Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad strategol o addysg i israddedigion

Two nurses consulting a book

Adolygiad strategol o addysg i israddedigion proffesiynol ym maes iechyd

Diweddariad: 29/06/2021
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi casgliad llwyddiannus tendr addysg proffesiynau gofal iechyd cyn-gofrestru Cymru gyfan. Dyma'r broses gomisiynu fwyaf yr ydym yn ymgymryd â hi ac mae'n werth £ £1,153,047,634.   

Dydd Llun 28ain o Fehefin 2021, hysbyswyd Prifysgolion am y dyfarniadau contract a gwnaethom ddechrau ar “gyfnod digyfnewid am 10 diwrnod”.  Yn ystod y cyfnod hwn gall cynigwyr herio'r penderfyniad a/neu godi unrhyw ymholiadau sydd ganddynt ynglŷn â chanlyniad yr ymarfer tendro - mae hwn yn ofyniad cyfreithiol rheoliadau caffael.  Ar yr amod na dderbynnir unrhyw heriau ffurfiol, ar ddiwedd y cyfnod digyfnewid (12 Gorffennaf 2021) byddwn yn cyhoeddi'r contractau'n ffurfiol i gynigwyr llwyddiannus yn barod i gyflwyno addysg ddechrau ym mis Medi 2022.

Isod rydym wedi crynhoi themâu allweddol a manteision posib y contractau addysg newydd ar gyfer byrddau iechyd ac yn Atodiad 1 y mae yna restr lawn o ganlyniadau'r contract ar gyfer pob rhaglen.

  • Darparu dull mwy lleol/rhanbarthol o gomisiynu addysg broffesiynol gofal iechyd gan ddod â'r gwaith o ddarparu addysg yn nes at neu ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru. 
  • Rhaglenni Nyrsio Gwasgarol a Dysgu o Bell sy'n galluogi hyblygrwydd dysgu a lleoliadau yn agos at adref.
  • Ar gyfer proffesiynau perthynol i iechyd a Gwyddor Gofal Iechyd mae darpariaeth Cymru a De Ddwyrain Cymru wedi arallgyfeirio i, lle bo’n briodol, greu darpariaeth addysg ran amser a datblygu rhaglenni ychwanegol gan symud i ffwrdd oddi wrth ddarparwyr sengl ar gyfer Cymru lle caniateir y niferoedd.  
  • Bydd mwy o ffocws ar weithio'n agosach mewn partneriaeth a chydweithio rhwng GIG Cymru, Sefydliadau Addysg Uwch ac AaGIC. Drwy recriwtio niferoedd uwch o fyfyrwyr lleol sy'n deall anghenion y boblogaeth leol a'r gymuned, ac sy'n gallu manteisio i'r eithaf ar eu dysgu academaidd a'u lleoliadau yn fwy lleol, rhagwelir y bydd mwy o gyfleoedd i GIG Cymru lenwi swyddi gwag gan raddedigion Prifysgol Cymru.

 

Rhoddwyd pwyslais hefyd ar recriwtio myfyrwyr o ardaloedd difreintiedig yng Nghymru ac o gymunedau anodd eu cyrraedd, lle mae cymhelliant ariannol yn cael ei ymgorffori i alluogi mwy o gefnogaeth i'r myfyrwyr hynny o'r Mynegai Cymru Amddifadedd Lluosog yng Nghymru. 

Mae'r Gymraeg yn bwysig iawn ac mae gan y contractau newydd ofynion penodol o ran yr iaith Gymraeg ar gyfer Sefydliadau Addysg Uwch yn ogystal â mesurau ychwanegol sy'n cefnogi ein corff myfyrwyr i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg. 

Pellach Mae buddion Cymru Gyfan yn cynnwys,

  • Cynyddu a chryfhau cyfleoedd lleoliadau mewn gofal Sylfaenol, Cymdeithasol a Chymunedol
  • Ymgorffori technolegau i wella addysgu, cymorth i fyfyrwyr a pharatoi lleoliadau
  • Integreiddio'r amgylchedd digidol i ddysgu
  • Ymagwedd well at addysg ryngbroffesiynol
  • Llwybrau mwy hyblyg a rhan-amser ar draws llawer o broffesiynau a mwy o rannau o Gymru
  • Trefniadau gweithio Consortiwm Addysg Gydweithredol Ranbarthol Agosach
  • Arweinyddiaeth Dosturiol wedi'i gwreiddio ym mhob addysg cyn-gofrestru

Diolch

Mae'r adolygiad o addysg gofal iechyd israddedig yng Nghymru a chontractau dilynol wedi bod yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth ar ei orau. Gyda'n gilydd rydym wedi llunio dyfodol addysg gofal iechyd yng Nghymru gan sicrhau ein bod yn darparu'r addysg sydd ei hangen ar fyfyrwyr, yn ogystal â sefydliadau a chleifion gyda gweithlu sy'n alluog ac yn hyderus i ddarparu gofal rhagorol. Rydym yn ddiolchgar iawn i'n holl bartneriaid a chydweithwyr sydd wedi gweithio gyda ni ar yr adolygiad a'r contractau.

Y dyfodol

Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid dros y 12 mis nesaf ar y cam o weithredu'r contractau ac wedi hynny ar ddarparu addysg broffesiynol gofal iechyd cyn-cofrestru o ansawdd uchel yng Nghymru. 

Wrth symud ymlaen, rydym hefyd yn gweithio ar gam dau'r adolygiad strategol o addysg gofal iechyd i Gymru gan gynnwys datblygu contractau ar gyfer addysg gweithwyr cymorth gofal iechyd ac ystod o raglenni ôl-raddedig.

Gwasanaethau Addysg a Hyfforddiant Gweithwyr Proffesiynol Iechyd AaGIC (Cam 1)

 

Enw’r Lot

Is-lot

Cynigydd llwyddiannus

Nyrsio (Oedolion, Plant ac Iechyd Meddwl)

1a Caerdydd a'r Fro gan gynnwys Felindre (Llawn Amser yn Unig)

Prifysgol Caerdydd

1b Caerdydd a'r Fro (BSc / BN Llawn Amser, BSc / BN Rhan Amser, Dip PG / MSc)

Prifysgol De Cymru

1c Aneurin Bevan Llawn Amser yn Unig

Prifysgol Caerdydd

1d Aneurin Bevan a Powys Llawn Amser BSc / BN, Rhan Amser BSc / BN, PG Dip / MSc

Prifysgol De Cymru

1e Cwm Taf Morgannwg

Prifysgol De Cymru

1f Bae Abertawe

Prifysgol Abertawe

1g Hywel Dda Gogledd

Prifysgol Aberystwyth

1h Hywel Dda, Dwyrain, De a Gorllewin

Prifysgol Abertawe

1i Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Gorllewin

Prifysgol Bangor

1j Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Canol / Dwyrain

Prifysgol Wrecsam Glyndŵr

1k Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Canol / Dwyrain (yn dysgu ar draws C&D a Wrecsam)

Prifysgol Wrecsam Glyndwr

Nyrsio Anabledd Dysgu

2a Gogledd Cymru

Prifysgol Bangor

2b De Ddwyrain Cymru a Powys

Prifysgol De Cymru

2c De Orllewin a Gorllewin Cymru

Prifysgol Abertawe

Dysgu Gwasgaredig: Nyrsio (Oedolion ac Iechyd Meddwl)

3a Powys

Prifysgol Bangor

3b Hywel Dda

Prifysgol Abertawe

Nyrsio (Oedolion, Plant ac Iechyd Meddwl)

4 Dysgu o Bell

Prifysgol Bangor

Bydwreigiaeth

5a De Ddwyrain Cymru

Prifysgol Caerdydd

5b De Ddwyrain Cymru a Powys (2 allbwn)

Prifysgol De Cymru

5c De Orllewin Cymru

Prifysgol Abertawe

5d Gogledd Cymru (2 allbwn)

Prifysgol Bangor

Therapi Galwedigaethol

6a De Ddwyrain Cymru (BSc Llawn Amser, Diploma Ôl-raddedig / MSc)

Prifysgol Caerdydd

6b De Ddwyrain Cymru (BSc Rhan Amser)

Prifysgol De Cymru

6c De Orllewin a Gorllewin Cymru

Prifysgol Abertawe

6d Gogledd Cymru a Powys

Prifysgol Glyndŵr Wrecsam

Ffisiotherapi

7a De Ddwyrain Cymru (BSc Llawn Amser, Diploma Ôl-raddedig / MSc)

Prifysgol Caerdydd

7b De Ddwyrain Cymru (Rhan Amser)

Prifysgol De Cymru

7c De Orllewin a Gorllewin Cymru (BSc Llawn Amser, Diploma Ôl-raddedig / MSc)

Prifysgol Caerdydd

7d Gogledd Cymru (BSc Llawn Amser)

Prifysgol Wrecsam Glyndŵr

7e Gogledd Cymru (Diploma Ôl-raddedig / MSc)

Prifysgol Bangor

Radiograffeg Ddiagnostig

8a De Ddwyrain Cymru

Prifysgol Caerdydd

8b De Orllewin a Gorllewin Cymru

Prifysgol Caerdydd

8c Gogledd Cymru

Prifysgol Bangor

Radiograffeg ac Oncoleg

9 Cymru Gyfan

Prifysgol Caerdydd

Podiatreg

10 Cymru Gyfan

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Therapi Lleferydd ac Iaith

11a De, Gorllewin a Chanolbarth Cymru

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

11b Gogledd Cymru

Prifysgol Wrecsam Glyndŵr

Dieteg

12a De, Gorllewin a Chanolbarth Cymru

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

12b Gogledd Cymru

Prifysgol Wrecsam Glyndŵr

Gwyddoniaeth Barafeddygol

13a De, Gorllewin a Chanolbarth Cymru

Prifysgol Abertawe

13b Gogledd Cymru

Prifysgol Glyndŵr Wrecsam

Gwyddorau Biofeddygol

14 Cymru Gyfan

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Ymarfer Adran Weithredu

15a De Ddwyrain Cymru a Powys

Prifysgol De Cymru

15b De Orllewin a Gorllewin Cymru

Prifysgol Abertawe

15c Gogledd Cymru

Prifysgol Glyndwr Wrecsam

Hylendid a Therapi Deintyddol

16a De, Gorllewin a Chanolbarth Cymru

Prifysgol Caerdydd

16b Gogledd Cymru

Prifysgol Bangor

Cymdeithion Meddyg

17a De, Gorllewin a Chanolbarth Cymru

Prifysgol Abertawe

17b Gogledd Cymru

Prifysgol Bangor

Gwyddorau Gofal Iechyd- Rhaglen Hyfforddi Ymarferwyr

18 Cymru Gyfan

Prifysgol Abertawe

Mae yna ychydig o gyrsiau na fydd yn cael eu cyflwyno gan yr un darparwyr sef gradd Ymarfer yr Adran Weithredu (ODP) ym Mhrifysgol Caerdydd a'r Radd Dysgu o Bell nyrsio yn yr Open University. Er na fydd carfannau newydd o'r myfyrwyr hyn, bydd y myfyrwyr presennol yn cael eu cofrestru. Mae profiad ac ansawdd dysgu'r myfyrwyr hyn hanfodol bwysig a byddwn yn gweithio'n agos gyda'r Prifysgolion a'r Byrddau Iechyd i sicrhau bod myfyrwyr yn cael addysg ddiogel o ansawdd gan raddio fel cofrestryddion, ar amser, i weithio yng Nghymru.

Dylech gyfeirio unrhyw ymholiadau mewn perthynas â'r broses gaffael hon at HEIW.EdCommissioning@wales.nhs.uk

Diweddariad Tachwedd 2020

Ar ôl derbyn cymeradwyaeth y Gweinidog, mae manylebau'r contract a'r gwahoddiad i tendro ddogfennau ar gyfer addysg gweithwyr iechyd proffesiynol wedi'u cyhoeddi'n swyddogol. Rydyn ni nawr allan i dendro ar y broses gomisiynu fwyaf rydyn ni'n ei chynnal yn AaGIC.

Diweddariad Awst 2020

Yn y diwrnod ymgysylltu â'r farchnad a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2019, nododd AaGIC ei weledigaeth arfaethedig ar gyfer contractau addysg proffesiynol newydd GIG Cymru. Roedd y wybodaeth a ddarparwyd yn y digwyddiad hwnnw'n adlewyrchu'r adolygiad strategol o addysg iechyd a gynhaliwyd gan AaGIC a'i gynghorwr penodedig (KPMG) dros y deuddeng mis blaenorol.

Yn y digwyddiad ac yn y misoedd canlynol, aeth AaGIC ati i ymgysylltu ymhellach â'r holl randdeiliaid allweddol, gan gynnwys darparwyr addysg, Byrddau Iechyd Lleol, cleifion a myfyrwyr. Fel rhan o'n hymgysylltiad â rhanddeiliaid, gofynnwyd i bawb â diddordeb ein herio ar rinweddau a dichonoldeb ein manyleb contract a'r model gwasanaeth arfaethedig.

Rydym wedi ystyried y sylwadau a dderbyniwyd gennym hyd yma gan ein rhanddeiliaid allweddol. Mae'r sylwadau hyn wedi ein helpu i lywio ein cynigion ymhellach, gan gynnwys gwneud rhai newidiadau sy'n adlewyrchu'n well anghenion darparwyr addysg, myfyrwyr, gwasanaethau a chleifion y bwriadwn eu cynnig yn yr ymrwymiad terfynol sydd i ddod ym mis Medi.

Amserlen gaffael arfaethedig

  • Hysbysiad OJEU i sbarduno caffael - Hydref 2020
  • Cyflwyno cynnig - Diwedd Rhagfyr 2020
  • Cychwyn contract - Awst 2021
  • Rhaglenni addysg newydd yn cychwyn - Medi 2022

Rydym wedi nodi ein hamserlen caffael arfaethedig uchod, ond rydym yn gwerthfawrogi y gallai hyn newid o ystyried yr amseroedd digyffelyb hyn yng ngoleuni pandemig Covid-19. Os bydd yr amserlen arfaethedig yn newid, byddwn, wrth gwrs, yn hysbysu'r farchnad ynghyd â'n rhanddeiliaid allweddol eraill.

Ymgysylltu lefel uchel

Medi 2020

Bydd AaGIC yn cynnal digwyddiad rhith ymgysylltu â rhanddeiliaid ym mis Medi ar gyfer cynigwyr â diddordeb posibl. Bydd y digwyddiad hwn yn cymryd lle'r digwyddiadau sioeau teithiol a oedd i fod i ddigwydd ledled Cymru ym mis Mawrth 2020 a gafodd eu canslo yn anffodus oherwydd pandemig Covid-19.

Bydd y digwyddiad hwn felly yn gyfle i AaGIC rannu'r themâu a'r strategaeth allweddol a ddiweddarwyd ar gyfer pob cynigydd posibl cyn lansio'r broses gaffael.

Mae hysbysiad pin wedi'i gyhoeddi drwy GwerthwchiGymru i hysbysebu'r digwyddiad.

Diweddariad 29/05/2020

O ganlyniad i effaith Coronavirus rydym wedi cael ein gorfodi i ohirio’r amserlen wreiddiol ar gyfer tendro'r Contractau Addysg Proffesiwn Iechyd.

Yn wreiddiol, roedd hyn i fod i ddigwydd ym mis Mai / Mehefin 2020. Gellir cadarnhau, yn seiliedig ar yr amserlen wedi'i diweddaru ar gyfer y broses dendro, mae'r dyddiad pan fyddwn yn mynd yn fyw yn parhau i fod yn Medi 2022.

Diweddariad 19/03/2020

Oherwydd y sefyllfa bresennol gyda COVID-19, mae AaGIC a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru wedi penderfynu gohirio'r digwyddiadau Ymgysylltu â'r Farchnad Derfynol a oedd fod gael eu cynnal yn y lleoliadau canlynol:

  • Gogledd Cymru – Dydd Mawrth, 17 Mawrth 2020 – Venue Cymru, Llandudno, LL30 1BB
  • De Cymru – Dydd Gwener, 20 Mawrth 2020 – Hwb Gwyddorau Bywyd, Caerdydd, CF10 4PL
  • Gorllewin Cymru – Dydd Mercher, 25 Mawrth 2020 – Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Caerfyrddin, SA32 8HN

Byddwn mewn cysylltiad i aildrefnu y ddigwyddiadau yn ystod y misoedd nesaf.

Mae AaGIC yn comisiynu ystod eang o ddarpariaeth addysg israddedig ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol megis nyrsis, ffisiotherapi a lleferydd ac iaith. Mae'r contractau presennol i fod i ddod i ben ym mis Gorffennaf 2021. Er mwyn paratoi ar gyfer hyn a dyfarnu contractau newydd, rydym wedi bod yn adolygu'r hyn y mae arnom angen y contractau newydd i'w gynnwys er mwyn sicrhau bod addysg gofal iechyd yn diwallu anghenion cleifion a gwasanaethau yn y dyfodol.

Fel rhan o'r adolygiad hwn, ac er mwyn sicrhau bod y contractau yn cyd-fynd orau â'r anghenion hyn, ymgysylltwyd â KPMG i roi cyngor annibynnol ar ddarpariaeth a chyfluniad addysg yn y dyfodol. Er mwyn llywio eu gwaith, ymgysylltodd KPMG â 36 o sefydliadau a dros 120 o unigolion. Diolch i bawb a gymerodd ran yn y broses o ymgysylltu.

Ym mis Hydref, cyn yr adroddiad terfynol, rhannodd KPMG y themâu allweddol sy'n codi o'r adolygiad gyda ni. Mae'r rhain yn cynnwys: 'lotiau' yr addysg yn seiliedig ar anghenion y boblogaeth ledled Cymru, gwahanol fodelau darparu gan gynnwys dysgu o bell a gwasgaredig, gofynion rhyngbroffesiynol penodol a newidiadau i'r cymorth i fyfyrwyr sydd mewn Lleoliadau.

Mae KPMG bellach wedi cyhoeddi eu hadroddiad terfynol sy'n cynnwys 22 o argymhellion. Bydd y rhain ynghyd â'r themâu allweddol a nodwyd yn llunio'r contract addysg proffesiynol newydd ar gyfer iechyd yng Nghymru gan ganolbwyntio ar:

  • AaGIC yn datblygu ei rôl i gefnogi staff sydd newydd gymhwyso
  • Datblygu rôl strategol ymhellach mewn darparu lleoliadau
  • Dull lleol/rhanbarthol o gomisiynu lle y bo'n briodol
  • Adeiladu gwydnwch yn y system
  • Defnyddio technolegau i wella addysgu, cymorth i fyfyrwyr a pharatoi lleoliadau
  • Integreiddio'r amgylchedd digidol i ddysgu
  • Datblygu addysg a hyfforddiant ar draws yr holl lwybr gyrfa
  • Sefydlu dull gwell o ymdrin ag addysg ryng-broffesiynol
  • Datblygu llwybrau hyblyg
  • Trefniadau gweithio triphlyg agosach rhwng AaGIC, Byrddau Iechyd a Phrifysgolion
  • Gwella ymatebolrwydd i angen gwasanaeth/polisi LlC
  • Cefnogi myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig
  • Dysgu Gwasgaredig
  • Arweinyddiaeth Glinigol

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio trwy’r adroddiad i nodi lle mae gwaith eisoes yn cael ei wneud ar y themau hyn ac a oes angen i ni wneud gwaith pellach. Ar ôl i hyn gael ei wneud byddwn yn rhannu ein darganfyddiadau a’r adroddiad gyda Bwrdd a rhanddeiliaid AaGIC.

Mae mwy o ddigwyddiadau i randdeiliaid hefyd ar y gweill gyda darpar gynigwyr, ymddiriedolaethau a byrddau iechyd, a myfyrwyr o bob prifysgol i sicrhau bod y contract addysg newydd yn adlewyrchu blaenoriaethau a rennir ac yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth.

Edrych ymlaen

Ionawr 2020

AaGIC i gwrdd â myfyrwyr i'w diweddaru ar y themâu allweddol a chasglu eu hadborth ar y themâu.

Mawrth 2020

Digwyddiadau ymgysylltu caffael cyn lansio'r broses gaffael i gyflwyno'r strategaeth addysg proffesiynol i israddedigion i bob darpar gynigiwr.

Tîm AaGIC

Rhestrir aelodau allweddol o dîm y prosiect isod:

  • Stephen Griffiths – Cyfarwyddwr Nyrsio
  • Martin Riley – Pennaeth Addysg, Comisiynu ac Ansawdd
  • Chrissy Love – Dirprwy Bennaeth Addysg, Comisiynu ac Ansawdd
  • Denise Parish – Rheolwr Contractio Addysg
  • Dawn Baker Lari – Rheolwr Addysg a Gwella
  • Gemma Roscrow – Uwch Reolwr Categori, Gwasanaethau Caffaeliad

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chaffael y contract hwn, cysylltwch â Gemma Roscrow neu Francesca Havard Evans Ar gyfer ymholiadau AaGIC, cysylltwch â Martin Riley.

DS. Ym mis Awst, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ymestyn Bwrsariaeth y GIG am flwyddyn arall tra'i bod yn ystyried trefniadau ariannu tymor hwy. O ganlyniad i hyn, penderfynwyd ymestyn amserlen yr adolygiad hwn. Bydd y broses gaffael ar gyfer y contractau newydd yn dechrau bellach ym mis Mai 2020 i ganiatau amser ar gyfer canlyniad adolygiad bwrsariaeth y GIG ac unrhyw newidiadau i'r system ariannu a allai effeithio ar fanyleb y tendr.

Ddiwedd mis Tachwedd cyhoeddodd Llywodraeth Cymru estyniad pellach i'r pecyn Bwrsariaeth GIG Cymru ar gyfer dwy garfan ychwanegol ar gyfer y blynyddoedd academaidd 2021/2022 a 2022/2023. Mae'r cyhoeddiad hwn yn rhoi sicrwydd y bys Cymru, am y tair blynedd academaidd nesaf, yn parhau i ariannu a chefnogi gweithlu dyfodol y GIG.