Neidio i'r prif gynnwy

Ymunwch â ni am Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ac arddangosfa AaGIC

Isod gwelwch y ddolenni ar gyfer ymuno â ni yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) ac arddangosfa  ar 24 Medi 2020.

Eleni, mae ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn cael ei gynnal ar-lein gan roi cyfle i fwy ohonoch ymuno â ni. Byddwn yn myfyrio’n ôl ar 19/20 ac hefyd yn edrych ymlaen at ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Bydd y CCB yn dechrau am 12pm – 1pm ac fydd yn rhyngweithiol felly bydd yn gyfle i chi gymryd rhan, gofyn cwestiynau a chyfrannu at ein gwaith.

Ar ôl y rhan ffurfiol o’r CCB byddwn yn cynnal digwyddiad arddangos rhithwir rhyngweithiol am 2pm i chi archwilio rhai pynciau penodol yn fanylach, gan gynnwys:

  • 2pm - cefnogi'r tîm gofal sylfaenol aml-broffesiynol
  • 2.30pm - llwybrau i mewn ac allan o addysg a hyfforddiant yng Nghymru
  • 3pm - hyfforddiant yng Nghymru yw'r gorau yn y DU – trafodwch
  • 3.30pm - datblygu arweinwyr gofal iechyd y dyfodol.

Fel y CCB, bydd y sesiynau hyn yn rhyngweithiol yn rhoi’r siawns i chi ofyn cwestiynau a rhoi adborth.

Byddwn yn recordio'r digwyddiad arddangos a bydd ar gael yn nes ymlaen trwy ein gwefan.

Nodwch eich dyddiaduron ar gyfer prynhawn 24 Medi.

Dyma’r ddolen i cofrestru i ymuno â’r CCB ac arddangosfa.

Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn e-bost cadarnhad yn cynnwys gwybodaeth am sut i ymuno â'r weminar.