Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf am sylwadau'r Gymraeg

Rydym yn cymryd y sylwadau a wnaed am y Gymraeg o ddifrif. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau ein bod yn cefnogi ac yn tyfu'r Gymraeg yn ein gweithlu GIG ac yn mynd ati i'w hymgorffori yn y ffordd rydym yn gweithio fel sefydliad. Rydym yn deall pa mor bwysig yw hyn i'n staff, ein dysgwyr a'n cleifion. Nid ydym yn cefnogi nac yn esgusodi'r sylwadau a wnaed gan yr unigolyn dan sylw ond ni allwn roi sylwadau ar drafodaethau mewnol gyda gweithiwr cyflogedig unigol. Yr ydym yn cymryd materion o'r fath o ddifrif.

Roedd James Moore yn gweithio yn AaGIC ar gontract secondiad, ac ar ôl i'n trafodaethau mewnol ddod i ben, mae wedi dychwelyd i'w gyflogaeth sylweddol gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST).