Neidio i'r prif gynnwy

Sesiynau codi ymwybyddiaeth

Mae Cymru Iachach:  Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gosod dull ar gyfer creu GIG sydd â gweithleoedd lle gall staff brofi ymddygiadau tosturiol, cyfunol, iach a theg.  Cydnabyddir bod llawer o gyfleoedd i ddylanwadu ar y newid hwn, gan gynnwys datblygu arweinyddiaeth, newid ein dull ynghylch profiadau gwaith cydweithwyr ac ail-ganolbwyntio ar sut y caiff ein “polisïau” pobl eu dylunio a’u defnyddio.

Gwnaeth Arolwg Staff diweddar hefyd bwysleisio’r angen i fynd i’r afael â pherthnasoedd yn y gweithle (gan gynnwys bwlio ac aflonyddu) ac roedd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn awyddus i ddwyn hyn ymlaen mewn partneriaeth.

Trwy weithio i ddisodli’r Polisi Cwynion a’r Weithdrefn Urddas yn y Gwaith, teimlid bod cyfle gwirioneddol i gyflogwyr a chydweithwyr undebau llafur gydweithio i ail-ganolbwyntio ein ffordd draddodiadol o wneud pethau a symud ymlaen i lunio dull a fyddai’n canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar ac atal problemau trwy feithrin perthnasoedd gweithio a gweithleoedd iachach. Bellach, cytunwyd mewn partneriaeth ar ddull newydd ar y cyd, a chaiff ei lansio ar 1 Mehefin 2021. Dwy agwedd allweddol i gefnogi’r gwaith o ddarparu’r dull newydd hwn yw datblygu Rhwydwaith Cyfryngu i ymdrin â materion cyn gynted â phosibl a datblygu polisi Parch a Datrys newydd (a fydd yn disodli’r Polisi Cwynion a’r Weithdrefn Urddas yn y Gwaith blaenorol).


Cynhaliwyd dwy sesiwn codi ymwybyddiaeth, wedi'u hanelu at bob rheolwr ac aelod  staff GIG Cymru er mwyn darparu:

  • trosolwg o’r dull newydd a
  • sut y bydd y Rhwydwaith Cyfryngu a’r Polisi Parch a Datrys newydd yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r dull hwn.

Arweiniwyd y sesiynau gan y cydweithwyr allweddol canlynol:

  • Claire Vaughan, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
  • Richard Tompkins, Cyfarwyddwr, Cyflogwyr GIG Cymru
  • Rhiannon Windsor, Pennaeth Pobl, Datblygu Sefydliadol a Phartneru Busnes, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
  • Sioned Eurig, Cyfreithiwr, Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg
  • Richard Munn, Swyddog Rhanbarthol, Unite the Union 
  • Peter Hewin, BAOT/Unsain
  • Andrew Davies, Rheolwr Polisi a Datblygu, Cyflogwyr GIG Cymru

Isod ceir recordiadau o bob sesiwn, ochr yn ochr â chopi o'r cyflwyniad.

5 Mai 2021 

Trawsgrifiad - Cymraeg