Helo, a chroeso i gynhadledd rithwir gyntaf Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Gofal Cymdeithasol Cymru.
(Sanjeev Malhapatra - Rheolwr Iechyd Meddwl)
Rydym yn gyffrous iawn i allu cynnig cyfle i chi rannu yn y gwaith sydd wedi bod yn mynd yn ei flaen o fewn y sector iechyd meddwl yng Nghymru, ac i roi adborth drwy ein cyfleusterau rhyngweithiol i helpu i lywio'r gwaith o gynllunio ein gweithlu iechyd meddwl yn y dyfodol.
Mae gwasanaethau Iechyd Meddwl yng Nghymru/ wedi cael buddsoddiad sylweddol a pharhaus dros y blynyddoedd diwethaf/ i gynyddu'r ystod o wasanaethau sydd ar gael, ac i ateb y cynnydd yn y galw am gymorth iechyd meddwl. Er bod gwelliannau wedi'u gwneud, cydnabyddir bod y gweithlu iechyd meddwl presennol yn fregus a bod Cynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2019-22 yn cynnwys camau i AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru i ddatblygu cynllun gweithlu ar gyfer iechyd meddwl. Mae trafodaethau cynnar rhwng Llywodraeth Cymru, AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru wedi nodi'r angen i fynd at y gwaith hwn mewn dau gam:
Mae AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru yn gweithio ar y cyd i alluogi gwireddu'r dulliau cychwynnol o ymdrin â Chynllun y Gweithlu Iechyd Meddwl. Bydd y gynhadledd rithwir hon yn cefnogi'r gwaith o adeiladu dulliau gweithredu ar gyfer, Cynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2019-2022, ac yn caniatáu i'n partneriaid lywio cyfeiriad y gweithlu yn y dyfodol, a'i ofynion i ddarparu gwasanaeth arweiniol i'r sector iechyd meddwl yng Nghymru.
Ymunwch âDydd Iau 15 12 - 12.30pm, Yr Athro Ben Hannigan (Ffocws ar Nyrsio Iechyd Meddwl)
Cyflwyniad - Vaughan Gething - Y Gweinidog Iechyd - cyfieithu cymraeg (pdf, 101 Kb)
Alex Howells - Prif Swyddog Gweithredol AaGIC - cyfieithu cymraeg (pdf, 62 Kb)
Sue Evans - Prif Swyddog Gweithredol GCC - cyfieithu cymraeg (pdf, 84 Kb)
Fideos defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr