Neidio i'r prif gynnwy

Ymgynghoriad cyhoeddus cynllun iaith Cymraeg

Sefydlwyd AaGIC ar 1 Hydref 2018, fel yr unfed aelod ar ddeg o GIG Cymru yn dilyn y cyfuniad o dri sefydliad etifeddol; Deoniaeth Cymru, Canolfan Addysg Fferylliaeth Broffesiynol Cymru (WCPPE) a Gwasanaeth Datblygu'r Gweithlu ac Addysg (WEDS)

Mae gennym rôl arweiniol yn addysg, hyfforddiant, datblygiad a llunio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru, gan gefnogi gofal o ansawdd uchel i bobl Cymru.

Fel corff sydd wedi ymrwymo i wella'r ddarpariaeth addysg iechyd yng Nghymru, rydym yn cydnabod pwysigrwydd cynyddol y Gymraeg o ran sicrhau gwell canlyniadau clinigol. Dyma'r prif ffactor ysgogol y tu ôl i'n hawydd i wneud y gorau o ansawdd a maint y gwasanaethau Cymraeg y gallwn eu cynnig.

Er nad yw'n ofynnol ar hyn o bryd i AaGIC gydymffurfio â safonau o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, rydym wedi mabwysiadu'r egwyddor a sefydlwyd yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993, wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, y dylid trin y Gymraeg a'r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal.

Rydym hefyd wedi bod yn gweithredu cynllun gwirfoddol, a gymeradwywyd gan ein Bwrdd ym mis Mai 2019, sy'n seiliedig ar Reoliadau Safonau 6 a 7 (ar gyfer Sefydliadau Addysgol a Chyrff Iechyd yn y drefn honno).

Mae'r cynllun iaith Gymraeg statudol hwn yn disgrifio sut y byddwn yn gweithredu'r egwyddorion hyn ac yn nodi sut y byddwn yn darparu ein gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru yn Gymraeg.

Rydym yn gofyn am eich barn ar y cynllun arfaethedig. 

Cynllun Iaith Gymraeg AaGIC 2020-2023

(Mae fformatau amgen y ddogfen hon ar gael ar gais).


Daeth yr ymgynghoriad i ben 10 Ionawr 2021.

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi maes o law.