Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad Therapïau Celfyddydau 2021

People taking part in art therapy
Croeso i Ddigwyddiad Therapïau Celfyddydau Rhithwir Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru
Gwyliwch ein cyflwyniad gan Wendy Wilkinson, Pennaeth Trawsnewid Proffesiynol Perthynol i Iechyd, Addysg a Gwella Iechyd Cymru:
 

Bydd ein digwyddiad yn rhedeg o ddydd Llun 19 Ebrill i ddydd Gwener 23 Ebrill.  Yn ystod yr amser hwn, byddwn yn arddangos astudiaethau achos, gweithdai a chyflwyniadau gan therapyddion symud drama, cerddoriaeth, seicotherapi celf a symud dawns. Bydd y cynnwys yn rhoi cipolwg i chi ar sut mae therapïau celfyddydol yn cael eu defnyddio ar gyfer iechyd meddwl a lles a'r buddion y gellir eu cyflawni.

Gwelwch y cynnwys ar gyfer pob therapi trwy glicio ar y llun berthnasol isod:

 
 
 
 
Sesiynau byw

Yn ystod pob diwrnod o’r digwyddiad o 19 – 23 Ebrill 2021, byddwn yn cynnal sesiwn fyw lle cewch gyfle i ofyn cwestiynau i banel o therapyddion celf i drafod eu gwaith a manteision defnyddio therapïau celfyddydol. O ddydd Llun i ddydd Iau bydd y cynnwys yn cael ei neilltuo ar gyfer therapi celfyddydau penodol (gweler y deithlen isod). Ar y dydd Gwener, bydd gennym banel o therapyddion sy'n cwmpasu'r holl therapïau celfyddydol ar gyfer trafodaeth gyffredinol ar y defnydd cyfunol o therapïau a sut y gall therapïau celfyddydol gefnogi'r gweithlu iechyd meddwl. Manylir ar y deithlen ar gyfer y sesiynau Holi ac Ateb byw isod:

I ymuno â'r sesiynau fyw defnyddiwch y dolenni priodol isod:

19 Ebrill 2021 (15:30 – 16:30) - Therapidrama - Ymunwch â'r cyfarfod byw  

20 Ebrill 2021 (15:30 – 16:30)  - Therapi Cerdd - Ymunwch â'r cyfarfod byw

21 Ebrill 2021 (15:30 – 16:30)  - Seicotherapi Celf - Ymunwch â'r cyfarfod byw

22 Ebrill 2021 (15:30 – 16:30)  - Therapi Symud Dawns - Ymunwch â'r cyfarfod byw

23 Ebrill 2021 (14:00 – 15:00) - Therapi Celfyddydau Cyffredinol – Ymunwch â'r cyfarfod byw

 

Adborth

Byddem yn gwerthfawrogi adborth gennych er mwyn i ni gael gwella digwyddiadau yn y dyfodol, cwblhewch ein arolwg adborth byr os gwelwch yn dda. 

Diolch i'r holl therapyddion sydd wedi cyfrannu at y digwyddiad hwn ac wedi arddangos gwaith gwych therapïau celfyddydol ar gyfer iechyd meddwl a lles ledled Cymru.