Neidio i'r prif gynnwy

Ymateb i ymholiad y BBC ynghylch nyrsys sy'n fyfyrwyr 2il flwyddyn

Isod, ceir ein hymateb llawn i'r BBC mewn perthynas â sefyllfa nyrsys a bydwragedd sy'n fyfyrwyr yn yr 2il flwyddyn yn ystod yr argyfwng presennol ym maes iechyd y cyhoedd.

Dywedodd Stephen Griffiths, Cyfarwyddwr Nyrsio AaGIC:

Rydym yn ddiolchgar iawn i'r 2000 a mwy o fyfyrwyr sydd wedi dewis optio i mewn ac wedi cael ein llethu gan eu brwdfrydedd i ymuno â chydweithwyr yn ystod yr argyfwng hwn.

Mae eu diogelwch a'u lles yn hynod o bwysig i bob un ohonom. Yn eu rôl gyflogedig, byddant yn parhau i weithio fel myfyrwyr ar sail lleoliad dysgu, gan weithio o fewn cymhwysedd eu dysgu, dan oruchwyliaeth nyrs gymwysedig, ac yn cael eu cefnogi gan eu Prifysgol. Ni fyddant yn ymgymryd â rôl nyrs gymwysedig neu dasgau sy'n uwch na lefel eu cymhwysedd.

Ar eu ffurflen gais, mae myfyrwyr wedi dweud ble y byddai'n well ganddynt weithio ac mae popeth posibl yn cael ei wneud i ateb y ceisiadau hyn. Rydym yn ymwybodol bod rhai trigolion o Gymru yn astudio nyrsio mewn prifysgolion yn Lloegr a fyddai'n hoffi optio i mewn yng Nghymru, yn nes at adref, yn hytrach nag yn Lloegr. Rydym yn gwneud popeth y gallwn i helpu'r myfyrwyr hyn i ddychwelyd i Gymru ar gyfer eu lleoliad optio i mewn. 

Rydym yn llawn werthfawrogi a deall oherwydd sefyllfaoedd personol nid yw rhai myfyrwyr yn gallu optio i mewn. Mae'r myfyrwyr hyn yn aelodau gwerthfawr o'r gymuned gofal iechyd ac rydym yn awyddus iddynt barhau â'u dysgu yn ystod yr amser digyffelyb hwn. Mae nifer o opsiynau dysgu ar gael iddynt ac felly mae'n bwysig iawn eu bod nhw'n cysylltu â'u prifysgol i drafod yr opsiynau a dewis yr un iawn iddyn nhw.

Gyda'r opsiynau dysgu sydd ar gael mae'n anghyffredin i fyfyriwr atal ei astudiaethau ac rydym bob amser yn drist i weld hyn yn digwydd. Pan fydd  hynny'n digwydd, bydd prifysgolion yn parhau i gefnogi myfyrwyr, yn trafod opsiynau y tu allan i ddysgu, ac yn eu helpu i ddychwelyd i addysg cyn gynted â phosibl os ydynt yn dymuno dychwelyd.

Cefndir:

Ar ôl cyhoeddi datganiad y DU ar y cyd ynghylch myfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth yn ystod yr ymateb COVID19, yng Nghymru, datblygodd LlC ac AaGIC ganllawiau i fyfyrwyr yn egluro beth mae'n ei olygu iddynt hwy ac opsiynau sydd ar gael er mwyn iddynt allu gwneud dewis gwybodus.

• Datblygwyd y datganiad ar y cyd ar safbwynt y DU ynghylch nyrsys a bydwragedd sy'n fyfyrwyr gan bedair adran Llywodraeth y DU, yr NMC, Prifysgolion a Chyrff Proffesiynol/Undebau Llafur. Mae ar gael yn https://www.nmc.org.uk/globalassets/sitedocuments/other-publications/joint-statement-update-for-students-not-in-final-six-months-of-programme-covid-19-outbreak.pdf

• Ceir canllawiau ar y datganiad hwn a gyhoeddwyd gan AaGIC a LlC ac sy'n cynnwys undebau llafur, rheoleiddwyr, prifysgolion a'r GIG yn https://heiw.nhs.wales/files/covid-19-nursing-and-midwifery-support-guidance/