Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae ein GIG Cymru yn mynd ati i'n cefnogi (a'n herio) ni?

Gwyddom nad yw ein polisïau bob amser wedi ein helpu i gael y gweithleoedd na’r profiadau gwaith gorau posibl.  Cafodd y mwyafrif eu cynllunio ar gyfer pan fydd pethau’n mynd o chwith, gan drin pawb a phob sefyllfa yr un fath a thybio na allem ni, fel unigolion a chydweithwyr, ddatrys pethau drosom ein hunain pe bai hynny’n digwydd.

Mae cydweithwyr iechyd o bob rhan o GIG Cymru wedi dechrau newid hyn drwy ddrafftio polisïau newydd a fydd yn cefnogi pawb drwy annog perthnasoedd gwaith iachach.

Er mwyn helpu gyda hyn, rhaid inni gydnabod bod pawb yn wahanol a bod ein sefyllfaoedd unigol yn newid yn gyson. Weithiau efallai y bydd angen mwy o gefnogaeth arnom, ac ar adegau eraill efallai y bydd angen mwy o her arnom. Mae ein helpu i gael y cydbwysedd hwn yn iawn yn dibynnu ar ymgysylltu â’r bobl rydyn ni’n gweithio agosaf gyda nhw, yn enwedig ein rheolwyr. Gwyddom fod bod yn glir ynglŷn â rhai disgwyliadau/gweithdrefnau yn ddefnyddiol, ond mae cael gormod o reolau a cheisio trin pawb yr un fath yn arwain at weithle afiach.

Rydyn ni am i’n polisïau gydnabod nad yw pethau bob amser yn berffaith, er mwyn i ni deimlo y gallwn, ac y dylem wneud rhywbeth pan na fyddan nhw’n berffaith heb deimlo bod hyn yn beirniadu pobl na’r systemau rydyn ni’n gweithio ynddynt mewn rhyw ffordd.  Wrth gwrs, bydd gennym rai prosesau ffurfiol hefyd, ond yn ddelfrydol, ddylen ni fyth orfod eu defnyddio.

Mae newidiadau sydd eisoes yn cael eu gwneud yn cynnwys cyflwyno Polisi Rheoli Presenoldeb yn y Gwaith newydd yn 2018-19 a disodli ein polisïau Cwynion ac Urddas yn y Gwaith gyda dull gweithredu newydd mewn perthynas â Pharch a Datrysiad.  Unwaith y byddwn wedi datblygu set newydd o ddisgwyliadau/addewidion cyffredin yn 2021, byddwn yn defnyddio’r rhain fel sylfaen i ddiweddaru ein holl bolisïau.

Mae ein polisïau GIG Cymru Pobl i’w gweld yma.