Neidio i'r prif gynnwy

Ystafell ymarfer clinigol newydd o'r radd flaenaf wedi agor i fyfyrwyr yn Ysbyty Singleton

Stephen Griffiths yn profi'r offer newydd gyda myfyrwyr nyrsio a Bydwreigiaeth

Agorwyd ystafell ymarfer clinigol newydd sbon o'r radd flaenaf gan Brifysgol Abertawe yn Ysbyty Singleton yn dilyn buddsoddiad gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Agorwyd ystafell ymarfer clinigol newydd sbon o'r radd flaenaf gan Brifysgol Abertawe yn Ysbyty Singleton yn dilyn buddsoddiad gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Mae'r cyfleuster trawiadol hwn wedi'i ddylunio i ddilyn taith claf ac mae'n cynnwys ardaloedd megis ITU (Uned Gofal Dwys), Unedau Damweiniau ac Achosion Brys, wardiau oedolion a phediatrig.  Mae'r lle hefyd yn cynnwys ystafell synhwyraidd, ystafell hel atgofion a chartref claf Efengylaidd.  Mae pob un ohonynt yn meddu ar y dechnoleg ddiweddaraf ac yn cynnwys 'manikins' realistig, sydd wedi'u cynllunio i gefnogi hyfforddiant clinigol rhithwir eithriadol.

Bydd y Ganolfan yn caniatau i fyfyrwyr ymarfer eu sgiliau clinigol mewn amgylchedd realistig cyn ymgymryd â lleoliadau clinigol mewn ysbytai ac yn y gymuned lle byddant yn defnyddio eu sgiliau gyda chleifion.

Yn dwyn yr enw Canolfan Ymarfer Clinigol Aneurin Bevan, caiff y cyfleuster ei rannu gan Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd a'r Ysgol Feddygol. 

Ymwelodd Stephen Griffiths, Cyfarwyddwr Nyrsio AaGIC, â'r ganolfan yn ddiweddar ac fe welodd myfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth o'r Coleg Gwyddorau Dynol ac iechyd yn defnyddio'r cyfleusterau. Fe'i trawyd gan realaeth y profiad;

“Mae'n siwr y bydd yr hyfforddiant realistig a gaiff myfyrwyr yn y ganolfan yn helpu i gynyddu eu gwybodaeth a'u hyder pan fyddant yn wynebu sefyllfaoedd bywyd go iawn”.

“Roedd yn wirioneddol wych gweld y cyfleusterau newydd, y myfyrwyr ac wrth gwrs y staff.  Yr oedd y cyffro a'r brwdfrydedd yn amlwg, a bydd cael y cyfleuster newydd hwn yn yr ysbyty yn gaffaeliad gwirioneddol i'r brifysgol, y gymuned iechyd leol ac wrth gwrs i fyfyrwyr sy'n dysgu”.

Dywedodd yr Athro Jayne Cutter, Pennaeth yr Adran Nyrsio yn y Coleg, yn ystod yr ymweliad;

“Mae hwn yn gyfleuster bendigedig a bydd yn cynnig cyfleoedd dysgu gwych i'n myfyrwyr. Mae'r ganolfan yn unigryw, nid yn unig o ran ansawdd yr offer a'r ystod o brofiadau clinigol y gellir eu hailadrodd, ond hefyd o ran ei leoliad.

“Bydd yn cynnig cyfle i'n myfyrwyr ddysgu ac ymarfer sgiliau clinigol cymhleth mewn amgylchedd clinigol anfygythiol, realistig sy'n rhoi'r wybodaeth a'r hyder iddynt ymgymryd â'r un gweithgareddau gyda chleifion yn ystod eu lleoliadau clinigol”.  

Dywedodd Richard Evans, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe sy'n rhedeg ysbyty Singleton;

 "Rydym yn falch iawn o fod wedi cefnogi AaGIC a Phrifysgol Abertawe i ddatblygu'r ystafell ymarfer clinigol hon yn Ysbyty Singleton.

"Mae'n sicr y bydd rhoi cyfle i fyfyrwyr roi eu hyfforddiant ar waith mewn amgylchedd bywyd yn gwella eu sgiliau clinigol.

"Bydd hyn yn ei dro yn arwain at safon uwch o ofal i gleifion – rhywbeth rydym i gyd yn ymdrechu i'w gyflawni."

DIWEDD

Nodiadau i'r Golygydd:

Sefydlwyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar 1 Hydref 2018. Mae'n awdurdod iechyd arbennig o fewn GIG Cymru, a grëwyd trwy ddwyn ynghyd tri sefydliad allweddol ar gyfer iechyd: Deoniaeth Cymru; Gwasanaethau Addysg a Datblygu Fweithlu GIG Cymru (WEDS); a Chanolfan Addysg Fferylliaeth Broffesiynol Cymru (WCPPE).  

Ar y cyd â byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, mae gan AaGIC rôl arweiniol yn y gwaith o addysgu, hyfforddi, datblygu a llunio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru. Mae ei swyddogaethau allweddol yn cynnwys addysg a hyfforddiant, datblygu a moderneiddio'r gweithlu, datblygu arweinyddiaeth, cynllunio'r gweithlu yn strategol, deallusrwydd y gweithlu, gyrfaoedd ac ehangu mynediad.