Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016?

Daeth y Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i rym ym mis Mawrth 2016, ac mae’n gofyn i gyrff gwasanaethau iechyd ystyried darpariaeth lefelau staff nyrsio priodol. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gan nyrsys ddigon o amser i ddarparu’r gofal gorau posibl i gleifion.

Mae Cymru’n falch o fod y wlad gyntaf yn Ewrop i ddeddfu ar lefelau staff nyrsio. Bydd y Ddeddf yn grymuso nyrsys a rheolwyr wardiau gyda’r dystiolaeth i gefnogi a llywio eu barn broffesiynol wrth bennu lefelau staff nyrsio ar eu wardiau.

O 6 Ebrill 2018, yn unol â’r Ddeddf, mae gan sefydliadau GIG Cymru ddyletswydd i ddefnyddio’r ymagwedd driongli i gyfrifo lefelau staff nyrsio mewn meysydd meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion, yn ogystal â chymryd camau rhesymol i gynnal y lefelau staff nyrsio ac adrodd am gydymffurfiaeth o ran cynnal y lefelau staff nyrsio fel ffordd o roi sicrwydd i’r cyhoedd, y Bwrdd a Llywodraeth Cymru.

Trawsgrifiad o'r fideo.

Yn ogystal â’r Ddeddf ac ar ôl cyfnod o ymgynghori, rhyddhaodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ganllawiau statudol ym mis Tachwedd 2017 i gefnogi GIG Cymru i fodloni’r gofyniad i gyfrifo a chynnal lefelau staff nyrsio o fewn meysydd cleifion mewnol meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion.

Mae GIG Cymru hefyd wedi creu canllaw gweithredol i gefnogi timau, sydd wedi cael ei weithredu o fewn byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd ledled Cymru.

Ymestyn y Ddeddf

Yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2020, bydd ail ddyletswydd Deddf Lefelau Staf Nyrsio (Cymru) 2016 yn cael ei hymestyn i gleifion mewnol pediatreg ar 1 Hydref 2021.

Mae Byrddau Iechyd wedi gwneud gwaith helaeth i baratoi ar gyfer gweithredu ail ddyletswydd y Ddeddf i feysydd cleifion mewnol pediatreg. O dan ddyletswydd y Ddeddf bydd yn ofynnol iddynt gyfrifo i gynnal ac adrodd ar eu lefelau staffio yn unol â gofynion y Ddeddf yn dilyn y dyddiad hwn.