Neidio i'r prif gynnwy

Yw'ch camau nesa ar ôl cael eich canlyniadau ?

A wyddech chi mai'r GIG yw'r cyflogwr mwyaf yng Nghymru gyda dros 98,400 o weithwyr, a bod mwy na 350 o opsiynau gyrfaol ar gael? O nyrsio, deintyddiaeth neu therapïau i TG, cyllid neu wasanaethau cymorth, mae rôl i bawb.

Pwy a ŵyr, gallai gyrfa werth chweil ym maes gofal iechyd fod yn aros amdanoch chi!

Os ydych chi'n ystyried gyrfa ym maes gofal iechyd, gallwch astudio amrywiaeth o gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig mewn prifysgolion a cholegau ledled Cymru. Gallech hyfforddi i fod yn feddyg, ffisiotherapydd neu'n un o'r nifer o gymwysterau proffesiynol iechyd eraill sydd ar gael yn rhai o'r cyfleusterau mwyaf arloesol a modern ledled y DU. 

Heb gael y canlyniadau yr oeddech yn eu gobeithio? Peidio â phoeni. Beth am ailystyried eich opsiynau drwy wirio'r broses glirio, neu efallai ystyried astudio ar gyfer Diploma Mynediad i Addysg Uwch mewn coleg yn agos at eich cartref? Mae hwn yn gymhwyster sy'n paratoi pobl heb gymwysterau traddodiadol ar gyfer astudio yn y Brifysgol.

Dros y misoedd nesaf, byddwn yn arddangos rhai o'r cyfleoedd gyrfa gwych sydd ar gael ar draws GIG Cymru, gan ddechrau gyda nyrsio anabledd dysgu. Byddwch yn clywed gan nyrsys anableddau dysgu penodedig sy'n gweithio ledled Cymru a fydd yn dweud wrthych beth yw ystyr bod yn y rôl, gan gynnwys sut y byddech yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill, a'ch gwaith eich hun, bob dydd. Sut y byddech yn chwarae rhan bwysig o ran nodi a diwallu anghenion iechyd a lles pobl, tra'n gwella gofal iechyd, cynhwysiant cymdeithasol ac ansawdd bywyd. Felly, gwyliwch y gofod hwn!

Beth bynnag yw eich sgiliau, cymwysterau neu ddiddordebau, mae gyrfa i chi yn y GIG ac rydym yn recriwtio nawr. Gallech weithio'n uniongyrchol gyda chleifion, mewn ysbytai, mewn ymddiriedolaeth ambiwlans neu yn y gymuned. Ewch i https://www.jobs.nhs.uk/ i gael gwybod mwy. Unwaith y byddwch yn rhan o dîm y GIG, byddwn yn gweithio gyda chi i ddatblygu eich gyrfa a chyflawni eich potensial.

I gael rhagor o wybodaeth am y dewisiadau gyrfaol sydd ar gael ar draws y GIG yn www.nhswalescareers.com.