Oes gennych chi ddiddordeb mewn Cymorth Amdriniaethol yng Nghymru ac eisiau ein helpu i ddatblygu Fframwaith Prentisiaeth Lefel 4 newydd? Yna, cymerwch ran yn ein hymgynghoriad – mae manylion llawn ar ein gwefan Ymgynghoriad ar y Fframwaith Prentisiaeth Cymorth Amdriniaethol Lefel 4 newydd - AaGIC (gig.cymru)
Fel Partner Datblygu Ar gyfer Fframweithiau Prentisiaeth Iechyd Llywodraeth Cymru, mae AaGIC wedi bod yn arwain y gwaith o ddatblygu Fframwaith Prentisiaeth Cymorth Amdriniaethol Lefel 4 newydd.
Sefydlwyd Grŵp Llywio i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn gyda chynrychiolaeth gan gyflogwyr o bob rhan o GIG Cymru. Mae'r Fframwaith a adolygwyd bellach yn barod am gyfnod ymgynghori o 4 wythnos cyn iddo gael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.
Byddem yn falch iawn pe gallech gymryd ychydig o funudau i ateb rhai cwestiynau am gynnwys y fframwaith i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion gwasanaethau cymorth gofal iechyd. Yn ogystal â fframwaith adolygu drafft, ar gyfer adolygu, bydd dogfen EDLS yn darparu yn rhoi gwybodaeth am ofynion lefelau gwahanol y Sgiliau Hanfodol Llythrennedd Digidol.
Bydd yr ymgynghoriad yn cau ddydd Dydd Gwener 13 Mai 22.