Neidio i'r prif gynnwy

Tystysgrif ran-amser newydd yn agor addysg i 400 o staff GIG Cymru

Bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn ariannu tystysgrif addysg uwch lefel 4 Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd (HCSW). Bydd y cyfle dysgu rhan amser newydd yma yn gywerth i’r flwyddyn gyntaf o raglen gradd nyrsio cyn-gofrestrig llawn amser.

Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r hyfforddiant hwn yn llwyddiannus yn gymwys i wneud cais i’r ail flwyddyn o’r rhaglen gradd nyrsio cyn-gofrestrig os dymunant.

Y ffactor yrru allweddol i feddiannu’r addysg yma oedd sefydlu llwybrau mynediad at addysg uwch ar gyfer HCSWs, a darparu’r cyfle i drawsnewid i mewn i’r ail flwyddyn o radd Nyrsio Gymreig unwaith eu bod nhw wedi cwblhau’r Tystysgrif Addysg Uwch Lefel 4.

Mae meddiannu’r rhaglen hon yn creu cyfleoedd addysg ar gyfer staff GIG Cymru sydd wedi’u cyflogi gan Fwrdd Iechyd neu Ymddiriedolaeth fel HCSW ar hyn o bryd, i ddatblygu eu gyrfa ymhellach wrth aros mewn gwaith llawn amser. Bydd y caffaeliad yn galluogi oddeutu 400 o Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd (HCSW) pob blwyddyn i gael mynediad at addysg, ac felly yn y pen draw yn gwella sefydlogrwydd gweithlu’r GIG yng Nghymru.

Mae’r addysg a hyfforddiant newydd yma wedi sicrhau fod Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) yn rownd derfynol Go Awards eleni. Mae tîm Nyrsio AaGIC a thîm Cyrchu a Chomisiynu Gwasanaethau Caffael PCGC wedi eu henwebu am wobr ar gyfer y rhaglen hon yn y categori ‘Best Procurement Delivery 22/23’.

Dywedodd Christine Love, Pennaeth Comisiynu Ôl-raddedig AaGIC “Rydym yn hapus iawn i fod yn deilyngwyr yn y Go Awards eleni. Mae’n tynnu sylw at y cydweithio gwych rhwng PCGC ac AaGIC”

Mae’r gwobrwyo yn cymryd lle ar yr 8fed o Dachwedd yng ngwesty Mercure yng Nghaerdydd, a bydd y cytundeb ar gyfer yr hyfforddiant HCSW yn cael ei gwblhau Hydref nesaf (2023)