Neidio i'r prif gynnwy

Ymateb i'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (CMC) arolwg - Gorffennaf 2022

Mae’r CMC wedi rhyddhau canlyniadau ei arolwg hyfforddi cenedlaethol blynyddol. Yn AaGIC, rydym yn falch iawn o weld bod 87% o hyfforddeion a 58% o hyfforddwyr yng Nghymru wedi ymateb i’r arolwg. Dyma’r gyfradd ymgysylltu uchaf ar draws y pedair gwlad. Mae hyn yn bwysig i ni gan ein bod yn defnyddio canlyniadau'r arolwg i'n helpu i ddeall ansawdd presennol hyfforddiant hyfforddeion a hyfforddwyr, ac i lunio hyfforddiant meddygol wrth symud ymlaen.

Dywedodd yr Athro Pushpinder Mangat, Cyfarwyddwr Meddygol AaGIC:

“Mae’r arolwg diweddaraf yn cwmpasu blwyddyn heriol arall yn y GIG yng Nghymru a gofal iechyd ar draws y byd. Mae ein diolch diffuant i'n holl hyfforddeion a hyfforddwyr am eu gwaith caled a'u hymroddiad parhaus.

“Mae canlyniadau’r arolwg yn amlygu’r risg o orludded a phwysigrwydd lles. Mae hwn yn faes blaenoriaeth i ni. Yn ystod Covid rydym wedi sefydlu nifer o wasanaethau cymorth newydd ac mae’r rhain yn parhau i fod ar waith ochr yn ochr â threfniadau sefydlog.

“Mae gennym ni’r uned gymorth broffesiynol, both ar y we sy'n cynnwys cyngor a chyfarwyddyd yn ogystal â manylion cyswllt ar gyfer cymorth cyfrinachol. Rydym hefyd wedi cyflwyno e-bost i hyfforddeion gysylltu â ni os ydynt yn dymuno codi unrhyw bryderon HEIW.Open@wales.nhs.uk

“Mae cydnabod nad ydych chi’n teimlo’n rhy dda, bod angen ychydig o gymorth arnoch chi a cheisio help yn dangos cryfder unigol mawr ar adeg pan fyddwch chi’n meddwl efallai nad ydych chi’n teimlo’n mor gryf â hynny. Fel y dywedais o’r blaen, mae’n iawn i beidio â theimlo’n iawn ac rwy’n annog unrhyw un sydd angen cymorth i estyn allan.

“Yn gyffredinol, mae’r canlyniadau rydyn ni’n eu gweld yng Nghymru yn adlewyrchu sefyllfa debyg ar draws y DU. Mae'n braf gweld llawer o hyfforddeion yn nodi lefelau uchel o foddhad a 92% o'n hyfforddwyr yn dweud eu bod yn mwynhau eu rolau hyfforddi.

“Byddwn yn edrych ar ganlyniadau’r arolwg yn fanylach i nodi meysydd o arfer da a meysydd y gallwn eu gwella.  Byddwn yn gwneud hyn er mwyn sicrhau’r profiadau gorau posibl i hyfforddeion a hyfforddwyr yng Nghymru.”

Mae enghreifftiau o sut mae AaGIC wedi defnyddio ymatebion arolwg i gyflawni gwelliannau i'w gweld ar ein gwefan yma. Rydym hefyd wedi cyhoeddi ein hadroddiad ‘Gwella Hyfforddiant Meddygol yng Nghymru’ yn ddiweddar. Mae hyn yn amlygu ein hymrwymiad, a’r hyn rydym wedi ei wneud eisoes i wella’n barhaus profiadau a bywydau meddygon sy’n hyfforddi, yn gweithio ac yn byw yng Nghymru. Gallwch fwrw golwg ar yr adroddiad yma.