nod yr egwyddorion yw paratoi meysydd arbenigedd ar gyfer ymestyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) maes o law, a bryd hynny bydd y Ddeddf yn disodli’r egwyddorion staff nyrsio dros dro.

Mae’r egwyddorion staff nyrsio dros dro eisoes wedi’u creu a’u cyflwyno i wasanaethau nyrsio ardal a chleifion mewnol pediatreg. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu egwyddorion staff nyrsio dros dro ar gyfer ymweliadau iechyd ac iechyd meddwl.

Mae adnoddau cynllunio’r gweithlu ar sail tystiolaeth yn helpu rheolwyr i bennu pa alw fydd ar gyfer gwasanaethau. Mae hyn yn eu galluogi i gyfrifo pa lefel o staff sydd ei hangen er mwyn darparu’r gwasanaeth hwnnw. Ym maes gofal iechyd, mae’n anodd rhagweld galw, ond mae adnoddau wedi’u datblygu i fesur lefelau aciwtedd cleifion sy’n rhoi darlun o faint o ofal sydd ei angen i fodloni eu gofynion gofal rhesymol. Bydd y wybodaeth hon yn ffurfio rhan o’r dystiolaeth a ddefnyddir i gyfrifo’r lefel staff nyrsio.

Dan y cyfrifoldebau a amlinellir yn y Ddeddf, mae pob Bwrdd/Ymddiriedolaeth Iechyd wedi cael gwybod gan swyddfa’r Prif Swyddog Nyrsio mai Lefelau Gofal Cymru yw’r adnodd cynllunio’r gweithlu a ddylid ei ddefnyddio. Ers 2014, mae gwaith wedi mynd rhagddo i ddatblygu a phrofi Lefelau Gofal Cymru i’w alluogi i gael ei ddefnyddio o fewn wardiau cleifion mewnol meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion er mwyn asesu aciwtedd cleifion.

Bydd data aciwtedd yn cael ei gasglu ddwywaith y flwyddyn ym mhob ward cleifion mewnol meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion yn GIG Cymru ym mis Ionawr a Mehefin, yn ôl Cyfarwyddwyr Gweithredol Nyrsio’r GIG. Rhagwelir y bydd y mesur aciwtedd hwn yn adnabod tueddiadau tymhorol mewn ymateb i ddemograffeg ac anghenion gofal iechyd newidiol. Bydd y wybodaeth hon, yn rhan o ymagwedd driongli, ochr yn ochr â defnyddio dangosyddion ansawdd a barn broffesiynol, yn pennu lefel staff nyrsio’r ward.

Bydd gofyn i’r person dynodedig ddefnyddio barn broffesiynol wrth gyfrifo’r lefel staff nyrsio ar gyfer unrhyw ward benodol.

Mae’r canllawiau statudol yn disgrifio rhai o’r ystyriaethau allweddol all gael eu cadw mewn cof wrth arfer barn broffesiynol, fel y’i rhestrir isod. Yn ogystal, bydd gofyn i’r person dynodedig ystyried canllawiau staff nyrsio arbenigol perthnasol, egwyddorion, ymchwil a safonau arfer gorau cyfredol i lywio ei benderfyniad. Dylid ystyried o leiaf yr 11 ffactor canlynol, ond byddai angen ystyried ffactorau eraill ynghylch barn broffesiynol yn ôl y maes arbenigedd.

  1. Cymwysterau, cymwyseddau, sgiliau a phrofiad y nyrsys sy’n darparu gofal i gleifion.

Mae hon yn elfen hanfodol sy’n dylanwadu niferoedd staffio. Gall sgiliau, gwybodaeth a chymwyseddau o’r fath gael eu llywio gan safonau arfer gorau fel sy’n cael ei egluro uchod, a’r nod yw bod nyrsys o fewn y sefydliad yn meddu ar y sgiliau gofynnol i ofalu am gleifion yn sensitif, a bodloni anghenion gofal clinigol eu cleifion. Dylai cynllunio’r gweithlu a sefydliadau gofynnol ystyried yr angen i ddarparu gweithlu gyda lefel briodol o sgiliau a gwybodaeth broffesiynol ac ymarferol clinigol. Mae’r canllawiau hefyd yn cydnabod yr angen i sicrhau bod y sefydliadau gofynnol yn galluogi’r gweithlu i gyflawni’r lefelau mandadol o ofynion hyfforddiant sefydliadol. Mae hyn yn golygu cynllunio’r gweithlu mewn ffordd strwythuredig a manwl a chyfrifo’r adnoddau angenrheidiol i gyflawni’r lefelau cymwyseddau gofynnol, yn ogystal ag ystyried cydymffurfio â hyfforddiant gorfodol a statudol.

  1. Effaith staff dros dro ar y lefel staff nyrsio.

Gall pa mor gyfarwydd yw aelodau staff â systemau a phrosesau ward/sefydliad effeithio ar ba mor effeithlon ydyn nhw wrth eu gwaith ac wrth roi gofal parhaus i gleifion. Felly bydd angen ystyried lefelau gwagle a phatrymau hanesyddol diweddar o ran defnyddio staff dros dro wrth gyfrifo’r lefel staff nyrsio. Gan fod hon o bosibl yn sefyllfa newidiol, gall fod angen ystyried hyn o ran ysgogi adolygiad sefydliadol y tu hwnt i’r cylch ddwywaith y flwyddyn arferol.

  1. Effaith ystyriaethau nyrs am anghenion diwylliannol claf.

Gall ymateb i arferion diwylliannol a chrefyddol penodol (e.e. wrth ddarparu gofal diwedd bywyd) gymryd llawer o amser. Os oes niferoedd sylweddol o gleifion gyda lefelau uwch o anghenion nyrsio holistaidd yn derbyn gofal ar ward benodol, yna bydd angen i’r person dynodedig allu dangos sut maent wedi ystyried yr anghenion penodol hyn wrth gyfrifo’r lefel staff nyrsio, fel bod modd i’r tîm roi gofal sensitif i bob claf.

  1. Amodau deinamig tîm aml-broffesiynol.

Mae’n bosibl y bydd anghenion gofal cymhleth, sy’n golygu dull tîm amlddisgyblaethol, yn gofyn i’r tîm nyrsio fod ynghlwm wrth swm sylweddol o waith cydlynu gofal anuniongyrchol. Mae’r gwaith hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod targedau a rennir; a darpariaeth gofal effeithiol a sensitif gan bob aelod tîm amlddisgyblaethol, wedi’u darparu mewn modd amserol. Gall y gwaith cydlynu gofal anuniongyrchol hwn fod yn heriol i’w feintoli, ond yn aml mae’n gofyn am benderfyniadau sgilgar ac arbenigol, a gall gymryd amser. Yn hyn o beth, bydd angen i’r person dynodedig ystyried hyn yn ofalus.

  1. Effaith bosibl cyflwr a gosodiad ward ar ofal nyrsio.

Bydd gosodiad a nodweddion ffisegol eraill ardal glinigol yn effeithio ar effeithlonrwydd defnydd yr oriau nyrsio sydd ar gael ar unrhyw adeg. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd cleifion yn cael gofal mewn ystafelloedd sengl neu ardaloedd â llawer o welyau yn dylanwadu ar nifer y cleifion y mae modd eu goruchwylio a’u cadw’n ddiogel gan un aelod staff. Gall lleoliad yr ystafelloedd triniaeth, meddyginiaeth, storio ac ymolchi o fewn yr ardal glinigol ddylanwadu ar yr amser cynhyrchiol os oes rhaid i aelodau staff gerdded pellteroedd hir i gael cyflenwadau hanfodol neu i baratoi meddyginiaethau.

  1. Trosiant y cleifion sy’n derbyn gofal a’r feddiannaeth gwelyau cyffredinol.

Mae’r rhan fwyaf o wardiau cleifion mewnol meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion yn darparu gofal cleifion mewnol i grŵp o gleifion sy’n newid yn rheolaidd. Gall lefel yr amrywiaeth o ran natur a math y gweithgarwch sy’n ychwanegol i ddarpariaeth gofal sensitif i gleifion yn y gwelyau fod yn helaeth iawn, ac yn aml mae’n dibynnu ar natur yr arbenigedd. Bydd gan rai wardiau niferoedd uchel o gleifion sy’n dychwelyd i’r ward ar gyfer gwiriadau ar ôl cael eu rhyddhau, gan felly osgoi arhosiad hir yn yr ysbyty ond wrth gynnal cyswllt clinigol/drws agored i glaf am gyfnod byr ar ôl cael ei ryddhau. Bydd rhai’n cynnal gweithdrefnau ar y ward fel ymagwedd fwy effeithlon i ofal na threfnu derbyniad a gynllunnir. Mewn wardiau eraill, bydd nifer y cleifion sy’n cael eu rhyddhau a’u derbyn mewn diwrnod - sy’n cynrychioli cyfnod o reoli gofal dwys a chyfathrebu gyda’r claf ac yn aml, rhwng gweithwyr proffesiynol gofal iechyd - yn benodol uchel.

Er eu bod yn cael eu hadlewyrchu i ryw raddau drwy ganfyddiadau archwiliad aciwtedd Lefelau Gofal Cymru, mae’n bosibl na fydd amrywiadau o’r fath mewn natur a math y gweithgaredd yn cael eu cyfleu’n llwyr, ac felly efallai y bydd angen iddynt gael eu hadlewyrchu ym marn broffesiynol y person dynodedig.

  1. Gofal a roddir i gleifion gan staff neu weithwyr proffesiynol eraill, megis gweithwyr cymorth gofal iechyd. 

Bydd natur anghenion gofal y cleifion ym mhob ardal glinigol yn dylanwadu ar niferoedd a chymysgedd sgiliau – gan gynnwys gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd – y lefel staff nyrsio. Yn ogystal, gall rôl a chyfrifoldebau staff o dimau eraill yng ngweithlu’r ysbyty (e.e. cyfleusterau llety, porthorion, cofnodion meddygol) effeithio ar y dyletswyddau y bydd gofyn i’r tîm nyrsio ward eu cynnal er mwyn sicrhau darpariaeth gofal sensitif. Gall hyn hefyd effeithio ar y lefel staff nyrsio y bydd y person dynodedig yn ei chyfrifo.

  1. Unrhyw ofynion a osodir gan reoleiddiwr i gefnogi myfyrwyr a dysgwyr.

Mae sicrhau amgylchedd dysgu cadarn ar gyfer myfyrwyr proffesiynol gofal iechyd a gomisiynir yn gyfrifoldeb â blaenoriaeth y GIG yng Nghymru. Drwy’r llwybr hon y bydd y gofal a ddarperir yn y dyfodol yn cael ei roi gan nyrsys cymwys, sgilgar ac addysgedig fydd ar gael mewn niferoedd digonol i fodloni gofynion gweithlu GIG Cymru. Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd creu amgylchedd dysgu ble bydd modd dyrannu amser i addysgu, goruchwylio a mentora myfyrwyr. Dylai nifer y lleoliadau myfyrwyr a ddyrennir ym mhob ardal glinigol fod yn ystyriaeth bwysig wrth gyfrifo’r lefelau staff nyrsio, er mwyn sicrhau bod modd cefnogi pob myfyriwr yn ddigonol yn ymarferol.

  1. Y graddau y bydd angen i nyrsys sy’n rhoi gofal gyflawni swyddogaethau gweinyddol

Yn yr un modd ag Adran 7 uchod, bydd sgôp y dyletswyddau o fewn y tîm nyrsio yn dylanwadu ar nifer a chymysgedd sgiliau’r sefydliad gofynnol. Rhywbeth sy’n bwysig i’w nodi yw y bydd y person dynodedig yn ystyried cymysgedd sgiliau ac egwyddorion gofal iechyd amlwg wrth gyfrifo’r rolau sydd eu hangen ar dîm o fewn eu sefydliad gofynnol.

  1. Cymhlethdod anghenion cleifion yn ogystal â’u hanghenion nyrsio meddygol neu lawfeddygol, megis cleifion ag anableddau dysgu.

Rhaid i’r person dynodedig ystyried anghenion holistaidd unigol cleifion yn ogystal â’r anghenion sy’n cael eu hawgrymu gan eu cyflwr meddygol neu lawfeddygol. Mae hyn yn golygu bod angen ystyried anghenion gofal ychwanegol cleifion, er enghraifft, anawsterau symudedd, namau gwybyddol neu anableddau dysgu, wrth gyfrifo’r lefel staff nyrsio.

  1. Darparu’r cynnig gweithredol o roi gwasanaeth yn y Gymraeg, heb i unigolyn orfod gofyn amdano.

Wrth gyfrifo’r lefel staff nyrsio, bydd gofyn i’r person dynodedig arddangos bod ystyriaeth benodol wedi’i rhoi i ddarpariaeth gofal yn y Gymraeg, yn rhan o ofynion fframwaith strategol Mwy na Geiriau Llywodraeth Cymru. Yn benodol, gall hyn effeithio ar leoliad y sefydliad staff i sicrhau bod sgiliau yn y Gymraeg ar gael ymysg y staff ar ddyletswydd ar unrhyw adeg, fydd yn adlewyrchu anghenion tebygol y cleifion o fewn ardal glinigol benodol.

Mae rhan o’r ymagwedd driongli’n cynnwys ystyried y data sydd ar gael sy’n ymwneud â’r agweddau uchod ar farn broffesiynol. Er enghraifft, cydymffurfio â hyfforddiant mandadol, cyfraddau swyddi gwag a salwch, defnyddio staff dros dro, meddiannaeth gwelyau a/neu adborth gan fyfyrwyr.

Bydd prif nyrs y ward yn gyfrifol am sicrhau bod anghenion gofal cymdeithasol, seicolegol, ysbrydol a chorfforol yn cael eu hasesu a’u dosbarthu gan ddefnyddio disgrifiadau Lefelau Gofal Cymru.

Mae Lefelau Gofal Cymru yn cynnwys pum lefel aciwtedd o lefel 1 ble mae cyflwr y claf yn sefydlog ac yn rhagfynegadwy sy’n gofyn am ofal nyrsio arferol, i lefel 5 ble mae’r claf yn ansefydlog iawn ac mewn perygl, sy’n gofyn am lefel ddwys o ofal nyrsio parhaus ar sail 1:1.

Caiff Lefelau Gofal Cymru eu crynhoi fel a ganlyn:

Lefel 5 Gofal un i un – mae’r claf angen o leiaf goruchwyliaeth nyrsio parhaus un i un am 24 awr y dydd.
Lefel 4 Gofal brys – mae’r claf mewn cyflwr ansefydlog ac annarogan dros ben, un ai oherwydd ei brif broblem neu waethygiad o ffactorau perthnasol eraill.
Lefel 3 Gofal cymhleth - mae’n bosibl bod gan y claf nifer o broblemau amlwg, rhai sy’n rhyngweithio, gan ei gwneud hi’n anos i ddarogan canlyniad unrhyw driniaeth unigol.
Lefel 2 Llwybrau gofal – mae gan y claf broblem ddiffiniedig amlwg, ond mae’n bosibl y bydd nifer fechan o ffactorau ychwanegol sy’n effeithio’r ffordd y darperir y driniaeth.
Lefel 1 Gofal arferol – mae gan y claf broblem amlwg, gydag ychydig o ffactorau eraill sy’n cymhlethu pethau.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar sut i fesur aciwtedd a dibyniaeth cleifion gan ddefnyddio Lefelau Gofal Cymru yn nogfen Lefelau Gofal Cymru (rhifyn 1).

 

Dylai pob Bwrdd/Ymddiriedolaeth Iechyd ddatblygu systemau ar gyfer cofnodi’r dystiolaeth a ddefnyddir a’r rhesymeg a ddefnyddiwyd wrth gyfrifo’r lefel staff nyrsio ar gyfer pob ward cleifion mewnol meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion.

Mae rhestr wirio genedlaethol o’r ffactorau, y mae’n rhaid eu hystyried, yn darparu templed ar gyfer cofnodi cyfrifiadau a’r broses benderfynu a roddwyd ar waith wrth gyfrifo.

Mae gofyn i Fyrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd gofnodi canlyniad y cyfrifiad a nodi tystiolaeth o’r broses benderfynu.

Mae’r rhestr ganlynol o ffactorau wedi cael ei chytuno gan Grŵp Staff Nyrsio Cymru Gyfan fel rhesymau i ysgogi Byrddau/Ymddiriedolaethau Iechyd i ystyried a ddylid ail-gyfrifo lefelau staff nyrsio y tu allan i’r broses gyfrifo ddwywaith y flwyddyn arferol. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr, a gellid ystyried ffactorau eraill:

  • prif nyrs y ward yn adrodd am eithriadau
  • anallu parhaus i gynnal y rota a gynlluniwyd
  • newid pwrpas a/neu broffil y ward (e.e. cynnydd yn nifer y gwelyau, newid amgylchedd, newid o orthopedig i lawfeddygaeth gyffredinol)
  • newid proffil cleifion (e.e. lefelau aciwtedd, arbenigedd clinigol)
  • newid sylweddol yn sgiliau a/neu brofiad y staff nyrsio
  • pryderon yn deillio o adolygu dangosyddion ansawdd, cwynion a/neu ddigwyddiadau diogelu
  • defnydd uchel a/neu gyson o staff/gweithwyr dros dro/asiantaeth
  • defnydd cyson o brif nyrs y ward ar y rota a gynlluniwyd
  • digwyddiad/ymchwiliad difrifol
  • pryderon staff nyrsio a godwyd gan yr ombwdsmon/crwner/Arolygiaeth Iechyd Cymru
  • profiad/adborth negyddol cyson gan gleifion.