Neidio i'r prif gynnwy

Dewch i cwrdd â'r therapyddion cerdd

Becca Sayers
Beccasayers_musictherapy@yahoo.co.uk

Music therapist Becca Sayers

Mae Becca wedi leoli yng Nghaerdydd ac yn gweithio gydag oedolion sydd â chyflyrau sbectrwm awtistig a phlant ag awtistiaeth yn yr ysgol. Mae Becca hefyd yn rhedeg grŵp canu ar gyfer pobl â chyflyrau ar yr ysgyfaint. Y peth mae Becca yn garu fwyaf am fod yn therapydd cerdd yw gallu gwneud cysylltiad â rhywun trwy gerddoriaeth ar unwaith.  Mae llawer o gwaith Becca gyda phobl sy'n ei chael hi'n anodd cyfathrebu trwy eiriau, naill ai o anabledd neu drawma, ac mae'n gymaint o fraint gallu adeiladu perthynas â nhw trwy'r synau a'r gerddoriaeth rydyn nhw'n eu gwneud gyda'i gilydd.

Yn ystod ei naw mlynedd o fyw yng Nghaerdydd, mae Becca wedi gweithio gyda phobl anhygoel - o fabanod hyd at bobl 100 oed, mewn cartrefi gofal, ysgolion, a thrwy sefydliadau'r trydydd sector.  Cyn symud i Caerdydd roedd Becca yn byw yng Ngogledd Orllewin Lloegr ac yn gweithio gyda phlant ac oedolion, mewn ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal.  Wnaeth Becca cymhwyso yn wreiddiol fel therapydd cerdd yn Ysgol Cerdd a Drama Guildhall yn Llundain yn 2003 ac yna 'symud ymlaen' y diploma hwnnw i MA mewn therapi cerdd yn 2014 ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr.

Hefyd mae gan Becca bractis preifat lle mae’n goruchwylio therapyddion cerdd eraill. Becca yw cadeirydd Fforwm Cynghori Therapïau Celf Cymru, ac un o gydlynwyr ardal Cymru ar gyfer Cymdeithas Therapi Cerdd Prydain. Mae Becca yn mwynhau cysylltu â therapyddion celfyddydau eraill yn credu bod yn bwysig iawn ein bod yn cefnogi ein gilydd, oherwydd gall gweithio mewn proffesiynau mor fach fod yn ynysig. Mae Becca yn rhan o gwmni cydweithredol gyda therapyddion celfyddydol eraill ac mae wedi bod yn brofiad gwych iddi ddylunio prosiectau a gweithio gyda therapyddion drama a chelf.