Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwydd mewn cymwysiadau gwyddonydd dan hyfforddiant yn golygi newyddion da i ddyfodol system gofal iechyd Cymru

Pan ofynnodd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), y sefydliad sy'n gyfrifol am addysgu a hyfforddi'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru, yn gynharach eleni i bobl wneud cais am ei Raglen Hyfforddi Gwyddonydd, roedd yn disgwyl ymateb cadarnhaol. Wedi'r cwbl, mae Cymru'n cael ei hystyried yn awr yn lle mwyfwy atyniadol i weithwyr iechyd proffesiynol i hyfforddi.

Ond sioc o'r ochr orau cafodd hyd yn oed AaGIC pan gafodd 1208 o geisiadau o bob cwr o'r byd am y 24 o swyddi gwyddonydd clinigol dan hyfforddiant sydd ar gael. Mae hynny bron i bum gwaith y nifer a ymgeisiodd yn 2017 pan ddechreuodd Cymru recriwtio ar gyfer y Rhaglen gyntaf.

Gwyddonwyr clinigol dan hyfforddiant yw gwyddonwyr gofal iechyd y dyfodol, ac mae'r rhain yn cyfrannu fwyfwy at bob agwedd ar gynllunio a darparu yn y proffesiwn iechyd. Unwaith y byddant wedi ymgymhwyso, maent yn cyflawni ystod eang o rolau arloesol sy'n gysylltiedig â datblygiadau technolegol arloesol ac arloesedd mewn meysydd fel clywedeg, ffisioleg gardiaidd, genomeg a pheirianneg adsefydlu.

Mae'r ' STP ', fel y'i hadwaenir yn gyffredin, yn galluogi'r rhai sy'n ddigon ffodus i gael eu dewis i ennill cyflog cystadleuol ac ennill gradd Meistr drwy raglen hyfforddiant llawn amser a gydnabyddir yn genedlaethol am dair blynedd.

Mae rhannau eraill o'r DU hefyd yn gweithredu Rhaglenni Hyfforddi Gwyddonydd. Fodd bynnag, yng Nghymru mae hyfforddeion yn elwa ar ystod o ffactorau ychwanegol megis mynediad at grantiau, cyllid ar gyfer llety a theithio tra eu bod yn y brifysgol, a chostau byw is. Credir bod y rhain i gyd wedi cyfrannu at yr ymchwydd eleni mewn ymgeiswyr na all, yn ôl AaGIC, ond olygi newyddion da i ddyfodol system gofal iechyd Cymru.

“Mae'r Rhaglen Hyfforddi Gwyddonydd yn rhoi cyfle i hyfforddeion astudio yng Nghymru am dair blynedd, gan eu galluogi i osod gwreiddiau yn eu cymunedau lleol yn ogystal ag o fewn cylchoedd gofal iechyd" meddai Stephen Griffiths, Cyfarwyddwr Nyrsio Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

“Er na fydd pawb yn aros yng Nghymru wedi iddynt orffen, mae ein ffigurau yn dangos bod tua 75% ohonynt yn gwneud hynny. Mae hynny'n ein helpu i greu system gofal iechyd gynaliadwy sy'n elwa ar rai o'r meddyliau gwyddonol disgleiriaf sydd ag ystod eang o sgiliau ac arbenigedd.”

Cyn 2017, dewisodd Cymru ei gwyddonwyr clinigol dan hyfforddiant drwy'r Ysgol Gwyddor Gofal Iechyd Genedlaethol yn Birmingham, rhywbeth a weithiodd am flynyddoedd lawer ond a roddodd yr ymgeiswyr o Gymru mewn perygl o fynd ar goll o fewn y broses recriwtio yn Lloegr.

Pan ddechreuodd ddod yn fwyfwy anodd i gysoni anghenion comisiynu system gofal iechyd Cymru â'r broses recriwtio yn Lloegr, dewisodd Cymru fynd ar ei phen ei hun. Yn 2017 Roedd 268 o ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen hyfforddi gwyddonydd, yn codi yn drawiadol i 768 yn 2018.

Er bod nifer o'r 1208 o ymgeiswyr eleni wedi dod o Gymru, daeth canran sylweddol o rannau eraill o'r DU ynghyd â gwledydd mor bell i ffwrdd ag Awstralia, Sri Lanka a Zambia.

Bydd pob un o'r 24 o wyddonwyr clinigol dan hyfforddiant yn ymgymryd â'u swyddi ledled Cymru yn ystod ail wythnos mis Medi, gan weithio o fewn saith bwrdd iechyd gwahanol y wlad * ynghyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chanolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd. Rhyngddynt, mae'r cyrff hynny'n pennu eu hanghenion gwyddonol dan hyfforddiant blynyddol, gyda AaGIC yn cydlynu'r broses recriwtio.

“Rydym ni wedi gwybod am gyfnod bod Cymru wedi dod yn lle hynod o ddeniadol i weithwyr iechyd proffesiynol ei hyfforddi, "ychwanega Stephen Griffiths. "Mae'r nifer uchel o geisiadau eleni ar gyfer y Rhaglen Hyfforddi Gwyddonydd yn brawf pellach o hynny.

“Yr oedd safon yr ymgeiswyr yn rhagorol yn gyffredinol, rhywbeth a oedd yn gwneud dewis 24 o wyddonwyr clinigol dan hyfforddiant yn dasg eithriadol o anodd. Yr wyf yn llongyfarch y rhai a lwyddodd i ddod drwy'r broses.”

DIWEDD

* Saith Bwrdd Iechyd Lleol Cymru yw; Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Awdurdod Addysgu Iechyd Powys A Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Rhagor o Wybodaeth

Sefydlwyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar 1af Hydref 2018. Mae'n awdurdod iechyd arbennig o fewn GIG Cymru a grëwyd drwy ddod â thri sefydliad allweddol ar gyfer iechyd at ei gilydd – Deoniaeth Cymru, Gwasanaethau Addysg a Datblygu Gweithlu GIG Cymru (WEDS) a Chanolfan Addysg Fferylliaeth Broffesiynol Cymru (WCPPE).  

Ar y cyd â byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, mae gan AaGIC rôl arweiniol o ran addysg, hyfforddiant, datblygiad a siapio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru. Mae ei swyddogaethau allweddol yn cynnwys addysg a hyfforddiant, datblygu a moderneiddio'r gweithlu, datblygu arweinyddiaeth, cynllunio strategol ar gyfer y gweithlu, gwybodaeth am y gweithlu, gyrfaoedd ac ehangu mynediad.   

Ceir rhagor o wybodaeth yn  https://heiw.nhs.wales/