Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Fferylliaeth AaGIC yn Lansio Ymgyrch Ymwybyddiaeth Ddiwylliannol ar gyfer y Gweithlu Fferyllol

Mae bod yn ymarferydd gofal iechyd diwylliannol gymwys yn cyfrannu at welliant o ran iechyd a lles cleifion ac mae’n ffaith hysbys ei fod yn lleihau anghydraddoldebau iechyd.

I gefnogi hyn, mae’n tîm Fferylliaeth wedi lansio ymgyrch newydd, wedi’i dylunio i hybu hunanystyriaeth ymysg gweithwyr fferyllol proffesiynol o’u cymhwysedd o ran tegwch diwylliannol.

Mae’r Ymgyrch Ymwybyddiaeth Ddiwylliannol yn annog y gweithlu fferyllol yng Nghymru i fynd ati’n weithredol i geisio gwybodaeth a phrofiadau pobl o wahanol ddiwylliannau, yn ogystal â’u diwylliannau eu hunain, ac arfer hunanystyriaeth o ran eu gallu i ryngweithio ag eraill mewn modd sy’n cydnabod ac yn parchu gwahaniaethau diwylliannol.

Bydd nifer o heriau i gyfranogwyr eu cwblhau ar ein gwefan dros gyfnod o bedair wythnos, o ddydd Llun 11 Ebrill hyd at ddydd Gwener 6 Mai 2022; bydd y rhain yn cynnwys offeryn hunanystyriaeth, pecynnau e-ddysgu, senarios yn seiliedig ar ymarfer a fydd yn rhannu profiadau cleifion go iawn, a llawer mwy.

Ein gobaith yw y bydd yr ymgyrch yn annog y gweithlu fferyllol i ystyried eu hymarfer a myfyrio yn ei gylch yn barhaus, yn ogystal â chwestiynu pa fodd orau y gallan nhw ddarparu gofal iechyd sy’n ymateb i anghenion ein poblogaeth amrywiol.

Yng Nghymru, mae’n Strategaeth Weithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn pwysleisio pwysigrwydd cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy ystod ein proffesiynau yn ogystal â’r effaith gadarnhaol mae arweinyddiaeth dosturiol a chynhwysol yn ei chael ar brofiadau staff a chleifion.

Mae’r ymgyrch yn canolbwyntio’n benodol ar y proffesiwn fferyllol ac yn defnyddio senarios yn seiliedig ar ymarfer a fydd yn amlygu profiadau cleifion mewn lleoliadau fferyllol. Er hyn, mae’n tîm Fferylliaeth hefyd yn annog ac yn estyn croeso i broffesiynau gofal iechyd eraill ledled Cymru ymgysylltu â’r ymgyrch.

I ganfod rhagor ac i gymryd rhan yn yr heriau, cyrchwch dudalen we’r Ymgyrch, yma.