Neidio i'r prif gynnwy

Technegydd Fferyllol yn ennill gwobr ymchwil o fri

Dyfarnwyd Gwobr Ymchwil Howard Tanner 2019 - IPDA Cymru - i Rebecca Chamberlain am ei hymchwil i rôl technegwyr fferylliaeth gymunedol o fewn GIG Cymru a'r cyfle sydd ganddynt i ddatblygu rôl.

Enillodd Rebecca,,  Technegydd Fferyllol yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) y wobr am ei thraethawd ymchwilio’r enw 'Archwilio rolau technegwyr fferyllol yn y sector fferylliaeth gymunedol yng Nghymru'.

Roedd yr ymchwil, a gefnogwyd gan AaGIC fel datblygiad proffesiynol, yn ceisio deall rolau technegydd fferyllol cyfredol, wrth nodi galluogwyr a rhwystrau i ddatblygu rôl, gan ganolbwyntio'n benodol ar addysg a hyfforddiant.

Dywedodd Rebecca yn dilyn y cyhoeddiad: "Rwy'n falch iawn o fod wedi ennill Gwobr Ymchwil Howard Tanner - IPDA Cymru

"Rwy'n teimlo'n ffodus iawn o allu arddangos potensial rôl technegydd fferyllol a gobeithio y bydd yr ymchwil ei hun, a'r wobr, yn codi ymwybyddiaeth o'n proffesiwn, gan arwain at newid cadarnhaol yn y dyfodol".

Mae AaGIC yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu a llunio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru. Mewn ymateb i gyflawniad Rebecca, dywedodd yr Athro Pushpinder Mangat, Cyfarwyddwr Meddygol AaGIC: "Yma yn AaGIC, rydym yn gwerthfawrogi datblygiad staff ar draws pob maes proffesiynol a gofal iechyd.

"Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi Rebecca sydd nid yn unig wedi ennill y wobr hon, ond sydd hefyd wedi taflu goleuni disglair ar rôl hynod bwysig technegwyr fferyllol yn ein teulu gofal iechyd ac yn ein gofal at gleifion". 

Enillodd Rebecca y wobr yn dilyn enwebiad gan ei thiwtor Dr Jan Huyton, Cyfarwyddwr Rhaglen, Fframwaith Ôl-raddedig mewn Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Wrth egluro ei henwebiad, dywedodd Dr Huyton: "Roedd gwaith Rebecca yn rhagorol yn academaidd ac yn haeddu gwobr ar y sail honno'n unig.

"Mae'r traethawd yn gwneud cyfraniad pwysig at wybodaeth a dealltwriaeth o addysg yn y gweithle i dechnegwyr fferylliaeth gymunedol, ac mae'r canfyddiadau'n berthnasol i gyd-destunau dysgu proffesiynol eraill".

Cynigir Gwobr Ymchwil Howard Tanner - IPDA Cymru - yn flynyddol ar gyfer prosiect traethawd meistr sy'n ymwneud â dysgu proffesiynol mewn lleoliad addysg yng Nghymru.

Wrth longyfarch Rebecca ar ei gwobr, dywedodd Emmajane Milton, Cadeirydd IPDA Cymru: "Roeddem yn falch iawn o ddyfarnu Gwobr Ymchwil Howard Tanner i Rebecca am ei thraethawd.

"Teimlai'r panel adolygu ei fod yn ddarn rhagorol o waith a gododd gwestiynau pwysig ar gyfer y maes, bod ganddo gryfderau sylweddol mewn perthynas â dysgu proffesiynol ac roedd ganddo botensial gwirioneddol i ddylanwadu ar newid sylweddol yn y sector".

Ar ôl cael adborth mor gadarnhaol o'i phapur cyntaf, dywed Rebecca ei bod yn gobeithio y bydd hyd yn oed mwy o gyfleoedd yn codi iddi ymchwilio yn y maes hwn. "Fy ngobaith yw y bydd technegwyr fferyllol yn gallu manteisio ar gyfleoedd ymchwil a ariennir yn y dyfodol, er mwyn hwyluso ymchwil werthfawr pellach i'r proffesiwn technegwyr fferyllol".