Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn croesawu Adroddiad diweddar Gyfrifiad Gweithlu Meddygol Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion (RCoA) adroddiad Cyfrifiad y Gweithlu Meddygol 2020
Rydym yn llwyr werthfawrogi ac yn deall yr heriau gweithlu sy'n cael eu hwynebu ar draws anaestheteg yng Nghymru ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'n cydweithwyr a'n partneriaid i fynd i'r afael â'r heriau hyn yn ddiogel.
Mae recriwtio i'n rhaglenni hyfforddi anaestheteg ar draws hyfforddiant arbenigol craidd ac uwch wedi bod yn llwyddiannus iawn, gyda chyfradd llenwi swyddi o 100% yng Nghymru am yr wyth mlynedd diwethaf.
Cyn rhyddhau Adroddiad Cyfrifiad Gweithlu RCoA, roeddem eisoes wedi dechrau mynd i’r afael â diffyg y gweithlu ledled Cymru gydag ehangu graddol ddiogel a chynaliadwy ar swyddi hyfforddi ar draws ein rhaglen hyfforddiant arbenigol uwch (ST). Ym mis Awst 2020, crëwyd 3 swydd ST3 newydd, a chytunwyd ar 3 swydd ST3 newydd arall ar gyfer Awst 2021, gyda chynlluniau ar gyfer swyddi ychwanegol yn cael eu hystyried ar gyfer Awst 2022. Byddwn yn parhau i adolygu'r gweithlu anaestheteg ac effaith yr ehangu hwn fel rhan o argymhellion comisiynu'r gweithlu yn y dyfodol.
Rydym hefyd wedi ymrwymo i gefnogi hyfforddiant ‘Anesthesia Associates’, gan sicrhau cefnogaeth ar gyfer datblygiad proffesiynol a chadw anesthetyddion gradd SAS, sy'n sylfaenol i'n gwasanaeth yng Nghymru.