Neidio i'r prif gynnwy

Ymateb AaGIC i raglen gredydu fferyllydd ymgynghorol newydd y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn croesawu canllawiau newydd y DU sy'n nodi'r sgiliau a'r profiad sy'n ofynnol i ddod yn fferyllwyr ymgynghorol.

Mae rhaglen gredydu fferyllwyr ymgynghorol newydd y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (RPS) yn nodi llwybr addysg a hyfforddiant clir a chyson i fferyllwyr ddod yn fferyllwyr ymgynghorol.

Dywedodd yr Athro Margaret Allan, Deon Fferylliaeth AaGIC: “Rydym yn croesawu lansiad cwricwlwm fferyllydd ymgynghorol yr RPS. Bydd yn caniatáu i fferyllwyr nodi y bylchau yn eu sgiliau a phrofiad ac yna adeiladu portffolio o dystiolaeth sy'n dangos eu parodrwydd ar gyfer rôl fferyllydd ymgynghorol.

“Mae AaGIC yn gyfrifol am sicrhau bod gan Gymru gronfa o fferyllwyr sydd â'r ystod eang o sgiliau a phrofiad sydd eu hangen i fod yn barod i gamu i mewn i swyddi fferyllwyr ymgynghorol pan fyddant ar gael. Er mwyn cyflawni’r nod hwn, mae AaGIC ar hyn o bryd yn datblygu llwybrau gyrfa hyblyg ar gyfer fferyllwyr ar ôl cofrestru ac yn darparu mynediad at gyfleoedd datblygu i fferyllwyr ym mhob sector a phob cam o’u gyrfaoedd.

“Bydd hyn yn caniatáu i weithlu Cymru adeiladu ar y sgiliau presennol tra hefyd yn datblygu rhai newydd fel rhagnodi, arweinyddiaeth, trosglwyddo i raglen practis meddygon teulu, cymhwyster addysg a hyfforddiant neu ymchwil.

“Mae GIG Cymru yn cydnabod pwysigrwydd arweinyddiaeth glinigol ar draws timau amlddisgyblaethol i wella canlyniadau i gleifion.”

Mae fferyllwyr ymgynghorol yng Nghymru yn chwarae rhan bwysig wrth arwain gwelliannau mewn gofal cleifion yn eu maes ymarfer i ddarparu gofal diogel ac effeithiol. Mae ganddyn nhw ddylanwad sylweddol ar ofal iechyd ar gyfer poblogaethau mawr ledled Cymru a chleifion ag anghenion unigol cymhleth. Bydd angen i unrhyw fferyllydd ymgynghorol newydd ddangos ei fod wedi cwrdd â gofynion y rhaglen newydd, gan sicrhau gwell diogelwch i gleifion.

Mae fferyllwyr ymgynghorol hefyd yn arweinwyr ym maes ymchwil ac addysg fferylliaeth, gan yrru arloesedd ar draws y gwasanaeth iechyd nawr ac ar gyfer y dyfodol.